Gene Hackman
Gene Hackman | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | Eugene Allen Hackman ![]() 30 Ionawr 1930 ![]() San Bernardino ![]() |
Bu farw | c. 18 Chwefror 2025 ![]() o hypertensive heart disease, clefyd y rhydwelïau coronaidd ![]() Santa Fe ![]() |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor ffilm, awdur, actor, nofelydd, actor llais, llenor, person milwrol, actor llwyfan, gyrrwr ceir cyflym, swyddog milwrol ![]() |
Taldra | 1.88 metr ![]() |
Priod | Faye Maltese, Betsy Arakawa ![]() |
Plant | Christopher Allen Hackman, Elizabeth Jean Hackman, Leslie Anne Hackman ![]() |
Gwobr/au | Gwobr yr Academi i'r Actor-gynorthwyydd Gorau, Gwobr yr Academi am Actor Gorau, Silver Bear for Best Actor, Gwobr BAFTA am Actor Gorau mewn Prif Rhan, Gwobr BAFTA am Actor Gorau mewn Rhan Gynhaliol, Gwobr Golden Globe am Actor Gorau - Ffilm Sioe-gerdd neu Gomedi, Gwobr y Glob Aur am yr Actor Cefnogol Gorau - ar ffim, Gwobr Golden Globe am Actora Gorau - Drama Ffilm Nodwedd, Gwobr Golden Globe Cecil B. DeMille, Good Conduct Medal, Medal y Gwasanaeth Amddiffyn Cenedlaethol, Clarence Derwent Awards ![]() |
Chwaraeon |
Actor o'r Unol Daleithiau oedd Eugene Allen "Gene" Hackman (30 Ionawr 1930 – tua 18 Chwefror 2025)[1]. Enillodd dwy Wobr Academi, dwy wobr BAFTA a phedair Golden Globe.
Daeth yn enwog yn ystod y 1970au yn sgîl ei rôl fel Popeye Doyle yn The French Connection, a pharhaodd i actio mewn ffilmiau Hollywood, gan chwarae nifer o brif rannau gan gynnwys Harry Caul yn The Conversation, Norman Dale yn Hoosiers, Asiant Rupert Anderson yn Mississippi Burning, Little Bill Daggett yn Unforgiven, Lex Luthor yn Superman (a'r ddwy ffilm ddilynol), Capten Frank Ramsey yn Crimson Tide, Joe Moore yn Heist ac Admiral Leslie McMahon Reigart yn Behind Enemy Lines.
Bywyd
[golygu | golygu cod]Cafodd Hackman ei eni yn San Bernardino, Califfornia, yn fab i Anna Lyda Elizabeth (née Gray) ac Eugene Ezra Hackman. Daeth Anna o Ganada.[2] Symudodd y teulu i Illinois. Roedd Anna ac Eugene wedi ysgaru a gadawodd Eugene y cartref teuluol.[3] Cafodd Gene ei addysg yn Storm Lake High School.[4] Yna ymunodd â Môr-filwyr yr Unol Daleithiau. Gadawodd y lluoedd arfog yn 1951, ar ôl gwasanaethu yn Tsieina a Japan.[5]
Marwolaeth
[golygu | golygu cod]Ar 26 Chwefror 2025 darganfuwyd Hackman a'i wraig Betsy Arakawa yn farw, yn eu cartref yn Santa Fe. Roedd un o'u cŵn wedi marw hefyd er bod eraill yn fyw. Dywedodd yr heddlu bod y ddau wedi marw ers peth amser ac roedd digon o amheuaeth i gynnal ymchwiliad.[6] Yn ddiweddarach, drwy dystiolaeth pellach, tybiwyd ei fod wedi marw ar 18 Chwefror.[7]
Ffilmyddiaeth
[golygu | golygu cod]Blwyddyn | Ffilm | Rôl | Nodiadau eraill |
---|---|---|---|
1961 | Mad Dog Coll | Plismon | Di-gredyd |
1964 | Lilith | Norman | |
1966 | Hawaii | Dr. John Whipple | |
1967 | Banning | Tommy Del Gaddo | |
Community Shelter Planning | Donald Ross - Swyddog Amddiffyniad Sifil Rhanbarthol | ||
A Covenant with Death | Harmsworth | ||
First to Fight | Sgt. Tweed | ||
Bonnie & Clyde | Buck Barrow | Enwebwyd - Gwobr yr Academi am yr Actor Cefnogol Gorau | |
1968 | The Split | Ditectif Lt. Walter Brill | |
1969 | Riot | Red Fraker | |
The Gypsy Moths | Joe Browdy | ||
Downhill Racer | Eugene Claire | ||
Marooned | Buzz Lloyd | ||
1970 | I Never Sang for My Father | Gene Garrison | Enwebwyd - Gwobr yr Academi am yr Actor Cefnogol Gorau |
1971 | Doctors' Wives | Dr. Dave Randolph | |
The Hunting Party | Brandt Ruger | ||
The French Connection | Dit. Jimmy "Popeye" Doyle | Gwobr yr Academi am yr Actor Gorau]]; Gwobr BAFTA; Golden Globe | |
1972 | Prime Cut | Mary Ann | |
The Poseidon Adventure | Rev. Frank Scott | ||
Cisco Pike | Sergeant Leo Holland | ||
1973 | Scarecrow | Max Millan | |
1974 | The Conversation | Harry Caul | Enwebwyd - Gwobr BAFTA; Enwebwyd - Golden Globe |
Young Frankenstein | Y dyn dall (Harold) | ||
Zandy's Bride | Zandy Allan | ||
1975 | French Connection II | Dit. Jimmy "Popeye" Doyle | Enwebwyd - Gwobr BAFTA; Enwebwyd - Golden Globe |
Lucky Lady | Kibby Womack | ||
