Lewis William Lewis (Llew Llwyfo)
| Lewis William Lewis | |
|---|---|
| Ffugenw | Llew Llwyfo |
| Ganwyd | 31 Mawrth 1831 Llanwenllwyfo |
| Bu farw | 23 Mawrth 1901 Y Rhyl |
| Dinasyddiaeth | |
| Galwedigaeth | bardd, newyddiadurwr |
| Cyflogwr | |
| Plant | Eleanor Lewis |
Canwr, bardd, nofelydd a newyddiadurwr o Gymru oedd Lewis William Lewis (31 Mawrth 1831 – 23 Mawrth 1901), fu'n adnabyddus wrth ei enw barddol Llew Llwyfo (neu "Y Llew" ar lafar).
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Bywyd Cynnar
[golygu | golygu cod]Ganed Llew Llwyfo ym mhentref Penysarn, Llanwenllwyfo, ger Amlwch, Ynys Môn. Roedd ei dad yn fwynwr a weithiai yng ngwaith copr Mynydd Parys.[1] Ychydig iawn o addysg gafodd Llwyfo ac erbyn ei arddegau cynnar roedd ef ei hun eisoes yn gweithio yn y gwaith hefyd; ychydig yn ddiweddarach fodd bynnag daeth yn brentis i frethynnwr ym Mangor. Yn ddiweddarach wedyn dychwelodd i gadw siop ei hun ym Mhensarn ac wedyn ysgol yn Llanallgo, ond nid arhosodd yn y swyddi amrywiol hyn yn hir.
Yn ystod ei gyfnod ym Mangor cyfarfu Llew Llwyfo â'r bardd Gwilym Gwalia (William Lewis, 1814-78), a ddysgodd hanfodion crefft y bardd iddo, er bod ei waith cynnar yn ieithyddol wallus, canlyniad o bosib i'w ddiffyg addysg.[2] Erbyn 1848 roedd yn ddigon medrus ar y gynghanedd i fentro cystadlu mewn eisteddfodau ac mewn eisteddfod y flwyddyn honno yn Llannerch-y-medd derbyniodd ei ffugenw, Llew Llwyfo.[2] Roedd yn bresennol yn Eisteddfod Aberffraw 1849, a bu'n dyst i drafferthion y bardd Talhaiarn yno; daeth yn ail ei hun hefyd mewn cystadleuaeth farddonol yno, a chanu yn gyhoeddus am dâl am y tro cyntaf yn ei fywyd.[3]
1850-1868
[golygu | golygu cod]
Yn 1850 symudodd i Gaergybi wedi i berchennog y siop ym Mangor ymfudo. Mynychodd Eisteddfod Rhuddlan yn 1850 pan wobrwywyd y Gadair i Ieuan Glan Geirionydd am bryddest yn lle awdl; daeth Llew yn blediwr i'r bryddest[4] ac aeth ymlaen i gyfansoddi dwsinau ohonynt dros weddill ei oes,[5] gan nodi yn y rhagymadrodd i un o'i gyfrolau o farddoniaeth mai ei uchelgais mawr oedd cyfansoddi arwrgerdd genedlaethol Gymreig.[6] Cyhoeddodd ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth, Awen Ieuanc, yn 1851.
Symudodd nifer o weithiau eto ar ddechrau'r 1850au ac erbyn 1853 roedd yn byw yn Nhreffynnon pan gafodd ei swydd newyddiadurol gyntaf gyda Y Cymro.[7] Hon oedd y cyntaf o nifer o swyddi iddo weithio ynddynt ar ystod o bapurau newyddion Cymraeg mewn gwahanol leoliadau, gan gynnwys cyfnod fel golygydd Y Glorian yng Nghasnewydd. Roedd yn dod yn gynyddol boblogaidd fel canwr, a daeth yn athro i nifer o gantorion ifanc, gan gynnwys Edith Wynne, a ymddangosodd gyda Llwyfo ar lwyfan am y tro cyntaf yn 1852.[7] Byddai'n teithio'n aml o gwmpas Cymru i gynnal cyngherddau a darlithio ar farddoniaeth; symudodd am gyfnod i Aberdâr ac yn 1855 enillodd gystadleuaeth ar nofel ddirwest gyda'i nofel gyntaf, Llewelyn Parri. Ymddangosodd dwy nofel eto ganddo yn yr 1860au, Huw Huws yn 1860 a Troad yr Olwyn yn 1865.
