Hugh Pugh, Brithdir
Hugh Pugh, Brithdir | |
---|---|
Ganwyd | 22 Tachwedd 1779 Brithdir, Gwynedd |
Bu farw | 28 Hydref 1809 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | gweinidog yr Efengyl |
Y Parch Hugh Pugh (22 Tachwedd, 1779 – 28 Hydref, 1809) oedd gweinidog cyflogedig cyntaf yr Annibynwyr yn ardal Dolgellau.[1]
Cefndir
[golygu | golygu cod]Ganwyd Hugh Pugh Tynant Bach, Brithdir, Plwyf Dolgellau, Meirionnydd yn blentyn i Robert a Mary Pugh. Cafodd ei addysgu mewn ysgol gyffredin yn Nolgellau; a phan oedd o gylch 13 blwydd oed, anfonwyd ef i ysgol yn High Ercall, Swydd Amwythig, lle yr arhosodd dros flwyddyn.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Nid oedd tad Hughes yn ŵr crefyddol iawn ond roedd ei fam yn aelod selog o'r Annibynwyr yn Rhydymain. Dechreuodd Hughes fynychu gwasanaethau gyda'i fam ac yn 16 mlwydd oed derbyniwyd ef yn aelod yn y Brithdir gan y Parch Dr George Lewis. Dechreuodd bregethu rhyw dwy flynedd yn niweddarach ac ym 1799 aeth i athrofa'r Annibynwyr yn Wrecsam i baratoi am y weinidogaeth. Ei fwriad oedd aros yno am bedair blynedd ond oherwydd iechyd gwael bu'n rhaid iddo ddychwelyd adref cyn cyflawni blwyddyn gyfan o'r cwrs.
Ym 1802 penderfynwyd creu ofalaeth newydd allan o gapeli Rhydymain a'r Brithdir a oedd gynt wedi bod yn ganghennau o'r achos yn Llanuwchllyn ac ordeiniwyd Pugh yn weinidog arnynt. Bu'n gyfrifol am ehangu lawer ar yr Annibynwyr yng Nghylch Dolgellau. Prynodd hen gapel wag gan y Methodistiaid Calfinaidd ym Mhenucha'r dref, Dolgellau i'w defnyddio fel capel parhaol cyntaf yr achos.[2] Evan Jones, tad Ieuan Gwynedd, oedd y cyntaf a dderbyniwyd fel aelod newydd gan Pugh yn y capel yn Nolgellau.[3] Dechreuodd achosion yn Llanelltyd, y Cutiau ger Abermaw ac Islaw'r Dref, Dolgellau. Dechreuodd achosion yn Llwyngwril, Llanegryn a Thywyn, Meirionnydd.[4]
Teulu
[golygu | golygu cod]Priododd Elizabeth Roberts, Dolserau ym 1804; cawsant fab a merch.
Marwolaeth
[golygu | golygu cod]Bu farw yn ei gartref yn y Brithdir yn 29 mlwydd oed o'r dwymyn goch. Claddwyd ei weddillion ym mynwent Eglwys St Mair, Dolgellau.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Owen, R. G., (1953). PUGH, HUGH (1779 - 1809), gweinidog gyda'r Annibynwyr. Y Bywgraffiadur Cymreig Adferwyd 13 Chwefror 2020
- ↑ Capel, cylchgrawn treftadaeth y capeli - taflen wybodaeth leol 3, Dolgellau Archifwyd 2020-02-13 yn y Peiriant Wayback. Adferwyd 13 Chwefror 2020
- ↑ Thomas Rees & John Thomas; Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru (1871) (dyfyniad ar wefan GENUKI) Adferwyd 13 Chwefror 2020
- ↑ Y Dysgedydd Crefyddol, Cyf. III rhif. 12 - Rhagfyr 1824 - COFIANT Y DIWEDDAR BARCHEDIG HUGH PUGH, o'r BRITHDIR. Adferwyd 13 Chwefror 2020