J. Tysul Jones

Oddi ar Wicipedia
J. Tysul Jones
Ganwyd1902 Edit this on Wikidata
Bu farwMai 1986, 1986 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethathro, llenor Edit this on Wikidata

Prifathro a llenor o Gymru oedd John Tysul Jones (1902 – Mai 1986).[1]

Ar ôl mynychu Ysgol Uwchradd Llandysul, graddiodd mewn Cymraeg o Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, yn 1923, a derbyniodd MA yn 1959. Ymysg ei gyfeillion yn Aberystwyth yr oedd Waldo Williams (1904-1971) ac Idwal Jones (1895-1937). Bu'n athro Cymraeg ym Merthyr Tudful ac yn Abertawe, yn bennaeth adran yn Llandysul, ac yna'n brifathro Ysgol Uwchradd Fodern Henllan ac Ysgol Uwchradd Castell Newydd Emlyn (1957-67).

Priododd Mair Harford Evans o sir Gaerfyrddin, a chawsant un ferch.

Bu'n olygydd y gyfrol flynyddol Cyfansoddiadau a Beirniadaethau yr Eisteddfod Genedlaethol. Bu'n olygydd hefyd y cyfrolau Yr Athro Evan James Williams, 1903-1945 (Llandysul, 1971) ac Ar Fanc Siôn Cwilt: Detholiad o Ysgrifau Sarnicol (Llandysul, 1972).

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Authority Record: Jones, J. Tysul (John Tysul), 1902-1986", Llyfrgell Genedlaethol Cymru; adalwyd 27 Medi 2020