Ina Souez

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Ina Souez
Ganwyd 3 Mehefin 1903 Edit this on Wikidata
Windsor Edit this on Wikidata
Bu farw 7 Rhagfyr 1992 Edit this on Wikidata (89 oed)
Santa Monica Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner UDA UDA
Galwedigaeth canwr Edit this on Wikidata
Math o lais soprano Edit this on Wikidata

Roedd Ina Souez (3 Mehefin, 19037 Rhagfyr, 1992) yn soprano opera a jazz Americanaidd a wnaeth ei gyrfa operatig yn y Deyrnas Unedig . [1]

Ganwyd fel Ina Rains yn Windsor, Colorado, roedd hi o dras cenedl frodorol y Cherokee. Defnyddiodd cyfenw ei nain famol fel enw llwyfan pan ddechreuodd ar ei gyrfa. Astudiodd o dan Florence Hinman yn Denver, ac ym 1931 teithiodd i Ewrop, gan gymryd gwersi pellach gyda Sofia del Campo ym Milan. Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf fel Mimi mewn perfformiad o La bohème yn Ivrea, yr Eidal ym 1928. Cyn bo hir roedd yn canu yn y Teatro Massimo yn Palermo. Ym mis Mai 1929 roedd yn chware rhan Liù yn y Tŷ Opera Brenhinol, Llundain gyferbyn a Eva Turner fel Turandot yn opera Puccini. Er iddi gael derbyniad da iawn, ni chafodd ei hail alw i chware rhannau eraill gan y tŷ ar y pryd. Am y degawd nesaf, arhosodd yn Lloegr, gan ddenu sylw Hamish Wilson, a daeth a hi i sylw trefnwyr Gŵyl Glyndebourne . [2]

Ymddangosodd Souez yn Glyndebourne am y tro cyntaf ar ail noson yr ŵyl agoriadol, 29 Mai, 1934, yn canu Fiordiligi yn Così fan tutte. [3] Erbyn hyn roedd yn briod â Sais, a chafodd ei bilio fel cantores Saesnig. Derbyniwyd ei pherfformiad yn wresog, ac fe wnaeth y Tŷ Opera Brenhinol ymgysylltu â hi yn gyflym ar gyfer eu tymor nesaf. Creodd hyn broblem i Glyndebourne, gan eu bod wedi cymryd yn ganiataol y byddai'n dychwelyd ac felly nid oeddent wedi trafferthu ei llofnodi ar gyfer ŵyl y flwyddyn ganlynol. Llwyddodd i gyflawni'r ddwy rwymedigaeth, ond unwaith eto ni chafodd ei hailgysylltu gan y Tŷ Opera. Canodd Donna yn Don Giovanni i Glyndebourne, ym 1936, ac ymddangosodd yn Stockholm a Den Haag hefyd cyn dychwelyd i'r Unol Daleithiau yn ystod yr Ail Ryfel Byd, wedi i'w thŷ yn Llundain cael ei ddifrodi mewn cyrch awyr gan y Luftwaffe. Yn ystod yr amser hwn fe recordiodd Don Giovanni a Così fan tutte, y recordiadau masnachol cyntaf y o'r ddau opera. Ymunodd Souez â Chorfflu Byddin y Merched ar ôl iddi ddychwelyd i'r UD. Ymddangosodd ychydig mwy o weithiau yn Efrog Newydd, ond ymddeolodd o opera i ddod yn gantores jazz ym 1945. [4]

Treuliodd Souez ran nesaf ei gyrfa yn teithio gyda Spike Jones a'i fand jazz. O'r profiad, dywedodd fod Jones "yn cynnig rhywfaint o arian go iawn i mi"; arhosodd gydag ef am fwy na deng mlynedd cyn ymadael i fod yn athrawes llais yn San Francisco a Los Angeles. Treuliodd ychydig flynyddoedd olaf ei bywyd mewn cartref nyrsio yn Santa Monica . Mae hi wedi'i chladdu ym Mynwent Genedlaethol Los Angeles.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Macy, Laura (gol); The Grove Book of Opera Singers, tud 461. Gwasg Prifysgol Rhydychen (2008). ISBN 9780195337655
  2. Independent 10 Rhagfyr 1992 Obituary: Ina Souez adalwyd 7 Gorffennaf 2020
  3. Archif Glyndebourne Ina Souez adalwyd 7 Gorffennaf 2020
  4. Los Angeles Times, 9 Rhagfyr 1992 Ina Souez, Opera Star Who Joined Spike Jones, Dies adalwyd 7 Gorffennaf 2020