Night Moves | Harry Moseby | ||
Bite the Bullet | Sam Clayton | ||
1977 | The Domino Principle | Roy Tucker | |
A Bridge Too Far | Maj. Gen. Stanislaw F. Sosabowski | ||
March or Die | Maj. William Sherman Foster | ||
1978 | Superman | Lex Luthor | Enwebwyd - Gwobr BAFTA |
1980 | Superman II | Lex Luthor | |
1981 | All Night Long | George Dupler | |
Reds | Pete Van Wherry | ||
1983 | Under Fire | Alex Grazier | Enwebwyd - Golden Globe |
Two of a Kind | Llais Duw | Di-gredyd | |
Uncommon Valor | Col. Cal Rhodes | ||
1984 | Eureka | Jack McCann | |
Misunderstood | Ned Rawley | ||
1985 | Twice in a Lifetime | Harry MacKenzie | Enwebwyd - Golden Globe |
Target | Walter Lloyd/Duncan (Duke) Potter | ||
1986 | Power | Wilfred Buckley | |
Hoosiers | Hyfforddwr Norman Dale | ||
1987 | No Way Out | Gweinidog Amddiffyn David Brice | |
Superman IV: The Quest for Peace | Lex Luthor / llais y Dyn Niwclear | ||
1988 | Bat*21 | Lt. Col. Iceal Hambleton | |
Mississippi Burning | Asiant Rupert Anderson | Enwebwydd - Gwobr yr Academi am yr Actor Gorau]]; Enwebwyd - Golden Globe | |
Another Woman | Larry Lewis | ||
Full Moon in Blue Water | Floyd | ||
Split Decisions | Dan McGuinn | ||
1989 | The Package | Sgt. Johnny Gallagher | |
1990 | Loose Cannons | MacArthur Stern | |
Postcards from the Edge | Lowell Kolchek | ||
Narrow Margin | Robert Caulfield | ||
1991 | Class Action | Jedediah Tucker Ward | |
Company Business | Sam Boyd | ||
1992 | Unforgiven | Little Bill Daggett | Gwobr yr Academi am yr Actor Cefnogol Gorau; Golden Globe |
1993 | The Firm | Avery Tolar | |
Geronimo: An American Legend | Brig. Gen. George Crook | ||
1994 | Wyatt Earp | Nicholas Earp | |
1995 | The Quick and the Dead | John Herod | |
Crimson Tide | Capt. Frank Ramsey | ||
Get Shorty | Harry Zimm | ||
1996 | The Birdcage | Sen. Kevin Keeley | |
Extreme Measures | Dr. Lawrence Myrick | ||
The Chamber | Sam Cayhall | ||
1997 | Absolute Power | Arlywydd Allen Richmond | |
1998 | Twilight | Jack Ames | |
Enemy of the State | Brill | ||
Antz | General Mandible | ||
2000 | Under Suspicion | Henry Hearst | |
The Replacements | Jimmy McGinty | ||
2001 | Heartbreakers | William B. Tensy | |
Heist | Joe Moore | ||
The Mexican | Arnold Margolese (di-gredyd) | ||
The Royal Tenenbaums | Royal Tenenbaum | Golden Globe | |
Behind Enemy Lines | Admiral Leslie McMahon Reigart | ||
2003 | Runaway Jury | Rankin Fitch | |
2004 | Welcome to Mooseport | Monroe Cole | |
2006 | Superman II: The Richard Donner Cut | Lex Luthor |
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Gene Hackman and wife Betsy Arakawa died of natural causes several days apart, officials say". www.bbc.com (yn Saesneg). 2025-03-07. Cyrchwyd 2025-03-08.
- ↑ "Gene Hackman from Danville in 1940 Census District 92-22". archives.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 Awst 2014. Cyrchwyd 5 Awst 2014.
- ↑ Norman, Michael (19 Mawrth 1989). "Hollywood s Uncommon Everyman". The New York Times (yn Saesneg). Cyrchwyd 19 Gorffennaf 2010.
- ↑ "1945 Storm Lake High Yearbook". classmates.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 28 Gorffennaf 2014.
- ↑ "Gene Hackman | Biography, Movies, & Facts". Encyclopedia Britannica (yn Saesneg). Cyrchwyd 11 Ebrill 2020.
- ↑ "Gene Hackman: Hollywood legend dies aged 95". BBC News (yn Saesneg). 2025-02-27. Cyrchwyd 2025-02-27.
- ↑ "Gene Hackman and wife Betsy Arakawa died of natural causes several days apart, officials say". www.bbc.com (yn Saesneg). 2025-03-07. Cyrchwyd 2025-03-08.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Gene Hackman ar IMDb
- Gene Hackman ar Gronfa Ddata Rhyngrwyd Broadway
- Disgyddiaeth Gene Hackman ar Discogs

- Egin actorion o'r Unol Daleithiau
- Genedigaethau 1930
- Marwolaethau 2025
- Actorion ffilm o'r Unol Daleithiau
- Actorion llwyfan o'r Unol Daleithiau
- Nofelwyr o'r Unol Daleithiau
- Aelodau Lluoedd Arfog yr Unol Daleithiau
- Môr-filwyr yr Unol Daleithiau
- Pobl o Galiffornia
- Americanwyr Albanaidd
- Americanwyr Almaenig
- Pobl o'r Unol Daleithiau o dras Ganadaidd