Erbyn yr 1860au roedd ar anterth ei boblogrwydd fel canwr, a'i enw'n ddigon i lenwi neuaddau mawr. Fodd bynnag, gyda'r werin yn hytrach na'r dosbarth canol roedd ei boblogrwydd fwyaf; a bu hefyd yn gyff gwawd i nifer o gerddorion mwy proffesiynol, yn eu plith Brinley Richards, oedd wedi derbyn hyfforddiant mwy ffurfiol. Cyhuddodd y cerddorion proffesiynol hyn Llew Llwyfo o ddiffyg chwaeth, ac o ganu caneuon masweddus.[8]
1868-1880
[golygu | golygu cod]Yn anad dim, ymddengys, mewn ymgais i wneud arian, teithiodd Llwyfo i'r Unol Daleithiau yn 1868 am daith fyddai'n parhau yn y pendraw am bum mlynedd.[9] Roedd ei gyngherddau yno'n boblogaidd ac yn 1869 cyhoeddodd ddwy gyfrol gwahanol o farddoniaeth dan yr un teitl, Gemau Llwyfo. Cyhoeddwyd un o'r rhain yn Lerpwl a'r llall yn Utica, Efrog Newydd; er gwaetha'r un teitl mae cynnwys y ddwy gyfrol yn wahanol, gyda'r gyfrol a gyhoeddwyd ym Mhrydain yn canolbwyntio ar ei gerddi byrion a'r gyfrol Americanaidd yn cynnwys sawl arwrgerdd.[10]
Dychwelodd i Gymru yn 1873, ac er y bu'r daith yn llwyddiannus, byddai ei yrfa fel canwr cyngerdd yng Nghymru'n machlud yn "araf ond sicr" dros weddill y ddegawd.[11]
Degawdau Olaf: 1880-1901
[golygu | golygu cod]
Ymddengys mai 1880 oedd y tro olaf iddo ganu ar lwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol.[12] Roedd erbyn hyn yn dlawd - treuliodd gyfnod mewn wyrcws - ac yn cynnal ei hun, o leiaf yn rhannol, drwy ennill gwobrau barddonol.[5] Roedd ei fuddugoliaeth yng nghystadleuaeth Coron yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1895 yn annisgwyl, ac yntau erbyn hynny wedi cilio bron yn gyfangwbl o fywyd cyhoeddus.[13]
By farw yn Y Rhyl a chladdwyd ef ym Mynwent Llanbeblig, Caernarfon.[14]
Bywyd Personol
[golygu | golygu cod]Priododd Llew Llwyfo â Sarah Hughes (1830-1889) yn 1850.[15] Cawsant nifer o blant. Er nad oes tystiolaeth pendant i brofi bod Llwyfo yn anffyddlon i'w wraig, yn ôl ei gofiannydd Eryl Wyn Rowlands mae traddodiad yn y teulu bod Llew Llwyfo wedi mwynhau nifer o anturiaethau carwriaethol y tu allan i'w briodas, gyda'i ddisgybl Edith Wynne, o bosib, ymhlith ei gariadon. Mae'n arwyddocaol hefyd iddo dreulio cyfnodau lawer o'i oes oddi cartref gan adael Sarah ar ôl, gan gynnwys ei gyfnod yn Aberdâr a phan aeth i'r Unol Daleithiau am bum mlynedd.[16]
Roedd Llew Llwyfo'n ffigwr dadleuol a gâi drafferth wrth dderbyn beirniadaeth; dadleuai'n aml gyda'i gyd-Gymry. Roedd yn alcoholig am gyfnodau hirion o'i fywyd (er gwaethaf themâu dirwestol ei nofelau)[16] a châi broblemau mynych wrth drin arian;[17] byddai problemau personol fel hyn yn cael effaith andwyol ar ei yrfa.
