Breisgau

Oddi ar Wicipedia
Breisgau o'r awyr.

Ardal yn nhalaith Baden-Württemberg yn yr Almaen yw Breisgau. Saif yn ne-orllewin yr Almaen, rhwng afon Rhein a'r Fforest Ddu, ac mae'n rhan o ranbarth Breisgau-Hochschwarzwald. Y brif ddinas yw Freiburg im Breisgau.

Yn y cyfnod Rhufeinig, roedd yn rhan o dalaith Germania superior. Yn 260, wedi i'r Almaenwyr dorri trwy'r limes Germanicus, ymsefydlodd yr Alemanni yma. Yn y 12g roedd yn rhan o Ddugiaeth Zähringen. O'r 14g hyd 1797, roedd dan reolaeth llinach yr Habsburg ac yn rhan o Ddugiaeth Awstria.

Mae'r Breisgau yn ardal amaethyddol, yn adnabyddus am ei gwin a'i choed ffrwythau. Heblaw Freiburg, y prif drefi a phentrefi yw Bad Krozingen, Staufen, Breisach, Endingen, Kenzingen, Neuenburg ac Emmendingen. Mae copa mynydd y Schauinsland yn codi i 1200 m. uwch lefel y môr.