Gwesty Craigside Hydro

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Hen Ffermdy Bryn y Bia[golygu | golygu cod y dudalen]

Gwesty Craigside Hydro, Llandudno, fel ag yr oedd yn ystod chwedegau'r ganrif ddiwethaf

Codwyd Gwesty Craigside Hydro ar lethrau’r Gogarth Fach tua 1884 ar dir Fferm Bryn y Bia. Roedd y ffermdy ar gornel Ffordd Colwyn a Ffordd Bryn y Bia ble mae fflatiau Bryn y Bia Lodge a thŷ o’r enw ’Rockeries’ heddiw, ac yn rhan o Stad Mostyn, ac ym 1843, roedd ym meddiant Edward Mostyn, Arglwydd Mostyn. Fferm o rhyw 45 acer oedd hi a George Felton oedd y tenant olaf, a bu ef farw yn 1878.

Yr Arwerthiant[golygu | golygu cod y dudalen]

Gydag adeiladu’r ffordd newydd o Landudno am Fae Penrhyn, roedd tiroedd y fferm yn cael eu rhannu. Hefyd, dywedir bod Stad Mostyn mewn trafferthion ariannol ym 1882 a phenderfynwyd gwerthu Fferm Bryn y Bia (ynghyd â thiroedd eraill) fesul ‘lot’.

Cynllun Fferm Bryn y Bia yn dangos y gwahanol 'lotiau' oedd ar werth

Ar y chwith, gwelir cynllun y tir fel ag yr oedd ar gyfer yr arwerthiant. Prynodd Cwmni Craigside Hydro Cyf. Lot 19 a 20 ar gyfer adeiladu’r gwesty a welir ar ben y dudalen. Hefyd, fe brynwyd ganddynt Lotiau 16, 17 ac 18 ar draws y ffordd ar gyfer gwahanol adeiladau megis neuaddau tennis, baddondy a modurdai. Cynhelid cystadlaethau tennis cenedlaethol a rhyngwladol yn y neuaddau tennis oedd o safon uchel iawn.

Gwahanol Gyfleusterau'r Gwesty[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd y gwesty yn arbenigo ac yn cynnig amrywiaeth o driniaethau meddygol, ac fel yr awgryma’r enw ‘Hydro’, roedd llawer o ddefnydd o ddŵr. Rheolwr cyntaf y gwesty oedd John Smith a’r arbenigwr meddygol oedd Dr Thomas Halton YH, oedd hefyd yn llaw feddyg ac yn feddyg teulu yn 7 North Parade wrth y pier. Ar un adeg roedd yn Gadeirydd Bwrdd Comisiynwyr Gwelliannau a sefydlwyd fel rhan o Ddeddf Gwelliannau Llandudno 1854, cyn i Gyngor Tref Llandudno ddod i fodolaeth. Hefyd, roedd yn Warden Eglwys Sant Sior.

Tu mewn i'r gwesty[golygu | golygu cod y dudalen]

O gwmpas y safle[golygu | golygu cod y dudalen]

Y Llywodraeth yn defnyddio'r gwesty yn ystod yr Ail Ryfel Byd[golygu | golygu cod y dudalen]

Llun wedi ei ail-greu yn dangos yr awyren ar fin plymio i'r môr

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd cymerwyd y gwesty drosodd gan y Llywodraeth yn Llundain a symudwyd nifer o weision sifil i'r Craigside Hydro. Yn eu plith roedd merch ifanc oedd mewn cariad gyda pheilot o'r awyrlu. Un diwrnod, yn ystod y flwyddyn 1941, penderfynodd y gŵr ifanc ddangos ei sgiliau hedfan yn ei awyren Airspeed Oxford iddi. Roedd hi a'i chyd-weithwyr yn gwylio'r cyfan, yn ôl y sôn, o ffenestri'r gwesty. Yn anffodus, aeth rhywbeth o'i le a phlymiodd yr awyren i'r môr ger Trwyn y Fuwch. Bu farw'r peilot. Dywedir, na ddychwelodd nifer o'r gweithwyr hyn yn ôl i'r brifddinas, a'u bod wedi penderfynu aros yng Ngogledd Cymru.

Ymwelwyr o Fri[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn sicr, roedd yn westy moethus ac ymhlith y bobl fu’n ymweld ‘roedd y Dywysoges Margaret yn ystod Cynhadledd Undeb Cenedlaethol yr Athrawon ar y 29ain o Fawrth 1951.

Hefyd, yn ddiweddarach, bu'r gantores boblogaidd o'r Alban, Moira Anderson, yn aros yn y rhan a ddangosir fel 'rhandy' yn y llun mawr. Erbyn hynny 'roedd y rhan honno yn westy o safon, Bryn y Bia Lodge, ond nawr, hefyd, sydd wedi ei ddymchwel a'i ail-godi fel bloc o fflatiau. Treuliodd Moira Anderson sawl tymor yn perfformio yn Theatr yr Arcadia.

