Idris Bell
Jump to navigation
Jump to search
Idris Bell | |
---|---|
Ganwyd |
2 Hydref 1879 ![]() Epworth ![]() |
Bu farw |
22 Ionawr 1967 ![]() Aberystwyth ![]() |
Dinasyddiaeth |
![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth |
llyfrgellydd, anthropolegydd, archeolegydd, sgolor clasurol, papurolegwr ![]() |
Cyflogwr | |
Plant |
David Bell ![]() |
Gwobr/au |
OBE, Cydymaith Urdd y Baddon, Marchog Faglor ![]() |
Roedd Syr Harold Idris Bell (2 Hydref 1879 - 22 Ionawr 1967) yn bapyrolegwr ac yn ysgolhaig yn y Clasuron Groeg a Lladin ac yn gyfieithydd llenyddiaeth Gymraeg.
Ganwyd yn Epworth, Swydd Lincoln yn fab i Sais, a'i fam yn Gymraes. Yn 1929 daeth yn Geidwad y Llawysgrifau yn yr Amgueddfa Brydeinig ac yn 1935 daeth yn Ddarllenydd er Anrhydedd mewn papyroleg ym Mhrifysgol Rhydychen. Yn 1946 daeth yn Llywydd yr Academi Brydeinig.[1]
Cyfieithodd Hanes Llenyddiaeth Gymraeg hyd 1900 Syr Thomas Parry i'r Saesneg ac fe'i cyhoeddwyd yn 1955. Hefyd cyfieithodd a chyhoeddodd ddetholiad o gerddi Dafydd ap Gwilym gyda'i fab Dafydd Bell, sef Dafydd ap Gwilym: Fifty Poems, yn 1942.
Ffynonellau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Y Brenhinbren. Derec Llwyd Morgan. Gwasg Gomer. 2013.