The Royal Tenenbaums
Jump to navigation
Jump to search
Data cyffredinol | |
---|---|
Enghraifft o'r canlynol | ffilm ![]() |
Lliw/iau | lliw ![]() |
Dyddiad cyhoeddi | 14 Rhagfyr 2001, 14 Mawrth 2002 ![]() |
Lleoliad y gwaith | Dinas Efrog Newydd ![]() |
Hyd | 108 munud ![]() |
Cyfarwyddwr | Wes Anderson ![]() |
Genre | ffilm gomedi, drama-gomedi ![]() |
Prif bwnc | dysfunctional family ![]() |
Cyfansoddwr | Mark Mothersbaugh ![]() |
Gwefan | http://www.royaltenenbaums.com/ ![]() |
![]() |
Mae The Royal Tenenbaums (2001) yn ffilm gomedi-drama Americanaidd wedi'i chyfarwyddo gan Wes Anderson, a'i chyd-ysgrifennu ag Owen Wilson. Sêr y ffilm yw Danny Glover, Gene Hackman, Anjelica Huston, Bill Murray, Gwyneth Paltrow, Ben Stiller, Luke Wilson, ac Owen Wilson. Mae'n honni i fod yn seiliedig ar nofel (nad yw'n bodoli) ac yn cael ei hadrodd â naratif lenyddol. Mae'n dilyn stori dau frawd a chwaer ddawnus sy'n profi llwyddiant mawr yn eu hieuenctid, cyn profi siom a methiant fel oedolion. Mae tad ecsentrig, Royal Tenenbaum, sydd wedi eu gadael yn ystod eu harddegau, yn dychwelyd pan maent yn oedolion, gan honni fod ganddo salwch angeuol.