Gored Beuno
Math | cored, ynys a wnaed gan bobl |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | y Deyrnas Unedig |
Cyfesurynnau | 53.031482°N 4.368808°W |
Mae Gored Beuno yn gasgliad o gerrig mawr yn y môr, sy'n ymddangos ar gyfnodau o drai, tua 400 metr oddi ar y lan gyferbyn â phentref Clynnog Fawr a Phorth Clynnog e Gwynedd. Y gred oedd bod Sant Beuno wedi bod yn defnyddio'r man, a bod lefel y môr pan oedd yn fyw yn sylweddol is na heddiw, fel yr oedd modd iddo gyrraedd y gored a dal pysgod yno.
Ystyr cored yw clawdd cerrig i ddal pysgod wrth i'r llanw fynd allan, ac fe'u defnyddid yn aml yn y Canol Oesoedd. Mae sawl enghraifft o hyd i'w gweld yn Afon Menai, er enghraifft wrth Ynys Gored Goch ger Pont Britannia. Mae olion coredau i'w gweld yn y môr ger Aberaeron hefyd. Yn aml, fe'u cysylltir â safleoedd crefyddol gan fod pysgod yn rhan bwysig o ddeiet offeiriaid ar ddyddiau ympryd.
Megis Caer Arianrhod, nid ond rhyw dair milltir i'rt gogledd, nid yw Gored Beuno yn ynys ond ar adegau byr pan fydd y llanw'n isel.