Ina Seidel

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Ina Seidel
Ganwyd 15 Medi 1885 Edit this on Wikidata
Halle (Saale) Edit this on Wikidata
Bu farw 2 Hydref 1974 Edit this on Wikidata (89 oed)
Schäftlarn Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Yr Almaen Yr Almaen
Galwedigaeth ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Gwobr/au Croes Cadlywydd Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, Medal Goethe ar gyfer Celf a Gwyddoniaeth, Gwobr Franz-Grillparzer, Gwobr Wilhelm Raabe, Urdd Teilyngdod Bavaria, Gwobr Franz-Grillparzer Edit this on Wikidata

Awdur o'r Almaen oedd Ina Seidel (15 Medi 1885 - 2 Hydref 1974) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel bardd telynegol a sgwennai mewn Almaeneg. Ymhlith ei hoff themâu roedd mamolaeth a dirgelion hil ac etifeddiaeth.

Fe'i ganed yn Halle (Saale), yn nhalaith Sachsen-Anhalt yn yr Almaen a bu farw yn Schäftlarn ym München. [1][2][3][4][5]

Magwareth[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Johanna Mathilde "Ina" Seidel yn Halle, yr hynaf o dri phlentyn. Hanner blwyddyn yn ddiweddarach symudodd y teulu i Braunschweig, lle cafodd ei magu am oddeutu deng mlynedd. Roedd ei thad, Hermann Seidel, yn uwch lawfeddyg ym mhrif ysbyty'r ddinas. Gadawodd hunanladdiad Hermann Seidel ym 1895 ei weddw a'i blant i fyw mewn amgylchiadau tlotach. Credir iddo gael ei yrru i ladd ei hun gan "wleidyddiaeth swyddfa" dyddiol yr ysbyty lle gweithiai.[6]

Roedd mam Ina Seidel, a anwyd Emmy Loesevitz (1861–1945), yn dod o deulu gogleddol. Ar ôl hunanladdiad Hermann aeth ei mam â'r plant i fyw ym Marburg ym 1896 ac yna i München ym 1897. A hithau yn ei arddegau, tua throad y ganrif daeth Ina Seidel i ymwneud â'r sîn gelf afieithus a leolwyd yn Schwiching, München.

Roedd brawd Ina Seidel, Willy Seidel (1887–1934), yn awdur hefyd ac roedd Annemarie Seidel (1894–1959), ei chwaer iau, yn actores.

Yn 1907 priododd Ina Seidel ei chefnder cyntaf, y gweinidog efengylaidd a'r awdur Heinrich Wolfgang Seidel (1876-1945). Arhosodd enw ei theulu yr un fath ag o'r blaen. Symudodd y cwpl i Berlin lle cafodd Heinrich blwyf dan ei ofalaeth. Y flwyddyn wedyn, yn dilyn genedigaeth ei phlentyn cyntaf, Heilwig, aeth Ina'n sâl gyda thwymyn. Llwyddodd i fyw bywyd confensiynol fel gwraig gweinidog, gwraig tŷ a mam, ond araf oedd ei hadferiad ac arhosodd gartref am lawer o'r amser. Ni wellodd hi'n llwyr erioed.[7]

Y llenor[golygu | golygu cod y dudalen]

Daeth ysgrifennu yn rhan bwysig o'i bywyd. Ysgrifennodd gerddi a chysylltodd â llenorion aristocrataidd a oedd yn ymgynull o amgylch Börries von Münchhausen (1874–1945) a set Göttinger Musenalmanach, gan gynnwys Lulu von Strauß und Torney (1873–1956) ac Agnes Miegel (1879–1964).


Aelodaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu'n aelod o Academi Celfyddydau Prwsa, Academi Celfyddydau Cain Bafaria am rai blynyddoedd.

Anrhydeddau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Croes Cadlywydd Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, Gwobr Franz-Grillparzer (1941)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb12206534x; ffeil awdurdod y BnF; dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  2. Rhyw: Ffeil Awdurdodi Rhyngwladol, dynodwr VIAF 59131682, https://viaf.org/, adalwyd 4 Tachwedd 2018Wikidata Q54919 Deutsche Nationalbibliothek; Berlin State Library; Bavarian State Library; Austrian National Library, https://www.dnb.de/EN/Professionell/Standardisierung/GND/gnd_node.html Gemeinsame Normdatei, https://www.dnb.de/gnd, https://www.dnb.de/EN/Professionell/Standardisierung/GND/gnd_node.html, adalwyd 9 Ebrill 2014Wikidata Q36578
  3. Dyddiad geni: Deutsche Nationalbibliothek; Berlin State Library; Bavarian State Library; Austrian National Library, https://www.dnb.de/EN/Professionell/Standardisierung/GND/gnd_node.html Gemeinsame Normdatei, https://www.dnb.de/gnd, https://www.dnb.de/EN/Professionell/Standardisierung/GND/gnd_node.html, adalwyd 9 Ebrill 2014Wikidata Q36578 http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb12206534x; ffeil awdurdod y BnF; dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. Discogs; dyddiad cyrchiad: 9 Hydref 2017; enwyd fel: Ina Seidel; dynodwr Discogs (artist): 2153516. Academy of Arts, Berlin; dyddiad cyrchiad: 9 Hydref 2017; enwyd fel: Ina Seidel.
  4. Dyddiad marw: Deutsche Nationalbibliothek; Berlin State Library; Bavarian State Library; Austrian National Library, https://www.dnb.de/EN/Professionell/Standardisierung/GND/gnd_node.html Gemeinsame Normdatei, https://www.dnb.de/gnd, https://www.dnb.de/EN/Professionell/Standardisierung/GND/gnd_node.html, adalwyd 9 Ebrill 2014Wikidata Q36578 http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb12206534x; ffeil awdurdod y BnF; dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  5. Man geni: Deutsche Nationalbibliothek; Berlin State Library; Bavarian State Library; Austrian National Library, https://www.dnb.de/EN/Professionell/Standardisierung/GND/gnd_node.html Gemeinsame Normdatei, https://www.dnb.de/gnd, https://www.dnb.de/EN/Professionell/Standardisierung/GND/gnd_node.html, adalwyd 11 Rhagfyr 2014Wikidata Q36578
  6. Karin Hausen (author); Ute Frevert; Max-planck-instit Fur Bildungsforschung (1988). Bürgerinnen und Bürger: Geschlechterverhältnisse im 19. Jahrhundert : zwölf Beiträge. Vandenhoeck & Ruprecht. t. 115. ISBN 978-3-525-35739-2.
  7. Gisela Brinker-Gabler, Karola Ludwig, Angela Wöffen: Lexikon deutschsprachiger Schriftstellerinnen 1800–1945. dtv München, 1986. ISBN 3-423-03282-0. t. 270