Henry Steele Commager

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Henry Steele Commager
Ganwyd 25 Hydref 1902 Edit this on Wikidata
Pittsburgh Edit this on Wikidata
Bu farw 2 Mawrth 1998 Edit this on Wikidata (95 oed)
Achos: niwmonia Edit this on Wikidata
Amherst Edit this on Wikidata
Man preswyl Amherst Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Unol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaeth hanesydd yr oes fodern, hanesydd, academydd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Gwobr/au Cymdeithas Goffa John Simon Guggenheim, Gwobr St. Louis am Lenyddiaeth, Herbert Baxter Adams Prize Edit this on Wikidata

Hanesydd ac academydd Americanaidd oedd Henry Steele Commager (25 Hydref 19022 Mawrth 1998) sy'n nodedig am ei gyhoeddiadau niferus a'i daliadau rhyddfrydol ynghylch hanes yr Unol Daleithiau.

Ganwyd yn Pittsburgh, Pennsylvania, a chafodd ei fagu gan ei dad-cu yn Toledo, Ohio, ac yn Chicago, Illinois. Enillodd ei radd baglor (1923), ei radd meistr (1924), a'i ddoethuriaeth (1928) mewn hanes o Brifysgol Chicago. Treuliodd hefyd flwyddyn yn Nenmarc, gwlad ei gyndeidiau, yn astudio hanes llyngesol ym Mhrifysgol Copenhagen.[1]

Addysgodd hanes ym Mhrifysgol Efrog Newydd o 1929 i 1938, ym Mhrifysgol Columbia o 1938 i 1956, ac yng Ngholeg Amherst o 1956 i 1992 (athro hanes Americanaidd o 1956 i 1972, a darlithydd Simpson o 1972 i 1992).[2] Daeth i sylw fel awdur gyda'r gwerslyfr The Growth of the American Republic (1930), a gydysgrifennwyd gyda'r hanesydd Samuel Eliot Morison o Brifysgol Harvard. Ymhlith ei lyfrau eraill mae The American Mind (1951), Jefferson, Nationalism and the Enlightenment (1974), a The Empire of Reason (1977).

Roedd Commager yn edmygwr brwd o Gyfansoddiad yr Unol Daleithiau ac yn ei ystyried yn sylfaen berffaith ar gyfer cyfundrefn wleidyddol a chyfraith resymol. Ar sawl achos bu'n siarad yn gyhoeddus yn erbyn gweithgareddau gwleidyddol a dybid ganddo yn gamau ar y gyfraith gyfansoddiadol. Yn 1947, adeg yr Ail Ddychryn Coch a McCarthyaeth, cyhoeddodd erthygl yng nghylchgrawn Harper's yn lladd ar lwon teyrngarwch. Yn 1966, dadleuodd bod ymyrraeth gan luoedd Americanaidd yn Rhyfel Fietnam, ar gais yr Arlywydd Lyndon B. Johnson, yn tresmasu ar uchelfraint y Gyngres i ddatgan rhyfel. Cafodd ei feirniadu gan rai am arddel eithriadolaeth Americanaidd ac am esgeuluso rhan yr eglwys, menywod, Americanwyr Duon, Americanwyr Brodorol, a'r dosbarth gweithiol yn hanes yr Unol Daleithiau.[3]

Bu farw yn ei gartref yn Amherst, Massachusetts, yn 95 oed.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Holcomb B. Noble, "Henry Steele Commager, History Scholar and Defender of the Constitution, Is Dead at 95", The New York Times (3 Mawrth 1998). Adalwyd ar 31 Gorffennaf 2019.
  2. (Saesneg) Rupert Cornwell, "Obituary: Henry Steele Commager", The Independent (6 Mawrth 1998). Adalwyd ar 31 Gorffennaf 2019.
  3. (Saesneg) Henry Steele Commager. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 31 Gorffennaf 2019.

Darllen pellach[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Neil Jumonville, Henry Steele Commager: Midcentury Liberalism and the History of the Present (Chapel Hill, Gogledd Carolina: University of North Carolina Press, 1999).