Gwaddol
[golygu | golygu cod]Fel Cerddor
[golygu | golygu cod]Denai cyngherddau Llew Llwyfo dorfeydd mawrion. Ar anterth ei boblogrwydd yn ystod yr 1860au roedd yn ffigwr blaenllaw yn yr eisteddfodau ac roedd ei gyngherddau cyhoeddus yn yr Unol Daleithiau yn ddigon poblogaidd i'w gynnal yno am bum mlynedd wrth grwydro'r wlad honno'n perfformio i Gymry alltud. Roedd yn athro i gantorion eraill, Edith Wynne yr enwocaf yn eu plith. Roedd ganddo berthynas dda gyda rhai cyfansoddwyr megis Joseph Parry ac ysgrifennodd eiriau i'w gosod ganddynt, ac ambell i alaw wreiddiol a osodwyd i gyfeiliant wedyn gan eraill. Fodd bynnag wrth i'r ganrif fynd rhagddo ac wrth i gerddorion Cymru ymbroffesiynoli dan ddylanwad cynyddol y colegau cerddorol ac ymbarchuso dan ddylanwad moeseg yr oes, dechreuwyd ystyried Llwyfo yn gymeriad masweddus, anghelfydd braidd, ac erbyn diwedd yr 1870au roedd y gwahoddiadau wedi dechrau mynd yn fwyfwy anaml, a'r cynulleidfaoedd yn llai. Prif sylwedd ei repertoire oedd caneuon poblogaidd ac fe feirniadwyd ei chwaeth gan rai; nid oes cofnod iddo erioed ganu aria operatig.[11]
Fel Llenor
[golygu | golygu cod]
Roedd Llew Llwyfo yn fardd toreithiog o ran ei allbwn, yn enwedig wrth gystadlu mewn Eisteddfodau. Enillodd nifer fawr o fân wobrwyau Eisteddfodol ond rhaid ystyried hyn yng nghyd-destun ei allbwn enfawr: ni ellir bod yn hollol sicr faint o bryddestau iddo eu cyfansoddi i ymgeisio ar gyfer gwobrau Eisteddfodol ond mae'n ymddangos iddo wneud hynny o leiaf naw o weithiau ar gyfer Eisteddfodau Cenedlaethol yn unig; yn rhannol os nad yn bennaf er mwyn cynnal ei hun gyda'r arian a roddid am ennill.[5] Enwir dwsinau o bryddestau eraill yn ei gofiant, y mwyafrif helaeth bellach ar goll. Mor gynnar â 1860 cyfaddefodd ei fod yn "canu am wobrau".[18] Nid oes un cerdd ganddo yn Blodeugerdd Barddas o'r Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg na'r Oxford Book of Welsh Verse. Cyhuddwyd ef o len-ladrad ar adegau,[19] a honnai T. Gwynn Jones bod Llwyfo yn arfer dweud mai dim ond y gallu i gyfieithu o'r Saesneg oedd ei angen i ennil y Goron.[20]
Wedi iddo farw gadawodd lawysgrif cyfrol anghyhoeddiedig o'r enw Llafur Llwyfo, sef ei ddetholiad o'i weithiau barddonol, sy'n cynnwys yr unig gopiau o lawer o gerddi iddo eu hysgrifennu ar ôl 1868; ond yn ôl ei gofiannydd "nid yw ei delynegion yn dod i'r un cae â geiriau Talhaiarn neu Ceiriog."[21]
