Gwarchodfa Natur Mere Sands
Math | gwarchodfa natur ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Bwrdeistref Gorllewin Swydd Gaerhirfryn ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 42 ha ![]() |
Cyfesurynnau | 53.6355°N 2.8371°W ![]() |
Rheolir gan | Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Swydd Gaerhirfryn, Manceinion a Gogledd Glannau Merswy ![]() |
![]() | |
Statws treftadaeth | Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ![]() |
Manylion | |
Mae Gwarchodfa Natur Mere Sands yn warchodfa natur yn Rufford, Swydd Gaerhirfryn, sydd yn cynnwys coetir a llynnau, gyda chanolfan ymwelwyr, 6 cuddfan a maes parcio. Maint y warchodfa yw 42 hectar.[1]


Adar[golygu | golygu cod]
Gwelir Coch y Berllan, Llwyd y Coed, Cnocell Fraith Fwyaf, Titw’r Helyg, Titw Tomos Las, Gwyach fawr gopog, Corhwyaden, Hwyaden gopog, Llydanbig, Hwyaden lostfain, Glas y dorlan, Aderyn y bwn, Hwyaden ddanheddog, Hwyaden lygad-aur, Hwyaden wyllt, Hwyaden yr eithin, Cwtiad Torchog Bach, Llinos Bengoch, Dringwr Bach, Rhegen dŵr, Bras y Cyrs, Hwyaden bengoch a Hwyaden lwyd.[1][2]
Gwelir hefyd 15 math gwahanol o was y Neidr[2].
Anifeiliaid[golygu | golygu cod]
Gwelir Iwrch, Carlwm, Llwynog Gwiwer Goch a Llygoden y Dŵr.[1]
Oriel[golygu | golygu cod]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ 1.0 1.1 1.2 Gwefan Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Swydd Gaerhirfryn
- ↑ 2.0 2.1 "Gwefan RSPB". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-10-01. Cyrchwyd 2019-10-01.