Halfa

Oddi ar Wicipedia
Halfa
Mathmelysion, melysion a wnaed o siwgwr (ОКП 91 2000), Melysion siwgr (gan gynnwys siocled gwyn), ond heb gynnwys coco, Crwst Edit this on Wikidata
Deunyddsemolina, corn starch, hadau blodau haul, olew, siwgr, blawd, hadau sesame Edit this on Wikidata
Rhan obwyd o Syria Edit this on Wikidata
Enw brodorolحَلَاوَة Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Amrywiaeth o felysion halfa yn Mahneh Yehuda, Israel

Mae halfa neu'r sillafiad cyffredin, halva a weithiau halwa yn ddanteithyn neu felysyn a wneir o flawd (o wahanol fathau), dŵr, siwgr, mêl ac yna ychwnegolion fel cnau neu ffrwythau.

Mae'r gair yn gyffredin mewn gwahanol ffyrdd mewn amrywiaeth eang o ieithoedd: halwa, halvah, halava, helva, halawa, ac ati. Daeth y gair i'r Saesneg rhwng 1830-1840 o'r Hebraeg oedd ei hun o'r Perseg: حلوا ("halva").[1] [2][3]Daw'r halva yn iaith Groeg, Hebraeg, a Rwmaneg o'r gair Twrceg Helva (حلوا)[4] sydd, ei dro, yn dod o'r gair Perseg halva (حلوا) [5][6], sy'n dod o'r gair Arabeg halwa sy'n golygu melysyn/losin, sy'n dod o'r gwraidd, حلوی ḥelavi ("melys").

Cefndir ac Amrywieth Daearyddol[golygu | golygu cod]

Halfa ym Marchnad Carmel, Tel Aviv

Daw'r melysyn yn wreiddiol o fwydydd rhanbarthauIran,[7][8][9][10][11]. Mae yn draddodiadol dros diriogaeth eang sy'n cynnwys is-gyfandir India, Canolbarth Asia, y Cawcasws, y Balcanau, y Maghreb, y Dwyrain Canol, Dwyrain Ewrop, a'r Lefant.

Ceir arfer wahanol a ffordd benodol o greu'r melysyn mewn gwahanol lefydd. Defnyddir blawd semolina yn Armenia, Twrci, Pacistan, Iran neu gyda past tahini yn nwyrain ardal Môr y Canoldir a'r Balcanau. Gall yr halfa fod â chysondebau gwahanol, a gall gynnwys ychwanegolion megis blawd rhosyn neu ffa gwyn, neu hyd yn oed wedi'i dorri'n fwydion o rai llysiau fel moron neu gorbwmpen. Gall hefyd gynnwys ffrwythau sych ac fel arfer mae'n cynnwys almonau neu pistachios ond efallai bod ganddynt gynhwysion mwy gwreiddiol eraill megis hadau blodyn yr haul (yng ngwledydd y Baltig) neu gynhwysion mwy modern.[12]

Gellir gwneud amrywiadau o wahanol flasau hefyd, gan ychwanegu sudd oren, siocled, cnau coco wedi'i gratio, ac ati. Mae rhai yn cymjysgu halfa gyda nwdls a nougat.

Coginio a Thraddodiadau[golygu | golygu cod]

Ceir gwahanol fathau o helva Twrcaidd: helvası (blawd melys), irmik helvası (semolina melys), a helvası peynir (caws melys).

Mewn diwylliant poblogaidd[golygu | golygu cod]

Yng Ngwlad Groeg, ceir y y dywediad, Άντε ρε χαλβά! ("ante re halva!"), sy'n golygu'n fras, "colli halva", sy'n sarhâd ac yn golygu bod yn llwfr neu'n dwyllodrus.

Yn Edirne, Twrci, mae helva yemek ("bwyd helfa") yn golygu gwneud rhywbeth hurt.

Dolenni[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Halvah, Random House Dictionary, 2009
  2. Marks, Gil (2010-11-17). Encyclopedia of Jewish Food (yn Saesneg). HMH. ISBN 978-0-544-18631-6. Halva is a dense confection. The original type is grain based, typically made from semolina, and another kind is seed based, notably made from sesame seeds. Origin: Persia
  3. Foundation, Encyclopaedia Iranica. "Welcome to Encyclopaedia Iranica". iranicaonline.org (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-04-23.
  4. name="Marks2010">Gil Marks (17 Tachwedd 2010). Encyclopedia of Jewish Food. Houghton Mifflin Harcourt. tt. 495–. ISBN 0-544-18631-1.
  5. Marks, Gil (2010-11-17). Encyclopedia of Jewish Food (yn Saesneg). HMH. ISBN 978-0-544-18631-6.
  6. Foundation, Encyclopaedia Iranica. "Welcome to Encyclopaedia Iranica". iranicaonline.org (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-04-23.
  7. Marks, Gil (2010-11-17). Encyclopedia of Jewish Food (yn Saesneg). HMH. ISBN 978-0-544-18631-6. Mae tarddiad ḥalwā ym Mhersia yn dyddio o'r cyfnod cyn-Islamaidd. Ceir cyfeiriadau yn nhestun Perseg Canol Xōsrōv ud rēdak (gol. Monchi-zadeh, secs. 38-40) at ddau fath o gig melys (rōγn xwardīg): (1) melysion haf, megis lōzēnag (wedi'i wneud ag almon), gōzēnag (wedi'i wneud â chnau Ffrengig), a čarb-angušt (wedi'i wneud o fraster bustard neu gazelle a'i ffrio mewn olew cnau Ffrengig); a (2) cigoedd melys y gaeaf, fel wafrēnagītabarzad â blas coriander (gišnīz ačārag). Ceir llawer o gyfeiriadau at ḥalwā mewn testunau Persaidd clasurol, ond anaml y maent yn rhoi manylion am gynhwysion.
  8. Foundation, Encyclopaedia Iranica. "Welcome to Encyclopaedia Iranica". iranicaonline.org (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-04-23. Mae Halva yn melysion trwchus. Mae'r math gwreiddiol yn seiliedig ar rawn, wedi'i wneud fel arfer o semolina, ac mae math arall yn seiliedig ar hadau, yn enwedig wedi'i wneud o hadau sesame. Tarddiad: Persia
  9. Marks, Gil (2010-11-17). Encyclopedia of Jewish Food (yn Saesneg). HMH. ISBN 978-0-544-18631-6. Halva is a dense confection. The original type is grain based, typically made from semolina, and another kind is seed based, notably made from sesame seeds. Origin: Persia
  10. Foundation, Encyclopaedia Iranica. "Welcome to Encyclopaedia Iranica". iranicaonline.org (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-04-23.
  11. Mary Isin (8 Ionawr 2013). Sherbet and Spice: The Complete Story of Turkish Sweets and Desserts. I.B.Tauris. tt. 3–. ISBN 978-1-84885-898-5.
  12. Alan Davidson, The Oxford Companion to Food - Oxford University press - 1999 -ISBN 019211579 Parameter error in {{isbn}}: Invalid ISBN.