Er mai pethau digon achlysurol iddo oedd ei nofelau, hwythau sydd wedi derbyn y sylw mwyaf gan feirniaid diweddarach, os dim ond oherwydd eu bod yn hanu o gyfnod mor gynnar yn hanes y nofel Gymraeg. Roedd Llewelyn Parri (1855) yn un o'r nofelau cynharaf yn y Gymraeg i ymddangos ar ffurf cyfrol, ac roedd Richard Hughes Williams yn ei hystyried hi'n nofel bwysig gan ddweud ei bod hi'n fwy "diddorol" na Rhys Lewis.[22] Ystyriai Dafydd Jenkins bod Llewelyn Parri ymhlith "[g]oreuon dosbath y chwedlau nad ydynt nofelau".[23] Tair nofel lawn - Llewelyn Parri, Huw Huws a Troad yr Olwyn a thair nofelig fer - Cyfrinach Cwm Erfin, Y Wledd a'r Wyrth a Cydymaith yr Herwheliwr o eiddo Llew Llwyfo sydd wedi goroesi. Ymddengys iddo ysgrifennu nofel o'r enw John Jones sydd bellach wedi'i cholli.[24]
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]Cyhoeddiadau
[golygu | golygu cod]- Awen Ieuanc (1851)
- Llewelyn Parri: neu y Meddwyn Diwygiedig (nofel) (1855)
- Huw Huws neu y llafurwr Cymreig (nofel) (1860)
- Llyfr y Llais (1865)
- Troadau yr Olwyn (nofel) (1865)
- Gemau Llwyfo (Lerpwl, 1868)
- Gemau Llwyfo (Utica, 1868; cyfrol wahanol i'r uchod)
- Y Creawdwr (1871)
- Cyfrinach Cwm Erfin, a Y Wledd a'r Wyrth (dwy nofelig yn yr un gyfrol; dim dyddiad)
- Buddugoliaeth y Groes (1880)
- Cydymaith yr herwheliwr: neu a gollwyd ac a gafwyd. Chwedl Wledig (nofelig) (1882)
- Adgofion Llew Llwyfo o'i Ymdaith yn America, ganddo ef ei hun
- Bywgraffiad Llew Llwyfo, yn llenyddol, cerddorol, ac eisteddfodol, wedi ei ysrifennu ganddo ef ei hun (Llyfrau Ceiniog Humphreys Caernarfon)
- John Jones (nofel a gollwyd[24])
Ffynonellau
[golygu | golygu cod]- Rowlands, Eryl Wyn (2001). Y Llew oedd ar y Llwyfan. Gwasg Pantycelyn.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Rowlands, t. 14.
- ↑ 2.0 2.1 Rowlands, t. 27.
- ↑ Rowlands, t. 30.
- ↑ Rowlands, t. 33.
- ↑ 5.0 5.1 5.2 Rowlands, t. 147-149.
- ↑ Llew Llwyfo, Gemau Llwyfo, Utica t.119
- ↑ 7.0 7.1 Rowlands, t. 38.
- ↑ Rowlands, t. 54-55.
- ↑ Rowlands, t.90.
- ↑ Rowlands, t. 90-93.
- ↑ 11.0 11.1 Rowlands, t. 143.
- ↑ Rowlands, t. 145.
- ↑ Rowlands, t. 178.
- ↑ Eryl Wyn Rowlands, Y Llew oedd ar y Llwyfan (Gwasg Pantycelyn, 2001)
- ↑ Rowlands, t. 32.
- ↑ 16.0 16.1 Rowlands, t. 198.
- ↑ Rowlands, t. 141.
- ↑ Millward, E. G. Yr Arwrgerdd Gymreig, t.154
- ↑ Rowlands, t. 53.
- ↑ Jones, T. Gwynn Llenyddiaeth Cymru, t. 30.
- ↑ Rowlands, t. 159-60.
- ↑ Jenkins, Dafydd "Y Nofel Gymraeg Gynnar" yn Williams, Gerwyn (gol.) Rhyddid y Nofel (1999), Gwasg Prifysgol Cymru; t.42
- ↑ Jenkins, Dafydd "Y Nofel Gymraeg Gynnar" yn Williams, Gerwyn (gol.) Rhyddid y Nofel (1999), Gwasg Prifysgol Cymru; t.44
- ↑ 24.0 24.1 Rowlands, t. 199.
| Mae gan Wicidestun destun sy'n berthnasol i'r erthygl hon: |
