Gene Wilder
Gene Wilder | |
---|---|
Ganwyd | Jerome Silberman 11 Mehefin 1933 Milwaukee |
Bu farw | 29 Awst 2016 o clefyd Alzheimer Stamford |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, cyfarwyddwr ffilm, digrifwr, actor teledu, cynhyrchydd ffilm, actor llwyfan, awdur, sgriptiwr, llenor, cyfarwyddwr, canwr, actor ffilm, cynhyrchydd |
Priod | Gilda Radner |
Gwobr/au | Primetime Emmy Award for Outstanding Guest Actor in a Comedy Series, Gwobr Hugo am y Cyflwyniad Dramatig Gorau, Clarence Derwent Awards |
Gwefan | http://www.genewilder.net |
llofnod | |
Actor, awdur a digrifwr o'r Unol Daleithiau oedd Jerome Silberman, a adwaenir yn broffesiynol fel Gene Wilder (11 Mehefin 1933 – 29 Awst 2016).[1]
Cychwynnodd Wilder ei yrfa ar lwyfan a gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf ar sgrîn yn y gyfres deledu Armstrong Circle Theatre yn 1962. Ei rhan cyntaf ar ffilm oedd portreadu gwystl yn y ffilm Bonnie and Clyde (1967), ei brif rhan cyntaf oedd fel Leopold Bloom yn y ffilm film The Producers (1968) a cafodd enwebiad Gwobrau Academi am yr Actor Cefnogol Gorau. Dyma oedd y cyntaf o sawl cydweithrediad gyda'r ysgrifennwr/cyfarwyddwyr Mel Brooks, yn cynnwys Blazing Saddles (1974) a Young Frankenstein, a cyd-ysgrifennwyd gan Wilder, gan ennill enwebiad Gwobrau'r Academi i'r ddau am Sgript Ffilm Addasiedig Gorau. Roedd Wilder yn adnabyddus am ei bortread o Willy Wonka yn Willy Wonka & the Chocolate Factory (1971) a'i bedwar ffilm gyda Richard Pryor: Silver Streak (1976), Stir Crazy (1980), See No Evil, Hear No Evil (1989), a Another You (1991). Cyfarwyddodd ac ysgrifennodd Wilder sawl ffilm ei hun yn cynnwys The Woman in Red (1984).
Ei drydydd gwraig oedd yr actores Gilda Radner, a serennodd gyda hi mewn tri ffilm. O ganlyniad i'w marwolaeth o ganser yr ofari, daeth yn weithgar gyda chodi ymwybyddiaeth o ganser a'i driniaeth gan helpu i ffurfio Canolfan Canfod Canser Ofaraidd Gilda Radner yn Los Angeles a cyd-ffurfio Gilda's Club.
Yn dilyn ei gwaith actio mwyaf diweddar yn 2003, trodd Wilder ei sylw at ysgrifennu. Ysgrifennodd gofiant yn 2005, Kiss Me Like a Stranger: My Search for Love and Art; casgliad o storiau, What Is This Thing Called Love? (2010); a'r nofelau My French Whore (2007), The Woman Who Wouldn't (2008) a Something to Remember You By (2013).