Dangos y cyfleusterau amrywiol[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae’r llun isod yn dangos y safle yn ystod y pumdegau, gan gynnwys y gerddi a’r lawntiau tennis, bowls a croce o flaen y gwesty, a’r neuaddau tennis dros y ffordd ger y môr.

Llun o'r gwesty yn dangos y gwahanol gyfleusterau

Arloesi gyda threfniadau teithio i'r gwesty[golygu | golygu cod y dudalen]

Rhyfeddod yn wir oedd deall bod y cwmni oedd yn berchen y gwesty yn arloeswyr, gan mai hwy fu’n bennaf gyfrifol am drefnu gwyliau coetsys i Landudno. Mwy o ryfeddod byth oedd darllen (a gweld lluniau) o goetsys yn teithio i’r gwesty yn 1954, mor fuan wedi’r Ail Ryfel Byd!

Newid y cyrtiau tennis dan do yn stadiwm rhew[golygu | golygu cod y dudalen]

Ym 1959, penderfynwyd troi’r neuaddau tennis yn theatr gyda’r enw ‘The New Stadium’ a chyflwyno sioeau ar rew. Ar Orffennaf 11eg., 1959 yr agorwyd gyda gorymdaitjh o’r pier at y theatr gyda bwch gafr a band yn arwain! Yn ôl yr adroddiad yn y wasg ar y pryd roedd yn sioe arbennig o dda. Honnwyd bod y cwmni wedi perfformio ar draws y byd, a’u bod newydd ddychwelyd o Moscow. Byr iawn fu oes y theatr, ac ar ddechrau’r saithdegau dechreuodd Cwmni Hotpoint gynhyrchu peiriannau glanhau a smwddio ar y safle. Yna, cymerwyd y safle gan Gwmni Ceir Automobile Palace oedd â modurdai yng Nghraig-y-don, Bae Penrhyn (Y Links),Llanfair Pwllgwyngyll, Llandrindod a lleoedd eraill, i storio ceir.

Yng Ngorffennaf, 1959, trowyd y cyrtiau tennis dan do yn Stadiwm Rhew
Cynhaliwyd sioeau arbennig yn y stadiwm gyda dawnswyr o bedwar ban y byd!

Dirgelwch y Twnnel[golygu | golygu cod y dudalen]

Ai drwy'r twnnel o gefn yr adeilad yma y llwyddodd yr argraffwyr cudd i ddianc?

Yn y llun ar y chwith fe welwch dŷ a elwir heddiw yn 'Rockeries'. Erstalwm dyma ble roedd hen Ffermdy Bryn y Bia. Dywedir bod twnnel o gefn y ffermdy tuag at y traeth ger Trwyn y Fuwch. Yn hanes 'Gwasg Argraffu Gudd Rhiwledyn' ar Wicipedia mae sôn bod yr argraffwyr wedi diflannu o'r ogof ble roeddynt newydd argraffu 'Y Drych Cristianogawl' (yn anghyfreithlon). Efallai, bod hyn yn esbonio sut y llwyddodd y rhain i ddianc.

Y Dymchwel[golygu | golygu cod y dudalen]

Dyma'r olygfa o Drwyn y Fuwch tua 1960
Dyma'r olygfa o Drwyn y Fuwch tua 1960
Dyma'r olygfa o Drwyn y Fuwch yn 2015
Dyma'r olygfa o Drwyn y Fuwch yn 2015

Yna, penderfynwyd gwerthu’r cyfan yn cynnwys y gwesty a’r pafiliwn ac fe ddymchwelwyd y gwesty ym 1974. Y 'Winsford Demolition Company' gafodd y gwaith o ddymchwel yr adeilad a hynny wedi i dros 3000 o eitemau gael eu gwerthu mewn ocsiwn a gynhaliwyd dros nifer o ddyddiau. Cymerodd y gwaith dros dri mis i'w gwbwlhau gan eu bod yn ceisio ail-gylchu popeth oedd yn bosib'.

Prynwyd y safle gan Awdurdod Tir Cymru a’i rannu’n dair safle. Coxon oedd datblygwr y rhan ar lan y môr (Ael y Bryn). Cymrodyr Hiraethog (Berwyn Evans o Lansannan a Dennis Jones o Ruthun) oedd yn gyfrifol am adeiladu naw tŷ yn Rhiwledyn ar ochr y ffordd, a thipyn o frwydr fu hi hefyd cyn i’r enw gael ei dderbyn gan rai o gynghorwyr gwrth–Gymreig Cyngor Tref Llandudno. Wrth lwc, gan Gyngor Aberconwy roedd y gair olaf bryd hynny. R.P. Roberts ddatblygodd Rhodfa’r Graig.

Mwy am y newid[golygu | golygu cod y dudalen]