Gugler

Oddi ar Wicipedia

Y Gugler, weithiau y Gügler, yw'r enw a ddefnyddir am fyddin o farchogion, Ffrengig a Seisnig yn bennaf, a ymosododd ar Alsace a'r Swistir fel hurfilwyr yn cael eu cyflogi gan Enguerrand VII de Coucy yn yr hyn a elwir yn Rhyfel Gugler yn 1375. Un o'u harweinwyr oedd Owain Lawgoch. Dywed Barbara Tuchman fod yr enw Gugler yn dod o Gugle neu Gügle, gair yn Almaeneg y Swistir am gwfl, oherwydd fod y marchogion wedi eu gwisgo ar gyfer y gaeaf.

Yn y cyfnod yma, roedd yr ymladd yn y Rhyfel Can Mlynedd rhwng Ffrainc a Lloegr wedi peidio dros dro, gan adael llawer o hurfilwyr a marchogion eraill heb gyflogaeth. Cyflogodd De Coucy fyddin ohonynt, i geisio ennill ei etifeddiaeth oddi wrth ei berthnasau Habsburg. Cafodd gefnogaeth Siarl V, brenin Ffrainc. Nid oes sicrwydd am faint y fyddin; mae Tuchman yn amcangyfrif ei bod tua 10,000, ond mae dogfen o'r cyfnod o Alsace yn dweud 16,000. Y bwriad oedd cipio Sundgau, Breisgau a sir Ferrette oddi wrth Albrecht III, Dug Awstria a Leopold III, Dug Awstria.

Yn ystod Hydref a Thachwedd 1375, ymosododd y Gugler ar y Sundgau, a dinistriwyd 40 pentref. Gorfodwyd Leopold i encilio i Breisach ar afon Rhein. Ym mis Rhagfyr, croesodd y Gugler fynyddoedd y Jura i ddyffryn Aare. Roedd y fyddin yn dair rhan; Enguerrand de Coucy yn arwain y brif fyddin, oedd yn abaty St. Urban, Jean de Vienne yn arwain yr ail uned, oedd yn abaty Gottstatt, ac Owain Lawgoch yn arwain y drydedd ran, oedd yn abaty Fraubrunnen. Ymosododd y Gugler ar ran orllewinol yr Aargau, gan ddinistrio trefi Fridau ac Altreu.

Gwrthwynebwyd hwy gan y boblogaeth leol, a'u gorchfygodd ger Buttisholz ar 19 Rhagfyr, gan ladd 300 o farchogion, a ffurfiwyd byddin gan drigolion Bern, a laddodd 300 arall y noson cyn y Nadolig. Ar 27 Rhagfyr, ymosodasant ar fyddin Owain yn abaty Fraubrunnen, a'u gorchfygu. Llwyddodd Owain i ddianc, ond lladdwyd 800 o'r marchogion Gugler.

Erbyn Ionawr 1376 roedd byddin y Gugler wedi dychwelyd i Ffrainc ac ymwahanu. Daeth Enguerrand i gytundeb ag Albrecht III yn 1387, gan dderbyn tiriogaethau Büren a rhan o dref Nidau, ond collodd Nidau ymhen blwyddyn i fyddin Bern a Solothurn. Pan holwyd Enguerrand de Coucy gan y croniclydd Froissart lawer blwyddyn wedyn, gwadodd iddo fod yn y Swistir o gwbl.