Eugène Ionesco

Oddi ar Wicipedia
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Eugène Ionesco
Eugene Ionesco 01.jpg
Eugène Ionesco ym 1993.
GanwydEugen Dimitri Ionescu Edit this on Wikidata
26 Tachwedd 1909 Edit this on Wikidata
Slatina Edit this on Wikidata
Bu farw28 Mawrth 1994 Edit this on Wikidata
Paris, 14ydd arrondissement Paris Edit this on Wikidata
DinasyddiaethRwmania, Ffrainc Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Bucharest
  • Carol I National College
  • Fraţii Buzeşti National College Edit this on Wikidata
Galwedigaethdramodydd, ysgrifennwr, bardd, beirniad llenyddol, dyddiadurwr, darlunydd, arlunydd graffig Edit this on Wikidata
Swyddseat 6 of the Académie française Edit this on Wikidata
Adnabyddus amThe Chairs, Rhinoceros, The Killer, The New Tenant, The Bald Soprano Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadSamuel Beckett, Franz Kafka, Alfred Jarry, Ion Luca Caragiale, Tristan Tzara, Urmuz Edit this on Wikidata
MudiadTheatr yr absẃrd, Dada Edit this on Wikidata
PriodRodica Ionesco Edit this on Wikidata
Gwobr/auCommandeur des Arts et des Lettres‎, Gwobr Tywysog Pierre, Gwobr Jeriwsalem, Urdd Teilyngdod am Wyddoniaeth a Chelf, Prix du Brigadier, Gwobr Gwladwriaeth Awstria ar gyfer Llenyddiaeth Ewropeaidd, Officier de la Légion d'honneur Edit this on Wikidata

Dramodydd Rwmanaidd-Ffrengig yn yr iaith Ffrangeg yn bennaf oedd Eugène Ionesco (ganed Eugen Ionescu; 26 Tachwedd 190928 Mawrth 1994)[1] sydd yn nodedig fel prif arloeswr theatr yr absẃrd. Yn ystod ei yrfa, ysgrifennodd 33 o ddramâu, sawl cyfrol o atgofion ac ysgrifau, un gyfrol o farddoniaeth (yn Rwmaneg), un casgliad o straeon byrion, ac un nofel.

Bywyd cynnar ac addysg (1909–34)[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganed Eugen Ionescu ar 26 Tachwedd 1909 yn Slatina, yn ne Rwmania, yn fab i'r cyfreithiwr Eugen Ionescu a'i wraig Marie-Therese, o dras Ffrengig.[2] Symudodd ei deulu i Ffrainc ym 1910 pan oedd yn faban, er mwyn i Eugen yr hynaf gyflawni ei radd yn y gyfraith ym Mhrifysgol Paris. Treuliodd Eugène y rhan fwyaf o'i blentyndod ym Mharis, dan ofal ei fam wedi i'w dad ddychwelyd i Rwmania ym 1916 i ymladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Wedi iddynt ysgaru, a phan oedd Eugène yn 13 oed, dychwelodd ei fam i Rwmania am iddi beidio â darparu ar gyfer ei phlant, a throsglwyddodd y plant i warchodaeth y tad.[3] Aeth Eugène i Rwmania ym 1925.

Astudiodd Ionesco drwy gyfrwng y Ffrangeg ym Mhrifysgol Bwcarést o 1929 i 1933, a derbyniodd ei radd yn yr iaith Ffrangeg a'i llenyddiaeth. Pan oedd yn fyfyriwr, cafodd Ionesco sawl dadl lenyddol gyhoeddus gyda'i athro, yr esthetegydd a beirniad Mihail Dragomirescu. Cyhoeddodd ei lyfr cyntaf, y casgliad o gerddi Elegii pentru fiinte mici, ym 1931, a'i gyfrol gyntaf o ysgrifau, Nu, ym 1934.[3]

Gwaith cyn llenydda (1933–48)[golygu | golygu cod y dudalen]

