Gwilym Iwan Jones
Gwilym Iwan Jones | |
---|---|
Ganwyd | 3 Mai 1904 |
Bu farw | 25 Ionawr 1995 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | anthropolegydd, ffotograffydd |
Gweinyddwr trefedigaethol, anthropolegydd a ffotograffydd Cymreig oedd Gwilym Iwan Jones (3 Mai 1904 – 25 Ionawr 1995). Roedd yn arbenigwr ar gelfyddydd dwyrain Nigeria.
Ganwyd yn Nhref y Penrhyn yn Ne Affrica. Treuliodd ei blentyndod cynnar yn Tsile cyn i'r teulu dychwelyd i Loegr ym 1915. Mynychodd ysgol St John's yn Leatherhead, Surrey. Enillodd ysgoloriaeth i astudio hanes yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen, ym 1923. Chwaraeodd fel asgellwr i Glwb Rygbi Cymry Llundain.
Ymunodd â'r gwasanaeth trefedigaethol ym 1926, a gwasnaethodd yn swyddi Is-swyddog Ardal yn Nwyrain Nigeria a Swyddog Ardal yn Bende ac ardaloedd cyfagos Owerri. Magodd ddiddordeb yn niwylliant brodorol y wlad, ac astudiodd gwrs ffotograffiaeth er mwyn iddo dynnu lluniau o ddawnsiau a mygydau traddodiadol yr Igboaid a'r Ibibio.
Gadawodd ei yrfa drefedigaethol ym 1946, a daeth yn ddarlithydd yn adran anthropoleg gymdeithasol ym Mhrifysgol Caergrawnt. Daeth yn gymrawd yng Ngholeg yr Iesu, Caergrawnt, ym 1962. Cyhoeddodd nifer o lyfrau ar gymdeithas a diwylliant Nigeria, gan gynnwys The Ibo and Ibibio Peoples of Eastern Nigeria (gyda Daryll Forde; 1950), Trading States of the Oil Rivers (1963), a The Art of Eastern Nigeria (1984).[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Alicia Fentiman. Obituary: G. I. Jones Archifwyd 2020-02-19 yn y Peiriant Wayback, The Independent (27 Chwefror 1995). Adalwyd ar 9 Mehefin 2017.
- Genedigaethau 1904
- Marwolaethau 1995
- Academyddion yr 20fed ganrif o Gymru
- Academyddion Coleg yr Iesu, Caergrawnt
- Anthropolegwyr o Gymru
- Cyn-fyfyrwyr Coleg yr Iesu, Rhydychen
- Ethnograffwyr
- Ffotograffwyr yr 20fed ganrif o Gymru
- Llywodraethwyr a gweinyddwyr trefedigaethol
- Ysgolheigion y celfyddydau
- Ysgolheigion Saesneg o Gymru