Frank Southall

Oddi ar Wicipedia
Frank Southall
Ganwyd2 Gorffennaf 1904 Edit this on Wikidata
Wandsworth Edit this on Wikidata
Bu farw1 Mawrth 1964 Edit this on Wikidata
Ynys Hayling Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Galwedigaethseiclwr cystadleuol Edit this on Wikidata
Chwaraeon

Seiclwr proffesiynol Seisnig oedd Frank Southall (2 Gorffennaf 19041 Mawrth 1964). Ganwyd yn Wandsworth, Llundain a bu farw yn ardal Gosport, Hampshire. Enillodd fedalau arian dros Brydain yn Nhreial Amser Gemau Olympaidd 1928 ac ar y trac yng Ngemau Olympaidd 1928 ac efydd yn 1932. Cynyrchiolodd Brydain ym Mhencampwriaethau Ras Ffordd y Byd rhwng 1926 ac 1933.

Reidiodd Southall dros dim de Llundain, Norwood Paragon. Torodd nifer o recordiau Treial Amser a recordiau'r Road Records Association o le i le. Enillodd gystadleuaeth British Best All-Rounder (BBAR) yr RTTC rhwng 1930 ac 1933.

Recordiau[golygu | golygu cod]

Torodd Southall ei record cyntaf ar Sul y Pasg yn 1925, pan enillodd Treial Amser 50 milltir yr Etna ar gwrs ffordd Bath mewn dwy awr 8 munud a 31 eiliad, gan guro'r hen record o dros 5 munud. Dilynodd hyn gan dorri record cenedlaethol yr Awr yn Velodrome Herne Hill ar 26 Mai torodd y record o bron i 1400 llath i osod record newydd o 25 milltir a 1520 llathen.[1]

Curodd y record yn yr un gystadleuaeth y flwyddyn canlynol ar gyfer 50 milltir, cyn torri record yr awr unwaith eto yn Herne Hill yn Mehefin 1926, gyda pellter o 26 milltir a 838 llath y tro hwn. Dewiswyd Southall gan y National Cyclists' Union i gynyrchioli gwledydd Prydain ym Mhencampwriaethau Ras Ffordd y Byd a gorffennodd yn yr 8fed safle.[2]

Yn 1927, torodd Southall y record 50 milltir yn ras Etna unwaith eto, y tro yma mewn amser o 2 awr 5 munud a 7 eiliad. Ar 24 Gorffennaf y flwyddyn honno, torodd record yr RRA Llundain-Brighton ac yn ôl o dros 13 munud mewn amser o 4 awr 53 munud a 20 eiliad.[3]

Yng Ngemau Olympaidd 1928 yn Amsterdam, gorffennodd Southall yn ail mewn ras 165 kilomedr. Gorffenodd ei gyd-aelodau tîm, Jack Lauterwasser yn 5ed a John Middleton yn 26ed.[4]

Yn 1930, gorffennodd Southall yn y 7fed safle ym Mhencampwriaethau Ras Ffordd Byd (a gystadlwyd ar ffurf treial amser yn Denmarc) a thorodd record cenedlaethol Prydain ar gyfer Treial Amser 100 milltir gyda amser o 4 awr 32 munud a 46 eiliad.[5]

Methodd Southall allan ar fedal yn Ras Ffordd y Gemau Olympaidd yn 1932 (y tro olaf i'r ras gael ei rhedeg ar ffurf treial amser). Gorfennodd yn chweched, gyda'i gyd-aelodau tîm Charles Holland yn 15fed a Stan Butler yn 16ed, gorffennodd tîm Prydain yn chweched yn y gystadleuaeth timau. Er, yn y pursuit tîm ar y trac, enillodd Brydain ynghyd â Southall, y fedal efydd gan guro tîm Canada i'r drydedd safle.

Reidiodd Southall a Stan Butler ras yr Oak Tandem 100 yn 1933, gan ennill y gystadleuaeth mewn 4 awr 1 munud a 3 eiliad, dros 2dwy funud yn gynt na'r hen record. Erbyn hyn roedd Southall yn dal chwech record unigol a tandem (25, 50 a 100 milltir yn unigol s 30, 50 a 100 miles ar y tandem).[6]

Campweithiau Amatur[golygu | golygu cod]

Ar ôl ennill ei BBAR cyntaf, gwahoddwyd ef i arwyddo'r Golden Book of Cycling. Dyma beth ysgrifennwyd amdano yno:

Southall holds the world's unpaced standing start track records at one, five, ten and twenty miles. He also holds 28 national track records. On the road he has won every classic open event, including hill-climbs, making competition records at 25, 50 and 100 miles.[7]

Gyrfa Broffesiynol[golygu | golygu cod]

Trodd yn broffesiynol yn 1934 er mwyn dilyn ei uchelgeisiau ar gyfer curo'r recordiau o le i le. Torodd naw record mewn dwy flynedd.

Aeth Southall ymlaen i reoli gyrfaoedd proffesiynol Ken Joy ac Eileen Sheridan a daeth yn reolwr tîm proffesiynol Hercules. Etholwyd ef yn lywydd clwb y Norwood Paragon yn 1953.[8]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. History of Norwood Paragon CC - 1925[dolen marw]
  2. "History of Norwood Paragon CC - 1926" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2007-10-10. Cyrchwyd 2007-10-09.
  3. "History of Norwood Paragon CC - 1927" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2007-10-06. Cyrchwyd 2007-10-09.
  4. "History of Norwood Paragon CC - 1928" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2007-10-04. Cyrchwyd 2007-10-09.
  5. History of Norwood Paragon CC - 1930[dolen marw]
  6. History of Norwood Paragon CC - 1933[dolen marw]
  7. Woodland, L. (2005), This Island Race, Mousehold Press, ISBN 1-874739-36-6, p.39
  8. "History of Norwood Paragon CC - 1953" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2007-10-06. Cyrchwyd 2007-10-09.