Coch y Berllan

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Coch y Berllan
Ceiliog
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Passeriformes
Teulu: Fringillidae
Genws: Pyrrhula
Rhywogaeth: P. pyrrhula
Enw deuenwol
Pyrrhula pyrrhula
(Linnaeus, 1758)
Pyrrhula pyrrhula europoea

Mae Coch y Berllan yn perthyn i'r teulu Fringillidae. Mae'n aderyn bach sy'n nythu ar draws Ewrop a gogledd Asia.

Mae Coch y Berllan yn nythu mewn coedydd neu gymysgedd o goedydd a chaeau. Adeiledir y nyth mewn coeden neu wrych, gan ddodwy rhwng 4 a 7 wy fel arfer. Hadau o wahanol fathau yw'r prif fwyd, ond mae hefyd yn bwyta blagur coed ffrwythau yn y gaeaf, ac oherwydd hyn mae'n cael ei ystyried yn bla gan dyfwyr ffrwythau. Nid yw'n aderyn mudol fel rheol, ond mae adar o'r rhannau mwyaf gogleddol yn symud tua'r de yn y gaeaf. Yn aml mae i'w weld mewn grwpiau o ryw hanner dwsin o adar; nid yw'n ffurfio'n heidiau mawr fel llawer o'r llinosiaid.

Mae'r ceiliog yn arbennig yn aderyn hawdd ei adnabod, gyda chefn llwyd, cap du ar y pen a'r bol yn goch. Llwydfrown yw bol yr iâr a'r adar ieuanc, ond maent i gyd yn dangos darn gwyn mawr wrth fôn y gynffon wrth hedfan i ffwrdd, ac mae'r pig byr, tew hefyd yn nodweddiadol.

Yng Nghymru mae'n aderyn gweddol gyffredin, er fod y niferoedd wedi gostwng rhywfaint yn y blynyddoedd diwethaf.

Statws yng Nghymru[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'n weddol niferus trwy'r flwyddyn ond yn fwy clytiog ei ddosbarthiad yn y gorllewin eithaf a phrin yn yr ucheldir ar wahân i ardaloedd a goedwigwyd yn ddiweddar. Mae'n gysylltiedig â gwrychoedd a gerddi trwchus o ddrain a drysni a haenau isaf coedlannau. Oherwydd y pori trwm a fu a ataliodd datblygiad y drysni hyn nid yw ei boblogaeth yn wastad o gymharu â phincod eraill. Fodd bynnag, er gwaethaf gwisg trawiadol y ceiliog mae'n rhywogaeth swil ac o'r herwydd yn cael ei dan-gyfrif mewn cyfrifiadau. Dywedir i'w niferoedd gael eu dylanwadu yn awr gan drai y gwalch glas yn yr 1980au, dro arall gan gyfnodau ffafriol ym mhroses twf ôl-ryfel y planhigfeydd conwydd, neu yn y de, adferiad y tir a fu'n waddol y diwydiant glo. Un arferiad nid anghyffredin yw ymborthi yn yr ucheldiroedd yn y gaeaf, weithiau yn gysylltiedig â phlanhigfeydd, ar ysbrigau grug yn ymwthio trwy'r lluwch eira, a chan ddefnyddio'r eira fel llwyfan i'w cyrchu[1]

Is-rywogaethau[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae hil Prydeinig a Gwyddelig P.p. pileata yn endemig ac yn nodweddiadol llai disglair ei liw (y gwryw?) ac yn dywyllach (y fenyw?) na'r hil P.p. pyrrhula o ogledd Ewrop. Mae'r cyntaf yn dueddol o fod yn eisteddog a disymyd - ffaith a gadarnheir gan ddata oddiwrth 28 aderyn modrwyog o Gymru a ail-ddaliwyd ac na chafwyd ond dau ohonynt oedd wedi symyd rhagor na 10km o'r man y'i modrwywyd. Mae adar o'r cyfandir yn fwy tueddol o symyd yn y gaeaf yn ôl y cyflenwad bwyd gan amlaf, efallai ar batrwm cylchol o dair neu bedair blynedd. Gallasai adar o'r math wedi bod yn gyfrifol am fintai o 16 coch y berllan a wyliwyd o oleulong Caernarfon yn hedfan tua'r de-ddwyrain yn Hydref 1885. Cofnodwyd symudiadau tebyg a dybir yn rhai o hil y gogledd yn amlach ar Ynys Enlli na gweddill ynysoedd Cymru. Roedd cofnod o 30 aderyn ym 1988 ym Mhenfro yn nodedig.[1]

Enwau[golygu | golygu cod y dudalen]

Casglodd Dewi Lewis[2] 11 o enwau neu ffurfiau Cymraeg ar goch y berllan, fel a ganlyn:

aderyn pensidan, chwibanydd, aderyn y berllan, bwlffin (Bangor), rhawngoch [gweler redstart], twm cwinc (Morgannwg), aderyn rhongoch, aderyn rhawngoch, gwas y siri [gweler goldfinch], aderyn coch, aderyn rhown goch (Llandysul) a coch y gors (Nantgarw).

