Jean de Vienne

Oddi ar Wicipedia
Jean de Vienne
Ganwyd1341 Edit this on Wikidata
Dole Edit this on Wikidata
Bu farw25 Medi 1396 Edit this on Wikidata
o lladdwyd mewn brwydr Edit this on Wikidata
Nikopol Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Ffrainc Edit this on Wikidata
Galwedigaethmarchog Edit this on Wikidata
Gwobr/auKnight of the Order of the Collar Edit this on Wikidata
Ymosodiadau Jean de Vienne a Tovar ar Loegr, 1374-80

Milwr a llynghesydd Ffrengig yn ystod y Rhyfel Can Mlynedd oedd Jean de Vienne (134125 Medi 1396).

Ganed ef yn Dole, Jura. Gwnaed ef yn farchog yn 21 oed. Yn 1373, gwnaeth Siarl V, brenin Ffrainc ef yn Llynghesydd Ffrainc, a dechreuodd adeiladu llongau ac ad-drefnu'r llynges. Yn 1375, roedd yn arweinydd un o dri corfflu byddin Enguerrand de Coucy yn Rhyfel y Gugler; roedd Owain Lawgoch yn arwain corfflu arall.

Dano ef, ymosododd llynges Ffrainc ar arfordir deheuol Lloegr nifer o weithiau. Yn 1385, glaniodd yn yr Alban gyda 180 o longau, i ymosod ar Loegr o'r gogledd. Wedi marwolaeth Siarl V, nid oedd Siarl VI, brenin Ffrainc yn cymryd cymaint o ddiddordeb yn y llynges, ac ymunodd a chroesgad Sigismund, brenin Hwngari yn erbyn y Twrciaid. Lladdwyd ef ym Mrwydr Nicopolis ym Mwlgaria; cymerwyd Enguerrand de Coucy yn garcharor yn yr un frwydr.