Gofod y sampl

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Gofod-sampl)
Gofod y sampl
Bwrw ceiniog, lle ceir dau ganlyniad posib, gyda'r ddau yr un mor debygol.
Mathset Edit this on Wikidata
Yn cynnwyscanlyniad Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Gofod y sampl neu ofod-sampl, mewn arbrawf neilltuol, yw'r set o'r holl ganlyniadau posib. fe'i ceir yn aml oddi fewn i faes tebygolrwydd.

Caiff y set ei ddynodi gan nodiant arferol setiau, sef (set wag), (hefyd neu neu {} ), N, rhifau Naturiol, Z (cyfanrifau - o Zahl, sef yr Almaeneg am rif), Q (rhifau cymarebol; o'r gair quotient), R (rhifau Real) a C (rhifau Cymhlyg). Rhestrir y canlyniadau posib fel "elfennau'r" set. Cyfeirir yn aml at ofod y sampl gan y labeli S, Ω, neu U (o'r Saesneg "universal set") sef y "setiau cynhwysol".

Er enghraifft, os mai'r arbrawf yw bwrw ceiniog, gofod y sampl yw'r set {pen, cynffon}. Pe fwrir dwy geiniog, yna gofod cyfatebol y sampl fyddai {pen,pen}, {pen,cynffon}, {cynffon,pen}, {cynffon,cynffon}. Gellir talfyru hyn i: {PP, PC, CP, CC}. Os yw'r gofod heb ei drefnu yna gellir ei nodi fel: {pen,pen}, {pen,cynffon}, {cynffon,cynffon}.

Pe bai'r arbrawf yn cynnwys taflu deis 6-ochr, yna gofod y sampl fyddai {1, 2, 3, 4, 5, 6} (a'r canlyniad o ddiddordeb i ni yw'r nifer o ddotiau sydd ar yr ochr uchaf).[1]

Mae gofod y sampl a ddiffiniwyd yn dda dair elfen sylfaenol o fewn model tebygolrwydd (a elwir hefyd yn "ofod tebygolrwydd"); mae'r ddwy arall yn set a ddiffiniwyd yn dda o ddigwyddiadau (sigma-algebra) a thebygolrwydd a neilltuwyd i bob digwyddiad (tebygolrwydd ffwythiannol).

Amodau[golygu | golygu cod]

Mae'n rhaid i set gyda'r canlyniadau (h.y. ) ateb rhai amodau er mwyn i'r set fod yn 'ofod y sampl':

  • Mae'n rhaid i'r canlyniadau fod yn gyd-anghynhwysol[2] (mutually exclusive), h.y. os yw yn cymryd lle, yna ni all unrhyw gymryd lle, .
  • Mae'n rhaid i ofod y sampl () gael y gronynnedd cywir (the right granularity), yn ddibynnol ar faes ein diddordeb. Mae'n rhaid ymwrthod a gwybodaeth amherthnasol o ofod y sampl.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Larsen, R. J.; Marx, M. L. (2001). An Introduction to Mathematical Statistics and Its Applications (arg. Third). Upper Saddle River, NJ: Prentice Hall. t. 22. ISBN 9780139223037.
  2. geiriadur.bangor.ac.uk; Geiriadur Bangor; adalwyd 26 ionawr 2019.