Hawliau LHDT yng Nghatar

Oddi ar Wicipedia

Nid yw llywodraeth Catar—un o wladwriaethau Arabaidd y Gwlff, a chanddi fwyafrif Mwslimaidd—yn cydnabod hawliau pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol, a thrawsryweddol (LHDT). Mae deddfau'r wlad yn tynnu'n gryf ar y gyfraith Islamaidd, sharia, sydd yn ystyried cyfunrywioldeb yn anfoesol. Cosbir gweithgareddau rhywiol rhwng gwrywod gyda dedfryd o garchar am saith mlynedd yn ôl erthygl 285 o gôd penydiol Catar,[1] ac mae erthygl 296 yn cosbi "cymhelliad neu lathrudd" i sodomiaeth gyda charchar am dair blynedd.[2] Mae'r gyfraith hefyd yn caniatáu'r gosb eithaf i Fwslimiaid ar gyfer zina (rhyw y tu allan i briodas) o unrhyw fath; gan na chydnabyddir priodas gyfunryw, mae unrhyw gweithgareddau cyfunrywiol felly â chosb marwolaeth mewn egwyddor, ond nid oes yr un achos o unigolyn yn cael ei ddienyddio am gyfunrywioldeb.[3]

Cwpan y Byd Pêl-droed 2022[golygu | golygu cod]

Caiff penderfyniad Ffederasiwn Rhyngwladol y Cymdeithasau Pêl-droed (FIFA) yn 2010 i ddewis Catar i gynnal Cwpan y Byd Pêl-droed yn 2022 ei feirniadu oherwydd y sefyllfa parthed hawliau LHDT yn y wlad. Yn 2020, datganodd llywodraeth Catar y byddai'r wlad yn ufuddhau i reolau FIFA ac yn hyrwyddo goddefiad a chynhwysiad wrth gynnal y gystadleuaeth. Er enghraifft, derbyniodd FIFA sicrhad na fyddai symbolau o blaid hawliau LHDT, megis y faner enfys, yn cael eu gwahardd.[4] Fodd bynnag, wrth ddynesu at y gystadleuaeth, mynegwyd rhagor o bryderon am bobl LHDT yn y wlad.[5] Cyhuddwyd FIFA gan y sefydliad anllywodraethol Human Rights Watch o esgeuluso'i cyfrifoldeb i warchod hawliau dynol pobl LHDT yn unol ag Egwyddorion Arweiniol Busnes a Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig a fabwysiadwyd gan FIFA yn 2016.[6]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Yasemin Smallens, "LGBT Qataris Call Foul Ahead of 2022 World Cup", Human Rights Watch (24 Tachwedd 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 14 Tachwedd 2022.
  2. (Saesneg) "Qatar: Events of 2020", Human Rights Watch. Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 14 Tachwedd 2022.
  3. (Saesneg) Daniel Megarry, "Here are the 11 countries where being gay is punishable by death", Gay Times. Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 31 Gorffennaf 2021.
  4. (Saesneg) "2022 World Cup: Qatar to allow LGBTQ displays, rainbow flags in stadiums", ESPN (10 Rhagfyr 2020). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 20 Gorffennaf 2021.
  5. (Saesneg) Joshua Nevett, "World Cup: Ministers urged to warn LGBT+ fans about Qatar risks", BBC (11 Tachwedd 2022). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 14 Tachwedd 2022.
  6. (Saesneg) Rasha Younes, "A World Cup of Shame: FIFA Fails LGBT Rights Test in Qatar", Human Rights Watch (7 Gorffennaf 2022). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 14 Tachwedd 2022.