George McGovern
George McGovern | |
---|---|
Ganwyd | 19 Gorffennaf 1922 Avon, De Dakota |
Bu farw | 21 Hydref 2012 Sioux Falls, De Dakota |
Man preswyl | Bazelon-McGovern House, Chevy Chase |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, diplomydd, hanesydd, hunangofiannydd, academydd, ymgyrchydd heddwch |
Swydd | Cynrychiolydd yr Unol Daleithiau, United States Ambassador to the United Nations Agencies for Food and Agriculture, llysgennad, Seneddwr yr Unol Daleithiau, Seneddwr yr Unol Daleithiau, Seneddwr yr Unol Daleithiau, Seneddwr yr Unol Daleithiau, Seneddwr yr Unol Daleithiau, Seneddwr yr Unol Daleithiau, Seneddwr yr Unol Daleithiau, Seneddwr yr Unol Daleithiau, Seneddwr yr Unol Daleithiau, Cynrychiolydd yr Unol Daleithiau, Cynrychiolydd yr Unol Daleithiau |
Plaid Wleidyddol | plaid Ddemocrataidd |
Priod | Eleanor McGovern |
Gwobr/au | Y Groes am Hedfan Neilltuol, Medal Rhyddid yr Arlywydd, Medal Aer, Dyneiddiwr y Flwyddyn, Gwobr Pedwar Rhyddid - Rhyddid rhag Eisiau, Gwobr Bwyd y Byd |
llofnod | |
Hanesydd a gwleidydd Americanaidd oedd George Stanley McGovern (19 Gorffennaf 1922 – 21 Hydref 2012) oedd yn ymgeisydd y Blaid Ddemocrataidd ar gyfer etholiad arlywyddol 1972.
Ganwyd yn Ne Dakota, a gwasanaethodd fel peilot bomio yn Ewrop yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Ar ôl y rhyfel aeth i brifysgol, gan ennill doethuriaeth ym 1953, a dysgodd hanes a gwyddor gwleidyddiaeth. Cafodd ei ethol i Dŷ'r Cynrychiolwyr ym 1956, y Cyngreswr Democrataidd cyntaf yn Ne Dakota mewn 20 mlynedd. Gadawodd y Tŷ ym 1960 i ymgyrchu am y Senedd, ond collodd yr etholiad. Cafodd ei benodi'n gyfarwyddwr y rhaglen Bwyd am Heddwch dan yr Arlywydd John F. Kennedy. Ym 1962 cafodd ei ethol i'r Senedd.[1]
Ef oedd y seneddwr cyntaf i godi ei lais yn erbyn ymyrraeth yr Unol Daleithiau yn Rhyfel Fietnam. Enillodd enwebiad y Blaid Ddemocrataidd am yr arlywyddiaeth ym 1972, ac ymgyrchodd ar bolisïau rhyddfrydol, gan bwysleisio encilio lluoedd Americanaidd rhag Fietnam a diddymu gorfodaeth filwrol.[2] Collodd yr etholiad i'r deiliad Richard Nixon, ac i nifer o geidwadwyr roedd McGovern yn symbol o fethiant polisïau'r Democratiaid. Gadawodd gwleidyddiaeth wedi iddo gael ei drechu mewn etholiad seneddol ym 1980. Ym 1997, penododd yr Arlywydd Bill Clinton McGovern yn llysgennad i Sefydliad Bwyd ac Amaeth y Cenhedloedd Unedig.[1]
Mae etifeddiaeth McGovern i'r Blaid Ddemocrataidd yn ddadleuol. O ganlyniad i'w wrthwynebiad i Ryfel Fietnam daeth yn arweinydd i adain chwith y blaid, a llwyddodd ei ymgyrch arlywyddol i ddenu nifer o fyfyrwyr a blaengarwyr,[2] ond cyhuddwyd McGovern gan nifer o Ddemocrataidd o gyfeiliorni'r blaid a dieithrio pleidleiswyr.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) Rosebaum, David E. (21 Hydref 2012). Dashed Presidential Hopes, but a Life Devoted to Liberalism. The New York Times. Adalwyd ar 21 Hydref 2012.
- ↑ 2.0 2.1 (Saesneg) Obituary: George McGovern, former US presidential candidate. BBC (21 Hydref 2012). Adalwyd ar 21 Hydref 2012.