Ifor Davies

Oddi ar Wicipedia
Ifor Davies
Ganwyd9 Mehefin 1910 Edit this on Wikidata
Tre-gŵyr Edit this on Wikidata
Bu farw6 Mehefin 1982 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Ysgol Gowerton Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 48fed Llywodraeth y DU, Aelod o 47fed Llywodraeth y DU, Aelod o 46ed Llywodraeth y DU, Aelod o 45ed Llywodraeth y DU, Aelod o 44ydd Llywodraeth y DU, Aelod o 43ydd Llywodraeth y DU, Aelod o 42fed Llywodraeth y DU Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Lafur Edit this on Wikidata

Roedd Ifor Davies (9 Mehefin 19106 Mehefin 1982) yn wleidydd y Blaid Lafur Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol etholaeth Gŵyr o 1959 hyd ei farwolaeth ym 1982[1]

Bywyd Personol[golygu | golygu cod]

Ganwyd Ifor Davies yn Nhre-gŵyr yn fab i Jeffrey Davies, gweithiwr tunplat a phregethwr lleyg enwad yr Annibynwyr ac Elizabeth Jane ei wraig.[2] Mab i Gethin, brawd Ifor, yw Huw Irranca-Davies AC a chyn AS etholaeth Ogwr [3]

Cafodd ei addysgu yn Ysgol Ramadeg Bro Gŵyr, Coleg Technegol Abertawe a Choleg Ruskin Rhydychen lle graddiodd gyda Diploma Rhydychen mewn Economeg a Gwleidyddiaeth.

Ym 1950 priododd Doreen ferch William Griffiths, Gŵyr; bu iddynt fab a merch, mae'r mab, Wyn Davies, yn arweinydd cerddorfa sydd wedi arwain cerddorfa Cwmni Opera Genedlaethol Cymru, Opera Metropolitan Efrog Newydd ac Opera Seland Newydd.

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Wedi gadael y Coleg ym 1931 aeth Davies i weithio fel cyfrifydd yng nghwmni Rowland Jones. Ym 1942 fe'i penodwyd yn swyddog personél cwmni ICI, ym 1947 fe'i penodwyd yn was sifil yn Adran Ystadegau'r Weinyddiaeth Lafur lle fu'n gweithio am flwyddyn cyn symud i weithio gyda Chwmni Aluminium, Wire and Cable lle y bu hyd ei ethol i'r senedd.

Gyrfa Wleidyddol[golygu | golygu cod]

Ymunodd Davies a'r Blaid Lafur ym 1928 gan wasanaethu fel llywydd Ffederasiwn Gorllewin Cymru o Gynghrair Ieuenctid y Blaid ym 1935. Daeth yn ysgrifennydd Plaid Lafur Etholaethol Bro Gŵyr ym 1948 a gwasanaethodd fel asiant seneddol David Grenfell, ei ragflaenydd fel AS Gŵyr.

Etholwyd Davies i Gyngor Bwrdeistref Abertawe a Chyngor Sir Forgannwg ym 1958.

Ar ymddeoliad David Grenfell o'r senedd adeg etholiad cyffredinol 1959 dewiswyd Davies fel olynydd iddo, cadwodd y sedd i Lafur yn yr etholiad gan dal ei afael arno hyd ei farwolaeth.

Gwasanaethodd Davies fel chwip Cymreig y wrthblaid rhwng 1961 a 1964 ac ar fuddugoliaeth Llafur yn etholiad 1964 fel Arglwydd Comisiynydd y Trysorlys (chwip y llywodraeth) o 1964 i 1966. Bu'n Is Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn y Swyddfa Gymreig o 1966 i 1969. Gwasanaethodd fel ysgrifennydd grŵp Aelodau Seneddol Llafur Cymru o 1960 i 1966 a chadeirydd y Blaid Seneddol Gymreig (pwyllgor o holl ASau Cymru) ym 1970-71 a'r Uwch Bwyllgor Cymreig ym 1971.[4]

Pleidleisiodd, yn groes i'r chwip Lafur, o blaid aelodaeth y DU o'r Farchnad Gyffredin. Roedd yn un o'r chwe aelod Llafur i ymgyrchu yn erbyn polisi ei blaid dros ddatganoli i Gymru yn ystod refferendwm 1979.

Gwasanaeth Cyhoeddus amgen[golygu | golygu cod]

Fel ei dad fe wasanaethodd Davies fel ysgrifennydd capel yr Annibynwyr Cymraeg, Bro Gŵyr o 1948 hyd ei farwolaeth. Bu'n aelod o bwyllgor gweithredol Mudiad Addysg y Gweithwyr yn ne Cymru rhwng 1950 a 1960. Roedd yn aelod o Ymddiriedolaeth Dinesig Cymru o 1972 hyd ei farwolaeth ac yn Llywydd Anrhydeddus Cymdeithas Cynghorau Dinesig de Cymru a Mynwy o 1970.

Gwasanaethodd fel Cadeirydd Cyngor Prifysgol Abertawe o 1971 a dyfarnwyd Doethuriaeth LLD er anrhydedd iddo gan y brifysgol ym 1980.

Cafodd ei ddyrchafu i Orsedd y Beirdd yn Eisteddfod Genedlaethol Rhydaman 1970

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
David Grenfell
Aelod Seneddol Gŵyr
19591982
Olynydd:
Gareth Wardell