Yn 1897 ysgrifennodd ohebydd yn y Cylchgrawn ''Cymru''[3] erthygl hir am goch y berllan yn cynnwys yr hanesyn hwn:

Ond sôn yr oeddwn am y bullfinch, onide? Yn y geiriaduron ceir dau enw Cymraeg... sef, "coch y berllan," a " chwibanydd." Chwibanydd?
Nid cymhwys yr enw, canys nid yw nodau ei gân naturiol ond cyfres o ffrillion neu yswitiadau isel, tyner, lleddf, fel tinciadau seinber eur-gloch fechan mewn pellder. Ond arhoswch! Gall fod rhyw reswm dros yr enw hefyd, canys gellir chwibanydd rhagorol o hono drwy ei hyfforddi yn ofalus. Yn yr Almaen dysgir nifer mawr o'r adar hyn, yn flynyddol, i chwibanu alawon, ac anfonir lluaws o honynt i wledydd ereill i'w gwerthu. A nodir hwynt, tybed, â’r nôd ystrydebol, — Made in Germany?

Mater o farn mae'n debyg yw addasrwydd yr enw chwibanydd![4]

Cysylltiadau â dyn[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu'n arfer gan y Cymru i gadw adar coch y berllan mewn cewyll yn y cartref fel y tystia'r adroddiad canlynol o Lys Manddyledion Caernarfon am fargen gwael:

"FFAIR SAL." Yn Llys Manddyledion Caernarfon ddydd Mawrth, gerbron y Barnwr Horatio Lloyd, Robert Roberts, Bethesda-street, Llanberis, a erlyniodd R. Newton, Highington, Lincoln, am ddychweliad nwyddau neu eu gwerth, 3p 5s. Erlynid gan Mr Vincent, yr hwn a ddywedodd ddarfod i'r erlynydd ateb hysbysiad a welodd ychydig amser yn ol yn yr Exchange and Mart, yn mha un y cynygiai y diffynydd ddryll a pheiriant gwnio ar werth neu i'w cyfnewid. Cymerodd ychydig ohebiaeth le cydrhyngddynt, a denwyd yr erlynydd, drwy honiadau twyllodrus, i anfon i'r diffynydd bâr o golomenod gwobrwyedig, gwerth lp 5s, a bullfinch and cage, gwerth 2p, am pa rai y derbyniodd yn gyfnewid hen ddryll diwerth a pheiriant gwnio diddefnydd. Estynwyd y dryll, pa un oedd ond llathen 0 hyd, ac yn dolciog a rhydlyd, i'w Anrhydedd i gael golwg arno. Ei Anrhydedd: Mae hwn yn edrych fel un o weddillion y cynoesoedd (chwerthin). Mr Vincent a ddywedodd fod y dryll yn cael ei ddisgrifio fel un rhagorol i ladd snipe a cholomenod (chwerthin) ond efallai fod y perchenog yn golygu i'r adar fod yn ddigon agos a dof i gymeryd eu dyrnu a bon y dryll. Rhoddodd y Barnwr ddedfryd yn ffafr yr erlynydd.[2][5]

Roedd hefyd ddosbarth cystadleuol i'r rhywogaeth yn y 'ffansi':

Cynhaliwyd arddangosfa adar yn Mhorthaethwy, ddydd Sadwrn, a throdd allan yn dra llwyddianus. Wele restr o'r buddugwyr:..... British bullfinch, greenfinch, chaffinch, or linnet: 1 W Winnard; 2, F. Lloyd, Bangor; 3, W. H. Williams, Llangoed. British (any other variety): 1, R. C. Forbes; 2, Owen Bros.; 3, W. Aitken, Bangor. Selling class: 1, R. W. Roberts; 2, J. O. Williams; 3, F. Lloyd. Canary (confined to Menai Bridge): 1 and 3 W. Noan, Craig yr Halen; 2, Owen Bros. Goldfinch or mule (ditto): 1, Owen Bros.; 2, J. H. Moreland; 3, R. Humphreys. [6][3]

Ystyriwyd ac ystyrir coch y berllan yn ddinistriol ym mherllanau afalau yn y gororau ac fe'i hepgorid o warchodaeth llwyr y ddeddf gwarchod adar o gyfnod cynnar yn hanes cadwraeth bywyd gwyllt, ond nid trwy unfrydiaeth yng Nghymru mae'n debyg, fel y tystia'r adroddiad hwn o Gaerfyrddin, ardal nad oedd ganddi berllannau masnachol sylweddol:

PROTECTION OF WILD BIRDS. A letter was read from the Home Office, enclosing a draft order approving of the Council's order for the protection of wild birds, but proposing that the bullfinch, the thrush, the robin and the wren should be omitted:
Mr James John: It would be a pity to omit the bull-finch which is largely caught in this country. Mr Gwilym Evans moved that the Council ask why these birds had been left out. Dr Thomas: I am perfectly willing as far as I am concerned. It is a great pity that the bullfinch is not included. The Clerk: and the wren too. Dr Thomas: What has the poor wren done? I think we ought to get the lot in. It was decided to ask why these four birds had been excluded and also to state that the Council wished to include them.[7][4]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 Lovegrove, R. ac eraill (1994) Birds in Wales, Poyser
  2. Rhagor o Enwau Adar: Dewi E Lewis a Chymdeithas Edward Llwyd 1 Tachwedd 2018
  3. Cymru rhifyn 15 Ebrill 1897
  4. [1]; adalwyd 30 Awst 2018.
  5. Y Werin 21 Mai 1887
  6. Gwalia 1st Mawrth 1909
  7. The Carmarthen Weekly Reporter 26ain Ebrill 1901