Wedi iddo raddio o Brifysgol Bwcarést, gweithiodd Ionesco yn athro mewn ysgolion uwchradd ar draws Rwmania. Priododd â Rodica Burileanu, myfyriwr athroniaeth, ym 1936. Symudasant i Baris ym 1938, ac yno gweithiodd Ionescu ar ei ddoethuriaeth, er na fyddai'n ennill ei radd o ganlyniad i'r Ail Ryfel Byd. Yn sgil Brwydr Ffrainc, dychwelasant i Rwmania ym 1940, er nad oedd Ionescu bellach yn fodlon yn y wlad honno. Ym 1942, derbyniodd gynnig i deithio ar genhadaeth ddiplomyddol, ac aeth fel dirprwy o lywodraeth Rwmania i weinyddiaeth filwrol yr Almaen yn Ffrainc. Ymsefydlodd Ionescu a'i wraig ym Mharis unwaith eto, ac ym 1944 cawsant eu hunig blentyn, y ferch Marie-France.[3]

Dramâu cynnar a byrion (1948–54)[golygu | golygu cod y dudalen]

Ysgrifennodd Ionesco ei ddrama gyntaf ym 1948. Ymhen pum mlynedd, llwyddodd i ennill digon o arian i lenydda llawn-amser.[4] Perfformiwyd yr honno, La Cantatrice chauve, am y tro cyntaf ym 1950, dan gyfarwyddiaeth Nicolas Bataille yn y Théâtre des Noctambules yn y Quartier latin. Ystyrir yr "wrth-ddrama" hon, sydd yn portreadu ymddieithriad a cham-gyfathrebu rhwng unigolion, yn esiampl gynharaf theatr yr absẃrd. Un act yn unig sydd i La Cantatrice chauve, ac mae gweithiau cynnar eraill Ionesco yn yr arddull absẃrd i gyd yn ddramâu byrion, yn eu plith La Leçon (1951), Les Chaises (1952), a Le Nouveau Locataire (1955).

Dramâu hirion (1954–66)[golygu | golygu cod y dudalen]

Yng nghanol y 1950au, cychwynnodd Ionesco ysgrifennu dramâu hirach, megis Amédée (1954) a Tueur sans gages (1959). Un o'i weithiau enwocaf yw Le Rhinocéros (1959), sydd yn ymdrin â phwnc totalitariaeth. Cafodd lwyddiant gyda Le Roi se meurt (1962) a Le Piéton de l'air (1963). Dychwelodd at strwythur anghofensiynol yn debycach i'w waith cynnar wrth ysgrifennu La Soif et la faim (1966). Yn y cyfnod hwn, cyhoeddodd ei unig gasgliad o straeon byrion, La Photo du colonel (1962).

Gweithiau diweddar (1966–80)[golygu | golygu cod y dudalen]

Ym 1970, urddwyd Ionesco yn Chevalier de la Légion d'honneur a fe'i etholwyd i olynu Jean Paulhan yn aelod o'r Académie française.[4] Mae ei ddramâu diweddar yn cynnwys Jeux de massacre (1970), Macbett (1972; a ysbrydolwyd gan Macbeth gan William Shakespeare), a Ce formidable bordel (1973). Cyhoeddodd Ionescu ei unig nofel, Le Solitaire, ym 1973.

Diwedd ei oes (1980–94)[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn ystod deng mlynedd olaf ei oes, dechreuodd Ionesco baentio, yn enwedig mewn arddull lliwyddiaeth megis gweithiau Joan Miró.

Bu farw Eugène Ionesco ar 28 Mawrth 1994 ym Mharis yn 84 oed.[5] Cafodd ei gladdu ym Mynwent y Montparnasse.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. (Saesneg) Eugène Ionesco. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 1 Tachwedd 2022.
  2. (Saesneg) "Eugène Ionesco", Encyclopedia of World Biography. Adalwyd ar wefan Encyclopedia.com ar 1 Tachwedd 2022.
  3. 3.0 3.1 3.2 (Saesneg) "Ionesco, Eugene", Gale Contextual Encyclopedia of World Literature. Adalwyd ar wefan Encyclopedia.com ar 1 Tachwedd 2022.
  4. 4.0 4.1 (Saesneg) John Calder, "Obituary: Eugene Ionesco", The Independent (28 Mawrth 1994). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 1 Tachwedd 2022.
  5. (Saesneg) Mel Gussow, "Eugene Ionesco Is Dead at 84; Stage's Master of Surrealism", The New York Times (29 Mawrth 1994). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 1 Tachwedd 2022.