Gwaith
[golygu | golygu cod]Ffilm
[golygu | golygu cod]Blwyddyn | Teitl | Rhan | Nodiadau |
---|---|---|---|
1966 | Death of a Salesman | Bernard | Teledu |
1967 | Bonnie and Clyde | Eugene Grizzard | |
1968 | The Producers | Leo Bloom | Enwebwyd – Gwobrau'r Academi ar gyfer Actor Cefnogol Gorau |
1970 | Start the Revolution Without Me | Yr efeilliaid Claude a Philippe | |
Quackser Fortune Has a Cousin in the Bronx | Quackser Fortune | ||
1971 | Willy Wonka & the Chocolate Factory | Willy Wonka | Enwebwyd – Gwobr Golden Globes ar gyfer Actor Gorau - Ffilm Gomedi neu Gerddorol |
1972 | Everything You Always Wanted to Know About Sex* (*But Were Afraid to Ask) | Dr. Doug Ross | |
The Scarecrow | Lord Ravensbane/The Scarecrow | Teledu | |
1974 | Rhinoceros | Stanley | Seiliwyd ar ddrama Eugène Ionesco Rhinoceros |
Blazing Saddles | Jim, "The Waco Kid" | ||
The Little Prince | The Fox | ||
Thursday's Game | Harry Evers | Teledu | |
Young Frankenstein | Dr. Frederick Frankenstein | Enwebwyd – Gwobrau'r Academi ar gyfer Ysgrifennu Sgript Ffilm Addasiedig | |
1975 | The Adventure of Sherlock Holmes' Smarter Brother | Sigerson Holmes | Hefyd cyfarwyddwr ac awdur |
1976 | Silver Streak | George Caldwell | Enwebwyd – Gwobr Golden Globes am Actor Gorau - Ffilm Gomedi neu Sioe Gerdd |
1977 | The World's Greatest Lover | Rudy Valentine, aka Rudy Hickman | Hefyd cynhyrchydd, cyfarwyddwr ac awdur |
1979 | The Frisco Kid | Avram Belinski | |
1980 | Sunday Lovers | Skippy | Cyfarwyddodd y darn "Skippy" |
Stir Crazy | Skip Donahue | ||
1982 | Hanky Panky | Michael Jordon | |
1984 | The Woman in Red | Teddy Pierce | Hefyd cyfarwyddwr ac awdur |
1986 | Haunted Honeymoon | Larry Abbot | Hefyd cyfarwyddwr ac awdur |
1989 | See No Evil, Hear No Evil | Dave Lyons | Hefyd awdur |
1990 | Funny About Love | Duffy Bergman | |
1991 | Another You | George/Abe Fielding | |
1999 | Murder in a Small Town | Larry "Cash" Carter | Teledu; cyd-ysgrifennwyd gyda Gilbert Pearlman |
Alice in Wonderland | The Mock Turtle | ||
The Lady in Question | Larry "Cash" Carter | Teledu; cyd-ysgrifennwyd gyda Gilbert Pearlman |
Teledu
[golygu | golygu cod]- Llais ar gyfer darn The Electric Company' o The Adventures of Letterman (60 pennod, 1972–1977)
- Something Wilder (1994–1995)
- Will & Grace Penodau "Boardroom and a Parked Place" (2002) a "Sex, Losers & Videotape" (2003); (Seren wadd – Mr. Stein)
Llwyfan
[golygu | golygu cod]- The Complaisant Lover (Broadway, 1962)
- Mother Courage and Her Children (Broadway, 1963)
- One Flew Over the Cuckoo's Nest (Broadway, 1963)
- The White House (Broadway, 1964)
- Luv (Broadway, 1966)
- Laughter on the 23rd Floor (Llundain, 1996)
Rhaglenni dogfen
[golygu | golygu cod]- "Expo: Magic of the White City" (2005)
Cyhoeddiadau
[golygu | golygu cod]- Piver, M. Steven and Gene Wilder. Gilda's Disease: Sharing Personal Experiences and a Medical Perspective on Ovarian Cancer. Broadway Books, 1998. ISBN 0-7679-0138-X
- Wilder, Gene. Kiss Me Like a Stranger: My Search for Love and Art. St. Martin's Press, 2005. ISBN 0-312-33706-X
- Wilder, Gene. My French Whore. St. Martin's Press, 2007. ISBN 0-312-36057-6
- Wilder, Gene. The Woman Who Wouldn't. St. Martin's Press, 2008. ISBN 0-312-37578-6
- Wilder, Gene. What Is This Thing Called Love?. St. Martin's Press, 2010. ISBN 978-0-312-59890-7
- Wilder, Gene. Something to Remember You By. St. Martin's Press, 2013. ISBN 9780312598914
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Willy Wonka star Gene Wilder dies (en) , BBC News, 29 Awst 2016.