Cwtiad torchog bach

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Cwtiad Torchog Bach)
Cwtiad Torchog Bach
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Charadriiformes
Teulu: Charadriidae
Genws: Charadrius
Rhywogaeth: C. dubius
Enw deuenwol
Charadrius dubius
Scopoli, 1786
Charadrius dubius

Mae'r Cwtiad Torchog Bach (Charadrius dubius) yn aelod o deulu'r rhydyddion sy'n nythu trwy'r rhan fwyaf o Ewrop a gorllewin Asia.

Mae ganddo gefn brownllwyd, bol gwyn a bron wen gyda thorch ddu ar ei thraws. Mae ganddo ddu o gwmpas ei lygaid a chap brown, gyda llinell wen rhyngddynt. Gellir gwahaniaethu rhyngddo a'r Cwtiad Torchog, sydd ychydig yn fwy; mae gan y Cwtiad Torchog Bach linell felen yn amgylchynu'r llygad ac llinell wen ar y talcen rhwng y du a'r brown.

Yn wahanol i'r Cwtiad Torchog mae fel rheol yn nythu ger dŵr croyw yn hytrach nag ar lan y môr, yn enwedig ar y graean gerllaw llynnoedd ac afonydd. Mae'n aderyn mudol sy'n treulio'r gaeaf yn Affrica.

Mae'r nifer sy'n nythu yng Nghymru yn gymharol fychan, ond mae rhywfaint o gynnydd wedi bod yn y blynyddoedd diwethaf.