Huw Huws neu y Llafurwr Cymreig
Enghraifft o'r canlynol | gwaith llenyddol |
---|---|
Awdur | Lewis William Lewis |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | 1860 |
Mae Huw Huws neu y Llafurwr Cymreig gan Lewis William Lewis (Llew Llwyfo) yn nofel a gyhoeddwyd gyntaf ym 1860. Cyhoeddwyd y llyfr gan wasg L. Jones, Caergybi ar ran pwyllgor Cylchwyl Lenyddol Caergybi.
Awdur
[golygu | golygu cod]Roedd Llew Llwyfo (1831-1901) yn fardd, nofelydd, canwr a newyddiadurwr a anwyd yn Llanwenllwyfo, Môn. Cyn sefydlu ei hun fel llenor a newyddiadurwr bu'n gweithio fel mwynwr yng ngwaith copr Mynydd Paris, brethynnwr, siopwr ac athro. Bu'n olygydd a chyfrannwr i nifer o bapurau Cymraeg yng Nghymru a'r Unol Daleithiau gan gynnwys Y Cymro, Yr Amserau, Y Gwladgarwr, Y Glorian, Y Faner, Yr Herald, Y Gwron, Gwalia, Y Genedl a'r Wasg. [1]
Ymysg ei gyhoeddiadau eraill mae:
- Awen Ieuanc, 1851;
- Llewelyn Parri: neu y Meddwyn Diwygiedig (nofel), 1855;[2]
- Llyfr y Llais, 1865;
- Troadau yr Olwyn, 1865;
- Gemau Llwyfo, 1868;
- Y Creawdwr. Cerdd ddysg, 1871;
- Cyfrinach Cwm Erfin,
- Y Wledd a'r Wyrth
- Buddugoliaeth y Groes (arwrgerdd), 1880;
- Cydymaith yr herwheliwr
- Chwedl Wledig, 1882;
- A Selection of Sacred and Secular Lyrics from the Welsh with English versions, by Llew Llwyfo.
Cefndir
[golygu | golygu cod]Bu Huw Huws yn fuddugol yng Nghylchwyl Lenyddol Caergybi, Nadolig 1859, am gystadleuaeth oedd yn ofyn am ffugdraeth (nofel) am y Llafurwr Cymreig. Y wobr oedd £1/10/-.[3]
Y beirniad oedd John Evans (I.D. Ffraid). Mae ei feirniadaeth wedi ei gyhoeddi fel rhagdraeth i argraffiad cyntaf y nofel.[4] Roedd pedwar wedi cystadlu, dim ond un ohonynt yn "ffugdraeth" go iawn, sef y buddugol. Ei feirniadaeth bennaf am Huw Huws oedd "buasai yn ddymunol i'r awdwr ddilyn y Llafurwr yn fanylach yn ei arferion wrth y bwrdd, yn y maes, yn yr addoldy"
Er gwaethaf ei deitl, nid yw yn llyfr yn sôn am hawliau'r llafurwr nac ormes y llafurwr yn y cyfnod, mae'n llyfr am ddyletswydd y llafurwr i'w meistr a'i Dduw.
Trosolwg
[golygu | golygu cod]Mae'r hanes yn cychwyn trwy ein cyflwyno i deulu Huw Huws. Teulu sy'n byw wrth droed mynydd Bodafon Môn. Mae ei dad, William Huws, a'i fam Marged yn ddeuddyn dedwydd, boddlon, a diwyd[5] Yn ogystal â Huw, eu plentyn hynaf ac unig fab mae gan William a Marged tair merch Mari, Lowri a Sarah. Mae'r teulu yn weddol gyffyrddus eu byd. Mae gan William swydd gyfrifol ar ystâd Bodonen fel hwsmon (goruchwyliwr gweision yr ystâd). Yn rhinwedd ei swydd cafodd bwthyn clwm "Tŷ gwyn" fel cartref iddo ef ai'i deulu. Mae'r teulu yn un grefyddol yn mynychu capel anghydffurfiol lleol ac yn cadw'r ddyletswydd deuluaidd[dd 1]. Mae'r plant yn mynychu'r ysgol ddyddiol a'r ysgol Sul.
Ond mae cwmwl du ar y gorwel. Mae Mr Price, sgweier ystâd Bodonen, wedi mynd i drafferthion ariannol, ac mae'r beilïaid wedi eu galw i atafaelu ei holl eiddo. Yn sgil hyn mae William Huws yn colli ei swydd a'r bwthyn sydd ynghlwm a'r swydd.[7]
Mae gan William Huws brawd, Owen, sy'n byw a gweithio yn Lerpwl.[dd 2] Mae William yn penderfynu mynd at ei frawd i chwilio am waith. Mae'r Parchedig Mr Lloyd, ei weinidog, yn ei rybuddio i beidio â symud ei deulu i'r dref fawr[dd 3] cyn cael sicrwydd bod swydd dda ar gael iddo yno. Mae William yn anwybyddu'r cyngor.[8]
Yng nghanol y 19 ganrif, doedd pob gweinidog anghydffurfiol ddim yn derbyn cyflog swydd lawn-amser, a bu'n rhaid iddynt wneud swydd amgen i gynnal eu teuluoedd. Roedd John Jones, Talsarn yn arolygwr chwarel, roedd John Elias yn cadw siop ac fel Cadwaladr Jones roedd Mr Lloyd yn ffarmwr yn ogystal â gweinidog. Mae Mr Lloyd yn cynnig swydd i Huw Huws, fel gwas ffarm (llafurwr amaethyddol yn ôl dynodiad swyddogol y cyfrifydd genedlaethol[9].) Mae Huw yn derbyn y swydd ac yn aros ym Môn, tra fo gweddill ei deulu yn mynd i Lerpwl.
Yn ogystal â gweithio i Mr Lloyd mae'r gweinidog yn sicrhau bod Huw yn parhau gyda'i addysg grefyddol, cyffredinol a llenyddol. O dan arweiniad Mr Lloyd mae'r bachgen yn tyfu i fod yn laslanc, cryf, cydwybodol, diwylliedig ac yn was ffyddlon i'w meistr daearol a'i feistr Nefol.
Ar ôl rhai blynyddoedd mae Mr Lloyd yn cael galwad i fugeiliaeth Eglwys lawer mwy, mewn tref fawr, boblogaidd. Mae o'n derbyn yr alwad ac yn rhoi'r gorau i'w ffarm.[10]
Mae ymadawiad Mr Lloyd yn golygu bod rhaid i Huw Huws mynd i'r ffair pen tymor i geisio am le newydd.[dd 4]
Roedd Mr Lloyd wedi rhoi gair da am Huw i nifer o'r ffermwyr cyfrifol oedd yn rhan o'i braidd, gan gynnwys Mr Owens, Plas Uchaf. Roedd llanc arall yn y ffair yn gobeithio am le ym Mhlas Uchaf, Siôn Parri'r Waen. Roedd Siôn Parri yn hogyn cryf a chyhyrog, ac felly'n addas at ei gyflogi ar gyfer llafur caled, ond roedd yn fachgen anystywallt a oedd yn hoff o gwffio ac o ddiota. Cynigiodd Mr Owens y lle i Huw, gan ei fod yn ddirwestwr, o gymeriad da a oedd yn gallu defnyddio ei ben yn ogystal â'i chyhyrau.[12] Wedi clywed bod Huw Huws wedi "dwyn" ei le ym Mhlas Uchaf mae Siôn yn mynd i chwilio am Huw er mwyn rhoi curfa iddo. Trwy ddefnyddio ei graffter a'i gryfder mae Huw yn llwyddo i drechu ei elyn ac i'w gyflwyno i'r heddlu. Mae Siôn yn gwario gweddill o'r ffair yn y celloedd yn tyngu cael dial ar Huw.[13]
Daeth Huw Huws yn aelod gwerthfawr o weithlu Plas Uchaf, mae'n llwyddo cael dyrchafiad i ofalu am ardd ac adeiladwaith y plas a chodiad cyflog hael. Mae o hefyd yn dechrau cael enw iddo'i hyn am ei grefyddoldeb, ei ddirwest a'i gyfraniadau fel llenor a bardd i eisteddfodau'r cylch.
Er bod bywyd yn braf i Huw, roedd pethau yn tra gwahanol i'w deulu yn Lerpwl:
"Byddai [William Huws] weithiau yn cael gwaith cyson am fisoedd, ac adegau eraill heb waith am wythnosau olynol. Yr oedd hyn yn eu cadw mewn tlodi parhaus, ac yn analluogi William i roddi yr addysg, na'r ymborth, na'r dillad, a ddymunai roddi i'w dair geneth."
