Albrecht III, Dug Awstria

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Albrecht III, Dug Awstria
Albrecht Dritte Habsburg1.jpg
Ganwyd 9 Medi 1349 Edit this on Wikidata
Fienna Edit this on Wikidata
Bu farw 29 Awst 1395 Edit this on Wikidata (45 oed)
Laxenburg Edit this on Wikidata
Priod Elisabeth o Fohemia, Beatrice of Nuremberg Edit this on Wikidata
Plant Albert IV, dug Awstria Edit this on Wikidata
Teulu Margaret of Austria, Leopold III, Dug Awstria, Rudolf IV, Dug Awstria, Frederick III, Dug Awstria Edit this on Wikidata
Llinach Habsburg

Dug Awstria o 1365 hyd ei farwolaeth oedd Albrecht III, Dug Awstria (9 Medi, 1349 - 29 Awst, 1395).

Ganed ef yn Fienna, yn drydydd mab i Albrecht II, Dug Awstria, aelod o deulu Habsburg. Wedi marwolaeth ei frawd hynaf, Rudolf IV, roedd ef a'i frawd Leopold III yn gyfrifol am weinyddu tiroedd teulu Habsburg. Yn 1375 cyflogodd Enguerrand VII de Coucy, oedd yn hawlio rhan o'r tiriogaethau hyn, fyddin i geisio eu meddiannu, yn yr ymgyrch a elwir yn Rhyfel y Gugler. Roedd Owain Lawgoch yn un o arweinwyr y fyddin hon. Gorfodwyd byddin Albrecht a Leopold i encilio, ond methodd ymgyrch y Gugler oherydd gwrthwynebiad ffyrnig y Swisiaid. Yn 1377, aeth Albrecht ar groesgad yn erbyn y Lithiwaniaid a'r Samogitiaid, oedd yn baganiaid.

Dan delerau Cytundeb Neuberg yn 1379, daeth yn rheolwr Awstria ei hun, tra daeth Leopold yn rheolwr Styria, Carinthia, Carniola a nifer o diriogaethau eraill. Roedd yn adnabyddus fel ysgolhaig, a bu'n noddwr i Brifysgol Fienna. Claddwyd ef yn Eglwys Gadeiriol San Steffan, Fienna, ac olynwyd ef gan ei fab, Albrecht IV.