Afon Weaver
Gwedd
| Math | afon |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Swydd Gaer |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 53.3136°N 2.7486°W, 53.0972°N 2.6941°W, 53.3141°N 2.7505°W |
| Aber | Afon Merswy |
| Llednentydd | Afon Dane |
| Dalgylch | 1,370 cilometr sgwâr |
| Hyd | 96 cilometr |
![]() | |
Llifa Afon Weaver (Saesneg: River Weaver) trwy Swydd Gaer yng ngogledd-orllewin Lloegr. Ei hyd yw tua 50 milltir (80 km).
Mae'n tarddu ger pentref bychan Bulkeley tua 8 milltir i'r gorllewin o Nantwich. Oddi yno mae'n llifo ar gwrs deheuol. Ger Wrenbury mae Camlas Llangollen yn ei chroesi ar bont. Ger Audlem mae'n troi i gyfeiriad y gogledd ac mae Camlas Undeb Swydd Amwythig yn ei chroesi. Llifa'r afon yn ei blaen i Nantwich a heibio i Winsford a Northwich i lifo i aber Afon Merswy ger Runcorn lle mae pont yn dwyn y draffordd M56 drosti.