Roedd y teulu yn byw mewn tŷ teras gwael ac afiach. Roedd Mari yn orweddog gyda'r diciâu. Roedd Lowri wedi cael llond bol o dlodi a diffygion ei chartref ac wedi dechrau cymysgu efo criw drwg, yn aros allan yn hwyr y nos, ac yn cael rhywfodd i brynu dillad crand. Wedi dadlau efo ei rhieni am ei ymddygiad penderfynodd ymadael a'r teulu a mynd i fyw efo'i chyfeillion newydd. Yn hytrach na mynd i'r ysgol bu'n rhaid i Sarah bach cynorthwyo ei mam fel golchwraig er mwyn ennill ychydig pitw at dreuliau'r teulu.[14]
Roedd ei rieni yn danfon llythyrau achlysurol i Huw, heb grybwyll eu trallodau, ond roedd Huw yn gallu darllen rhwng y llinellau:
". . . rhyw dôn drist ar bob un o'u llythyrau, er eu bod yn ymdrechu cuddio pob trallod oddiwrthyf fi. Ond y mae serch yn beth pur graff; ac yr wyf yn sicr fod fy nhad a fy mam, a fy chwiorydd truain, wedi dyoddef llawer, os nad yn parhau i ddyoddef;"[15]
Ar ddiwedd cynhaeaf llwyddiannus iawn i'r Plas Uchaf cynhaliwyd gwledd i'r gweithwyr a gwahoddwyd y cyn gweinidog Mr Lloyd i gau'r wledd gyda defosiwn o ddiolchgarwch am y cynhaeaf. Mynegodd Huw ei bryderon am ei deulu a dwedodd Mr Lloyd iddo fod hen gyfaill iddo newydd ddychwelyd o Lerpwl a'i fod ef wedi sôn nad oedd hi'n gysurus iawn ar y teulu Huws. Mae Mr Lloyd hefyd wedi clywed bod tenant eu hen gartref, Tŷ Gwyn, ar fin ymadael ac mae'n addo gwneud ymholiadau am y posibilrwydd o'i ail osod i deulu Huws. Mae Mr Lloyd a Mr Owens y Plas yn awgrymu bod Huw yn mynd am dro i Lerpwl i ganfod gwir hynt ei deulu ac i weld beth yw eu hanghenion.
Bore drannoeth, synnwyd Huw wrth gael ei hysbysu fod llythyr yn y tŷ, wedi ei gyfeirio ato ef, o'r America. Mae'r llythyr oddi wrth Harri Parri, hen gymydog i'r teulu a thad bedydd Huw a oedd wedi ymfudo blynyddoedd yn ôl. Roedd Mr Parri ar ei wely angau, ac mae'n ysgrifennu i roi gwybod i Huw ei fod wedi trosglwyddo £300 i fanc ym Mangor fel cymynrodd iddo.[16]
Cyn iddo fynd i Lerpwl i ymweld â'i deulu mae Huw yn cymryd diwrnod arall yn rhydd o'i waith i gerdded i Fangor i godi ei £300. Ar ei ffordd yn ôl mae'r tywydd yn troi'n wlyb ac mae o'n canfod cysgod rhag y glaw mewn hen geubren[dd 5]. Wrth gysgodi mae'n clywed trafodaeth rhwng dau ddyn ar y ffordd. Y ddau yw Twm Dafydd, dyn tlawd sydd yn enbyd eisiau ffordd hawdd o gael arian a Siôn Parri, gelyn Huw Huws o'r ffair pen tymor. Mae'r ddau wedi clywed bod Huw wedi cael ffortiwn a'i fod wedi mynd i Fangor i'w codi, ac mae'n debyg y bydd yn dychwelyd ar hyd y ffordd yna. Bwriad y ddau oedd ymosod arno ar y ffordd a dwyn ei arian. Mae Huw yn penderfynu aros lle y mae, hyd i'r ddau leidr blino ag aros. Ar ôl rhyw awr mae'r lladron yn penderfynu eu bod wedi methu Huw ac yn dyfeisio cynllun arall i ddwyn ei arian. Mae Siôn yn mynd i lofft Huw yng nghanol nos wedi ei wisgo fel ysbryd ac yn dweud wrtho y bydd yn farw yn y nos a mynd i'r uffern oni bai ei fod yn ildio ei olud bydol. Wedi clywed y cynllun o'i guddfan yn y ceubren, mae Huw yn cogio ei fod wedi ei ddychryn gan neges "yr ysbryd" ac yn dweud lle mae'r arian wedi cuddio. Mae Siôn yn mynd i'r "cuddfan" ond mae cael ei ddal yn sownd gan drap dynion a osodwyd yno gan Huw.[dd 6]. Mae Huw yn rhoi sofran i Siôn ac yn ei orchymyn i'w ddefnyddio i ymadael â Môn am byth, neu gael ei osod yn nwylo'r gyfraith am geisio dwyn arian.[19]
