Nantwich

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Heledd Wen)
Nantwich
Stryd "Welsh Row", Nantwich
Mathtref, plwyf sifil, tref farchnad Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolDwyrain Swydd Gaer
Daearyddiaeth
SirSwydd Gaer
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Yn ffinio gydaEdleston, Henhull Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.067°N 2.522°W Edit this on Wikidata
Cod SYGE04013198 Edit this on Wikidata
Cod OSSJ652523 Edit this on Wikidata
Cod postCW5 Edit this on Wikidata
Map


Tref a phlwyf sifil yn sir seremonïol Swydd Gaer, Gogledd-orllewin Lloegr, yw Nantwich[1] (neu Yr Heledd Wen yn y Gymraeg weithiau). Fe'i lleolir yn awdurdod unedol Dwyrain Swydd Gaer. Gorwedd ar lan Afon Weaver a Chamlas Undeb Swydd Amwythig.

Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y plwyf sifil boblogaeth o 13,964.[2]

Yn hanesyddol bu'n enwog am ei diwydiant halen. Mae'n adnabyddus am ei hadeiladau gwyn a du hynafol, hanner pren, sy'n cynnwys tri adeilad rhestredig graddfa I. Mae Caerdydd 182.1 km i ffwrdd o Nantwich ac mae Llundain yn 238.3 km. Y ddinas agosaf ydy Stoke-on-Trent sy'n 22.5 km i ffwrdd.

Lleolir y dref tua 5 milltir i'r de-orllewin o Crewe. Mae'n groesffordd hanesyddol gyda'r priffyrdd A530, A529 ac A534 yn ymledu ohoni. Mae'r briffordd A534/A51 yn osgoi'r dref i'r gogledd a'r dwyrain.

Ceir terfyn gogleddol Camlas Llangollen i'r gogledd-orllewin o Nantwich, ar Gamlas Undeb Swydd Amwythig. Adlewyrchir y cysylltiad â Chymru yn yr enw stryd 'Welsh Row' ac efallai yn elfen gyntaf enw'r dref ei hun, sef nant.

Adeiladau a chofadeiladau[golygu | golygu cod]

  • Amgueddfa Nantwich
  • Capel yr Annibynwyr
  • Churche's Mansion
  • Eglwys Santes Fair
  • Gwesty'r Coron
  • Neuadd Dorfold
  • Tŷ Townwell

Enwogion[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. British Place Names; adalwyd 20 Tachwedd 2019
  2. City Population; adalwyd 7 Medi 2020


Eginyn erthygl sydd uchod am Swydd Gaer. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato