Ieithoedd Tibeto-Bwrmaidd
Siaredir ieithoedd sy'n perthyn i deulu yr ieithoedd Tibeto-Bwrmaidd (a ystyrir gan amlaf yn is-deulu o'r ieithoedd Sino-Tibetaidd, er nad oes cytundeb llwyr am hynny) mewn sawl gwlad yng nghanolbarth a de Asia, yn cynnwys Myanmar (Bwrma), Tibet, gogledd Gwlad Tai, Fietnam, Laos, rhannau o ganolbarth Tsieina (Guizhou, Hunan), gogledd Nepal, rhannau o ogledd-ddwyrain Bangladesh, Bhutan, gogledd-ddwyrain Pacistan (Baltistan), a sawl talaith yng ngogledd India (Himachal Pradesh, Uttarakhand, Sikkim, Darjeeling, Arunachal Pradesh, Assam, Nagaland, Manipur, Mizoram, Tripura, a Ladakh a Kargil yn Jammu a Kashmir).
Mae'r teulu yn cynnwys tua 350 o ieithoedd; mae gan Bwrmeg y nifer fwyaf o siaradwyr (tua 32 miliwn). Mae tua 8 miliwn Tibetiaid a phobloedd perthynol yn siarad Tibeteg neu un o'r tafodiethoedd neu ieithoedd sy'n perthyn iddi, er enghraifft yr iaith Bhutia yn Sikkim.