Io (mytholeg)
| Enghraifft o: | nymff Roeg |
|---|---|
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/0cq57 |

Ym mytholeg Roeg, un o offeiriadesau y dduwies Hera (Juno) yn Argos yr ymserchodd Zews ynddi oedd Io (Hen Roeg: Iώ ; IPA [ˈiːo]). Ar ôl cael cyfathrach gyda hi, newidiodd Zews y ferch yn fuwch er mwyn ceisio cuddio ei weithred.
Roedd Hera yn ddrwgdybio bwriadau ei ŵr Zews, ac anfonodd Argus Panoptes i'w gwarchod, ond anfonodd Zews Hermes (Mercher) i dynnu sylw Argus a'i ladd. Mae'r mwyafrif o'r fersiynau o'r chwedl yn dweud mai Inachus, duw afon y dywedir ei fod wedi cyflwyno cwlt Hera i ranbarth Argos, oedd tad Io.
Yn ei chenfigen, rhoddodd Hera y bai i gyd ar y ferch. Anfonodd y dduwies bla o bryfed i'w phoenydio. I geisio cael gwared ohonynt crwydrodd Io, yn rhith buwch o hyd, ar draws y byd nes cyrraedd yr Aifft. Yn ôl Herodotus, cafodd Io ei chipio gan forwyr Ffeniciaidd a'i dwyn ganddynt i'r Aifft. Cafodd Zews hyd iddi ar lan Afon Nîl. Newidiodd Zews hi yn ferch eto a rhoddodd hi enedigaeth i fab, Epaphus. Dywedir ei bod wedi priodi brenin yr Aifft neu Osiris: chwedl sy'n ceisio esbonio'r uniaethiad rhwng Io a'r dduwies Isis yn yr Hen Aifft.
Enwir y lloeren Io, un o loerennau'r blaned Iau, ar ôl yr Io chwedlonol.
Ffynonellau
[golygu | golygu cod]- Oskar Seyffert, A Dictionary of Classical Antiquities (Llundain, 1902; sawl argraffiad ar ôl hynny).