Hornafjörður
Math | ffiord |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Gwlad yr Iâ |
Cyfesurynnau | 64.272°N 15.309°W, 64.26628°N 15.306987°W |
Bwrdeistref yng Ngwlad yr Iâ yw Hornafjörður (Islandeg: Sveitarfélagið Hornafjörður). Fe'i lleolir yn ne-ddwyrain yr ynys yn rhanbarth Austurland. Ar 1 Ionawr 2017, roedd gan y gymuned 2187 o drigolion. Maint tiriogaeth y bwrdeisdref yw 6,280 km² - dros chwarter maint Cymru!
Y dref fwyaf a'r unig un yn y fwrdeistref yw Höfn sydd â phoblogaeth o 1633 o drigolion. Mae gan bentref Nesjakauptún 91 o drigolion.
Sefydlu'r Bwrdeisdref[golygu | golygu cod]
Sefydlwyd y fwrdeistref ar 6 Mehefin 1998 trwy uno'r pedwar cymuned ganlynol:
- Hornafjarðarbær, a ffurfiwyd ym 1994 gan uno bwrdeistref Höfn í Hornafirði gyda chymunedau gwledig Mýrar (Märahreppur) a Nes (Nesjahreppur)
- Cymuned wledig Bær (Bæjarhreppur)
- Cymuned wledig Borgarhöfn (Borgarhafnarhreppur)
- Cymuned wledig Hof (Hofshreppur)
Daearyddiaeth[golygu | golygu cod]
Mae'r fwrdeistref wedi ei leoli i'r de-ddwyrain o Vatnajökull. Lleolir prif dref Höfn ar bentir rhwng fjordiau Hornafjörður a Skarðsfjörður.
Yn rhan orllewinol y fwrdeistref ceir rhaeadr uchaf Gwlad yr Iâ, y Morsárfoss. Mae rhannau o Barc Cenedlaethol Vatnajökull yn y fwrdeistref. Gerllaw mae Kristínartindar a Svartifoss. Yn y de-orllewin mae'r Sandergebiet Skeiðará fawr y Skeiðarársandur, i'r gogledd o'r Skeiðarárjökull. Ymhellach i'r dwyrain mae'r Öræfajökull gyda chopa Hvannadalshnúkur, sy'n codi 2110 m yr tirwedd uchaf Gwlad yr Iâ. Ymhellach i'r dwyrain mae'r Breiðárlón a'r Jökulsárlón, llyn rhewlif fawr a llyn dyfnaf Gwlad yr Iâ.
Trafnidiaeth[golygu | golygu cod]
Mae'r gymuned wedi'i chysylltu â'r gylchffordd Hringvegur, y briffordd sy'n cysylltu y wlad.
Y pellter i'r brifddinas, Reykjavík, yw 459 km, ac i'r gogledd mae Egilsstaðir sydd 247 km i ffwrdd.
Mae awyrfa Hornafjarðarflugvöllur (Maes Awyr Hornafjörður, IATA: HFN, ICAO: BIHN) tua 7 km i'r gogledd o Höfn.