Hringvegur, Route 1 (Gwlad yr Iâ)
![]() | |
Math | ffordd ![]() |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | roads in Iceland ![]() |
Gwlad | ![]() |
Hyd | 1,336 cilometr ![]() |
Yr Hringvegur yw'r cylchffordd genedlaethol o gwmpas ynys Gwlad yr Iâ. Fe'i geliwr hefyd yn Þjóðvegur 1 yn Islandeg ac yn aml yn Route 1 neu'r Ring Road yn Saesneg. Hyd llawn y ffordd yw 1,332 kilometre (828 mi) ac mae'n cysylltu rhannau pellennig y wlad gyda'i gilydd. Mae rhai o atyniadau mwyaf Gwlad yr Iâ ar hyd llwybr y gylchffordd gan gynnwys rhaeadrau Seljalandsfoss a Skógafoss rhewlifau Dyrhólaey a Jökulsárlón.[1]
Cwblhawyd y ffordd yn 1974 i gyd-fynd gyda 1,100fed gwladychu'r wlad.[2] pan agorwyd pont hiraf Gwlad yr Iâ,[3] sy'n croesi'r afon Skeiðaráriver yn y de ddwyrain.
Nodweddion[golygu | golygu cod y dudalen]
Am y rhan fwyaf o hyd y ffordd, mae'r Hringvodur ond yn cynnwys dwy lôn; un yn teithio i'r naill gyfeiriad a'r llall. Wrth basio trefi mwy, yna yn aml ceir mwy nag un lôn fel ag y mae wrth deithio yn nhwnel Hvalfjörður. Mae nifer o'r pontydd llai, yn enwedig yn nwyrain y wlad, ond yn cynnwys un lôn ac fe'u hadeiladwyd o bren neu ddur. Mae'r ffordd wedi ei arwynebu gan asphalt am y rhan fwyaf o'i hyd, ond ceir o hyd dal rhannau yn nwyrain Gwlad yr Iâ sydd ond yn cynnwys wyneb garaean. Awdurdod Ffordd Gwlad yr Iâ, y Vegagerðin, sy'n gyfrifol am gynnal a chadw y brif ffordd a'r ffyrdd llai.
Y cyflymder uchaf ar y rhan fwyaf o'r ffordd yw 90 kilometres per hour (56 mph), a 80 kilometres per hour (50 mph) ar y gro.
Gyrru yn y Gaeaf[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae'r rhan fwyaf o'r Hringvodur ar agor drwy'r gaeaf oherwydd system clirio eira ond mae rhai rhannu ar gau. Y mwyaf amlwg o'r rhain yw'r ffordd rhwng Breiðdalsvík a Egilsstaðir (dros lwyfandir Breiðdalsheiði) yn y dwyrain.[4] I osgoi'r broblem a pharhau gyrru bydd cerbydau yn teithio ar hyd llwybr dennau yr arfordir trwy Reyðarfjörður, gan ddefnyddio hen Route 95 a route 92 i deithio rhwng y trefi. Daeth y ffordd arfordir yn rhan swyddogol o'r Hringvoegur ym mis Tachwedd 2017, gan gymryd lle llwybr Breiðdalsheiði sydd nawr wedi ei rhifo yn Route 95.[5]
Pergyglon Naturiol[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae'r Hringvodur yn teithio ar draws rhai gwastadeuoedd rhewlif megis Skeiðarársandur a chosodd adeiladu'r ffordd yn anodd. Yn ychwanegol, mae gwastatir Skeiðarársandur yn dioddef o lifogydd rhewlifol yn ystod, neu yn dilyn, ffrwydriadau llosgfynydd Grímsvötn. Bu'n rhaid ail-adeiladu rhannau o'r ffordd a phontydd mewn sawl man o ganlyniad i hyn,
Traffig[golygu | golygu cod y dudalen]
ceir amrwyiaeth fawr yn llif y traffig ar hyd gwahanol rannau. O gwmpas y brifddinas, Reykjavík bydd rhwng 5,000–10,000 cerbyd y dydd yn teithio ar y ffordd yn ddyddiol. Ond gall rhannau eraill weld cyn-lleied â 100 cerbyd y dydd.
Mae'r Hringvegur yn boblogaidd gyda thwristiaid gan ei fod yn teithio ar draws gymaint o'r wlad ac yn cysylltu gymaint o atyniadau'r ynys. Maen boblogaidd gyda thwristiaid sy'n llogi car neu yn glanio ar y fferi yn Seyðisfjörður gyda'i ceir ei hunain.
Rhannau[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae gan rannau o'r Hringvegur wahanol enwau ar hyd gwahanol lefydd. Mae'r tabl isod yn dangos enwau'r gwahanol lleiniau (gan hepgor twneli) ar hyd y route i gyfeiriad y cloc gan ddechrau yn Reykjavík.
Enw | Lleoliad |
---|---|
Vesturlandsvegur | Dwyrain Reykjavík i Borgarnes |
Borgarbraut | Borgarnes |
Hringvegur | Borgarnes i ogledd Akureyri |
Hörgárbraut | Akureyri |
Glerárgata | Akureyri |
Drottningarbraut (rhannol) | Akureyri |
Hringvegur | De Akureyri i'r troad am Höfn |
Suðurlandsvegur | Höfn i Hella |
Suðurlandsbraut | O Hella i Selfoss |
Austurvegur | Selfoss |
Suðurlandsvegur | O Selfoss i ddwyrain Reykjavík |
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ "Best Attractions by the Ring Road of Iceland". Guide to Iceland.
- ↑ "Iceland: Milestones in Icelandic History". Iceland.vefur.is. Cyrchwyd 2010-04-17.
- ↑ The Road System - 2012. Icelandic Road Administration, ICERA.
- ↑ "Mokstursdagar" (yn Icelandic). Icelandic Road Administration. Cyrchwyd 12 Chwefror 2014.CS1 maint: unrecognized language (link)
- ↑ name="change2017"