Neidio i'r cynnwys

Irene Steer

Oddi ar Wicipedia
Irene Steer
Ganwyd10 Awst 1889 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
Bu farw18 Ebrill 1977 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethnofiwr Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata

Roedd Irene Steer (10 Awst 1889 – 18 Ebrill 1977) yn nofiwr dull rhydd o Gymru, y fenyw gyntaf o Gymru i ennill medal aur Olympaidd ac yn arloeswraig ym myd chwaraeon Cymreig i ferched.[1]

Cefndir

[golygu | golygu cod]

Ganwyd Irene Steer ar 10 Awst 1898 yng Nghaerdydd[2] a’i bedyddio yn Eglwys Anglicanaidd St John, Caerdydd ar 4 Medi o’r un flwyddyn. Roedd hi’n un o bum plentyn (ond dim ond tri i gyrraedd oedolaeth) i George Steer, dilledydd, ac Annie Chorlotte (née Lewis) ei wraig. Roedd teulu’r tad yn hanu o Odiham, Hampshire, a theulu’r fam o’r Hendy-gwyn, Sir Gaerfyrddin.[3]

Addysg

[golygu | golygu cod]

Bu Ireen Steer yn ddisgybl yn Ysgol Ganolradd Merched Caerdydd (rhan o Ysgol Uwchradd Caerdydd bellach)[4]

Gyrfa fel nofiwr

[golygu | golygu cod]

Gan fod un o’i chwiorydd hŷn yn ddioddef o’r ddarfodedigaeth (TB), a’r gred bod awyr iach ac ymarfer corff yn foddion i osgoi dal yr afiechyd, bu rhieni Irene yn mynd a hi i Faddon (pwll) Nofio Cyhoeddus, Guildford Crescent, Caerdydd yn aml.

Datblygodd yn nofiwr cryf gan ennill pencampwriaeth nofio i fenywod Cymru pob blwyddyn rhwng 1907 a 1913[5]. Enillodd Fedal Arian Pencampwriaethau Prydain ym 1908 a 1909 a’r Fedal Aur (gan gyfartalu record y byd) ym 1910.

Gemau Olympaidd 1912

[golygu | golygu cod]

Cymhwysodd Ireen Steer i gynrychioli'r Deyrnas Unedig yng Ngemau Olympaidd Stockholm, 1912.

Roedd y ffaith ei bod wedi cael yr hawl i gystadlu yn y Gemau Olympaidd yn ei gwneud hi’n arloeswr ym myd chwaraeon Cymreig i ferched. Cyn 1900 doedd merched dim yn cael cystadlu yn y Gemau Olympaidd. Ym 1912 daeth nofio i ferched yn gystadleuaeth gydnabyddedig yn y gemau, gan hynny roedd hi’n un o ferched cyntaf yn y byd i gystadlu fel nofiwr benywaidd rhyngwladol.[6]

Bu Steer yn cystadlu yn y ras dull rhudd unigol dros 100 metr, gan ennill ei rownd ragbrofol. Yn ystod y rhagbrawf bu mewn gwrthdrawiad a chyd gystadleuydd o’r Almaen (doedd dim lonydd mewn pyllau ar y pryd), ac wedi cwyn cafodd ei diarddel.

Bu’n rhan o dîm ras cyfnewid 4 x 100 metr y DU a fu’r tîm yn fuddugol, gan wneud Steer y Gymraes gyntaf i ennill medal aur Olympaidd; yn un o dair menyw Gymreig sydd wedi ennill medal aur, y ddwy arall yw Nicole Cooke (beicio, 2008) a Jade Jones (taekwondo, 2012).

Bywyd personol

[golygu | golygu cod]

Ym 1915 priododd William Nicholson, cyfarwyddwr a chadeirydd Clwb Pêl Droed Caerdydd. Bu iddynt dair merch ac un mab.

Bu farw ym 1977, 31 mlynedd cyn i fenyw Gymreig arall ennill medal aur Olympaidd.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. ↑ Cefndir i erthygl ar, ‘Fletcher, Jane (1890–1968)’, Oxford Dictionary of National Biography, Oxford University Press, May 2012; online edn, Sept 2014, adalwyd 2 Awst 2017
  2. ↑ "Irene Steer (1889–1977), swimmer, and Olympic title holder". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-07-19. Cyrchwyd 2017-08-02.
  3. ↑ Gwasanaethau Archifau Cymru, Archif Morgannwg Glamorganshire Baptisms Transcription - St John Cardiff 1889 - Tud:51
  4. ↑ Archif Morgannwg National School Admission Registers & Log-Books 1870-1914 Cofnod ESEC66/3/1
  5. ↑ The amazing tale of Wales' very first female Olympic gold medallist
  6. ↑ London 2012: How swimmer Irene Steer won Wales' first female Olympic gold