Heulwen Hâf
Heulwen Hâf | |
---|---|
Ganwyd | 1 Awst 1944 Corwen |
Bu farw | 5 Rhagfyr 2018 Caerdydd |
Man preswyl | Llandaf |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | actor, cyflwynydd teledu, canwr |
Cyflogwr |
Actores a chyflwynwraig o Gymraes oedd Heulwen Hâf (1 Awst 1944 – 5 Rhagfyr 2018). Roedd yn llais ac yn wyneb cyfarwydd ar S4C drwy ei gwaith fel cyhoeddwr dilyniant y sianel ac fel cyfrannwr ar nifer o raglenni.[1]
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Fe'i ganwyd yng Nghorwen. Roedd ei thad yn gigydd lleol ac roedd ganddi frawd a chwaer hŷn. Roedd ganddi siop trin gwallt ei hun yn 20 mlwydd oed ac fe weithiodd fel rheolwr yn siop Harrods, Llundain. Yn 24 oed priododd gyfreithiwr o Lerpwl ond fe wahanodd erbyn iddi fod yn 29 oed. Yn dilyn torcalon yr ysgariad, treuliodd ddwy flynedd yn Ysbyty Meddwl Dinbych.[2].
Yn 1969, cystadleuodd yng nghystadleuaeth Cân i Gymru.[3]
Roedd yn byw yn Llandaf, Caerdydd ers diwedd yr 1980au a gweithiodd fel actores, cyflwynydd a therapydd amgen. Canfuwyd fod ganddi gancr y fron yn Ebrill 2008 ac yn 2009 darlledwyd rhaglen Blodyn Haul ar S4C oedd yn dogfennu ei brwydr gyda'r afiechyd.[4][5]. Yn 2011 cyhoeddodd lyfr ffeithiol Bron yn Berffaith oedd yn adrodd hanes ei brwydr gyda chancr y fron.[6]
Yn Nhachwedd 2018 gwnaeth gyfweliad olaf gyda rhaglen Heno yn sgwrsio am hanes ei bywyd.[7]
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Bu'n gweithio fel cyhoeddwr rhaglenni ar S4C am bymtheg mlynedd. Roedd hefyd wedi actio ar Pobol y Cwm. Bu'n chwarae rhan Magda yn y gyfres Lan a Lawr ar S4C ac roedd wedi ymddangos ar Casualty ar BBC One.
Yn 2013, ymddangosodd mewn ffilm fer Fi a Miss World, rhan o gynllun It's My Shout ac fe'i dangoswyd fel rhan o dymor pobl ifanc S4C - Tro Ni. Roedd yn chwarae hen ddynes o'r Bala gyda golygfa freuddwydiol lle mae'n cofio am ei chyfnod fel Miss World.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Mae Heulwen Hâf wedi marw , Golwg360, 5 Rhagfyr 2018.
- ↑ Hunangofiant Heulwen Haf Archifwyd 2016-03-04 yn y Peiriant Wayback; Adalwyd ar 2015-12-07
- ↑ Yr actores Heulwen Hâf wedi marw yn 74 oed , BBC Cymru Fyw, 5 Rhagfyr 2018.
- ↑ Blodyn Haul; adalwyd ar 27 Rhagfyr 2015.
- ↑ Heulwen Haf on life after surviving cancer ; adalwyd ar 7 Gorffennaf 2015.
- ↑ Haf, Heulwen (Hydref 2011). Bron yn Berffaith. Y Lolfa. ISBN 9781847713308
- ↑ "Un o bersonoliaethau amlwg Cymru yw Heulwen Haf."
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Heulwen Hâf ar wefan Internet Movie Database
- Heulwen Hâf ar Twitter
- Fi a Miss World ar YouTube