Llanwenllwyfo

Oddi ar Wicipedia
Llanwenllwyfo
Mathplwyf Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlGwenllwyfo Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirYnys Môn Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.378505°N 4.292544°W Edit this on Wikidata
Map
Crefydd/EnwadAnglicaniaeth Edit this on Wikidata
EsgobaethEsgobaeth Bangor Edit this on Wikidata
Map o gymuned Llaneilian, gan ddangos hen blwyf Llanwenllwyfo a lleoliadau'r eglwysi.

Plwyf eglwysig ar Ynys Môn yw Llanwenllwyfo, sy'n gorwedd ar yr arfordir yng ngogledd-ddwyrain ger Dulas, Ynys Môn. Enwir yr eglwys a'r plwyf ar ôl y santes leol Gwenllwyfo.[1] Fel gweddill plwyfi'r ynys, mae'n rhan o Esgobaeth Bangor.

Ni wyddys ddim o gwbl am y Santes Wenllwyfo. Dethlir ei gŵyl ar 30 Tachwedd.[2] Mae'r hen eglwys yn adfail a dim ond rhannau isaf y muriau sy'n aros.[3] Saif yr eglwys newydd ger pentref bychan Dulas.

Adfeilion yr hen eglwys
Adfeilion yr hen eglwys
Yr eglwys newydd
Yr eglwys newydd
Dwy eglwys Llanwenllwyfo: adfeilion yr hen eglwys a'r eglwys newydd.

Yn yr Oesoedd Canol roedd y plwyf yn rhan o gwmwd Twrcelyn yng nghantref Cemais. Cofnodir fod Llanwenllwyfo gyda Llanysgallog yn rhan o reithoriaeth Amlwch ac yn perthyn i Archddiacon Môn yn 1535.[4]

Roedd y llenor Lewis William Lewis (1831–1901) yn frodor o'r plwyf. Fe'i ganed ym Mhenysarn ar 31 Mawrth 1831. Cymerodd ei enw barddol "Llew Llwyfo" o enw'r plwyf.

Lleoedd yn y plwyf[golygu | golygu cod]

Pentrefi bychain:

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Melville Richards, 'Enwau lleoedd', Atlas Môn (Llangefni, 1972).
  2. T. D. Berverton, The Book of Welsh Saints (Caerdydd, 2001).
  3. Hen Eglwys Llanwenllwyfo
  4. A. D. Carr, Medieval Anglesey (Llangefni, 191982), tud. 276.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]