Hiclys Erch

Oddi ar Wicipedia
Hiclys Erch
Anastrepta orcadensis
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Rhaniad: Marchantiophyta
Dosbarth: Jungermanniopsida
Urdd: Jungermanniales
Teulu: Scapaniaceae
Genws: Anastrepta
Rhywogaeth: A. orcadensis
Enw deuenwol
Anastrepta orcadensis

Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Hiclys Erch (enw gwyddonol: Anastrepta orcadensis; enw Saesneg: Orkney notchwort). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Jungermanniales, o fewn y dosbarth Jungermanniopsida. Mae'r gair erch yma'n cyfeirio at yr ynys lle'i ceir: Ynysoedd Erch, yr Alban. Fe'i ceir hefyd yn unol Daleithiau America, canada ac gwledydd eraill o fewn Ewrop.[1][2]

Mae'r rhywogaeth hon i’w chanfod ar arfordir gorllewinol Cymru.

Darganfuwyd yr Hiclys erch am y tro cyntaf, ar "Ward Hill", Ynys Hoy, ail ynys fwyaf yr Ynysoedd Erch, ar arfordir gorllewinol yr Alban, a hynny gan Hooker ym 1808.[3][4] Fe'i ceir yn gyffredin o fewn carped o blanhigion tebyg: lysiau'r afu eraill a grug, fel rheol a hynny ar lethrau, lloriau coetiroedd ac ar lethrau caregog yn Ucheldiroedd yr Alban.[5]

Yn Alaska, ceir sawl lleoliad ger arfordiroedd ynysoedd cysgodol, fel arfer ar uchder o 300 metr (1500 tr) neu uwch.[6]

Llysiau'r afu[golygu | golygu cod]

Planhigion anflodeuol bach o'r rhaniad Marchantiophyta yw llysiau'r afu. Defnyddir y term "lysiau'r afu" am un planhigyn, neu lawer. Erbyn 2019 roedd tua 6,000 o rywogaethau wedi cael eu hadnabod gan naturiaethwyr.[7] Fe'u ceir ledled y byd, mewn lleoedd llaith gan amlaf. Mae gan lawer ohonynt goesyn a dail ac maent yn debyg i fwsoglau o ran golwg.

Mae rhai rhywogaethau i'w cael yng Nghymru; gweler y categori yma.

Safonwyd yr enw Hiclys Erch gan un o brosiectau . Mae cronfeydd data Llên Natur (un o brosiectau Cymdeithas Edward Llwyd) ar drwydded agored CC 4.0. Chwiliwch am ragor o wybodaeth ar y rhywogaeth hon ar wefan Llên Natur e.e. yr adran Bywiadur, a chyfrannwch er mwyn datblygu'r erthygl hon ymhellach.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Anastrepta orcadensis" Archifwyd March 14, 2012, yn y Peiriant Wayback. ZipcodeZoo.com Retrieved 10 June 2008.
  2. "Plants profile: Anastrepta orcadensis (Hook.) Schiffn." USDA. Adalwyd 11 Mehefin 2008.
  3. "Bryology (mosses, liverworts and hornworts)" Royal Botanic Garden Edinburgh. Retrieved 15 May 2008.
  4. "West Highland Mosses And Problems They Suggest" (January 1907) Annals Of Scottish Natural History 61 tud. 46. Edinburgh. Adalwyd Mehefin 2008.
  5. "Anastrepta orcadensis: Orkney Notchwort" (pdf) sleath.co.uk Retrieved 11 June 2008. Archifwyd 1 December 2008[Date mismatch] yn y Peiriant Wayback.
  6. "Anastrepta orcadensis" sitkanature.org Adalwyd 11 Mehefin 2008.
  7. Raven, Peter H.; Ray F. Evert & Susan E. Eichhorn (1999) Biology of Plants, W. H. Freeman, Efrog Newydd.