Mae Huw yn mynd i Lerpwl. Mae'n synnu at ba mor dlawd ei olwg, heb wres na dodrefn, yw tŷ ei deulu. Yr unig un sydd adref, yw Mari sydd ar ei gwely angau oherwydd y ddarfodedigaeth. Mae'n prynu sach o lo i gynnau tan a bwyd i roi ar y bwrdd. Pan mae Marged a Sarah yn dychwelyd o'u gorchwyl o olchi dillad i'r cymdogion mae hi'n dweud bod ei dad yn gweithio ym Mhenbedw ac y bydd yn dychwelyd ar y fferi sy'n cyrraedd am 6 o'r gloch. Mae Huw yn mynd i lawr i'r dociau i ddisgwyl amdano. Mae putain yn dod ato ac yn cynnig ei gwasanaeth iddo, pan mae Huw yn troi ati i wrthod ei chynnig mae hi'n rhoi bloedd ac yn neidio i ddŵr y doc. Pan mae William Huws yn dod oddi ar y fferi mae'n adnabod y butain sydd newydd ei hachub o'r dyfroedd fel Lowri ei ferch. Mae Huw a'i dad yn mynd a hi gartref ac mae Huw yn talu am feddyg i'w thrin hi.[20]
Mae Mari yn farw mewn hedd, wedi cael cyfle i weld ei frawd am y tro olaf. Deuddydd wedyn mae Lowri hefyd yn marw. Mae gweddill y teulu yn dychwelyd i Fôn , lle mae Huw yn defnyddio rhan o'i gymunodd i brynu'r Tŷ Gwyn fel cartref iddynt.[21]
Argaeledd
[golygu | golygu cod]Gan fu farw yr awdur cyn 1924, mae y llyfr felly yn y parth cyhoeddus mewn gwledydd sydd â thymor hawlfraint bywyd yr awdur ynghyd â 100 o flynyddoedd neu lai.
Mae'r llyfr bellach allan o brint ond mae modd ei ddarllen ar Wicidestun-Huw Huws neu y Llafurwr Cymreig
Nodiadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gwasanaeth crefyddol hwyrol yn y cartref i aelodau a gweision (os oes rhai) y teulu. Yn cynnwys darlleniad o'r Beibl, canu emyn a gweddi fel arfer [6]
- ↑ Llynlleifiaid a Nerpwl gelwir y dref yn y llyfr
- ↑ daeth Lerpwl yn ddinas ym 1880
- ↑ Cynhaliwyd ffeiriau pen tymor trwy'r Gymru Wledig hyd at ddechrau'r 20 ganrif, fel arfer yn nhymor y gwanwyn a thymor yr hydref. Byddai'r rhai oedd yn dymuno cael eu cyflogi fel gweision neu forwynion amaethyddol yn mynychu'r ffeiriau gan obeithio byddai ffermwyr yn dod atynt i gynnig swydd iddynt am y tymor nesaf. Wedyn bydden nhw’n taro bargen, yn cytuno ar gyflog, llety a thelerau.[11]
- ↑ Pren neu goeden wedi ceuo (gwacau) oddi mewn, yn enwedig gan henaint a phydredd. c.f. Ceubren yr Ellyll, lle cuddiodd Glyndŵr gorff ei gefnder Hywel Sele[17]
- ↑ Dyfais mecanyddol ar gyfer dal potswyr a thresmaswyr. [18]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- Lewis (Llew Llwyfo), Lewis William (1860). .
- ↑ "LEWIS, LEWIS WILLIAM ('Llew Llwyfo '; 1831 - 1901), bardd, nofelydd, a newyddiadurwr | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2024-12-11.
- ↑ Wicidestun-Llewelyn Parri (nofel)
- ↑ hysbyseb a rhestr testunau yn Y Punch Cymraeg 20/08/1859
- ↑ Huw Huws 1860, t. 3-4.
- ↑ Huw Huws 1860, t. 5.
- ↑ GPC-Dyletswydd
- ↑ Huw Huws 1860, t. 9.
- ↑ Huw Huws 1860, t. 10.
- ↑ Yr Archif Genedlaethol; Census records. Adran 9 Common census terms and abbreviations-Ag Lab"
- ↑ Huw Huws 1860, t. 17.
- ↑ Hwb addysg llywodraeth Cymru Hanesion Teuluoedd tud 13 Ffeiriau
- ↑ Huw Huws 1860, t. 26-27.
- ↑ Huw Huws 1860, t. 27-29.
- ↑ Huw Huws 1860, t. 30-32.
- ↑ Huw Huws 1860, t. 36.
- ↑ Huw Huws 1860, t. 45-47.
- ↑ GPC-Ceubren
- ↑ The Museum of English Rural Life -Man Traps
- ↑ Huw Huws 1860, t. 48-51.
- ↑ Huw Huws 1860, t. 52-55.
- ↑ Huw Huws 1860, t. 55.