Eileen Sheridan

Oddi ar Wicipedia
Eileen Sheridan
Gwybodaeth bersonol
Enw llawnEileen Sheridan
Manylion timau
DisgyblaethFfordd
RôlReidiwr
Math seiclwrTreial Amser
Prif gampau
Baner Prydain Fawr Pencampwr Cenedlaethol
Golygwyd ddiwethaf ar
2 Hydref 2007

Seiclwraig rasio Seisnig oedd Eileen Sheridan (ganwyd Eileen Shaw 18 Hydref 1923; m. Chwefror 2023), a oedd yn arbennigo mewn Treialon Amser. Gall rhai ddadlau mai hi oedd seren mawr cyntaf seiclo merched, dominyddodd rasio merched hyd i Beryl Burton ddechrau cystadlu.

Ddechreuodd Eileen rasio yn niwedd yr 1930au, gan reidio fel aelod o Coventry CC. Enillodd Bencampwriaethau Cenedlaethol Treial Amser Prydain 25 milltir tn 1945 cyn cymryd egwyl er mwyn cael teulu. Pan ddychwelodd i rasio, enillodd gystadleuaeth Treial Amser 'British Best All-Rounder' (BBAR) merched yn 1949 a 1950. Enillodd y Pencampwriaethau Cenedlaethol ym mhellteroedd 50 a 100 milltir hefyn yn 1050. Torodd recordiau cystadleuaeth ym mhellteroedd 30 miltir (1948: 1:19:28 eiliad), 50 millltir (1949 a 1950: 2:14:16 eiliad), 100 miles (1950: 4:37:53 eiliad) a 12 awr (1949: 237.62 milltir).

Enillodd Wobr Goffa Bidlake yn 1950 "Am greu safon newydd uchel yn rasio beiciau merched, gyda chyfres rhagorol o dri pencampwriaeth a pump perfformiad record ar y ffordd yn 1950".[1]

Arwyddodd gytundeb tair mlynedd gyda Hercules Cycle and Motor Company yn 1951, er mwyn torri recordiau pellter y 'Road Records Association' a recordiau o le i le. Torodd Sheridan yr holl o recordiau'r merched o bell, mae rhai o'r rhain, megis record Llundain-Caeredin 20:11:35 eiliad, a osodwyd yn 1954 yn sefyll hyd heddiw.

Yn 1952, ymddangosodd mewn ffilm gan Dunlop Tyres o'r enw Spinning Wheels: Cycle Sport '50s Style. Ymddangosodd Reg Harris, Ken Joy a Cyril Peacock yn y ffilm yn ogystal â delweddau o'r Tour de France.

Torodd Sheridan record Land's End i John o' Groats, a ddelwyd gynt gan Marguerite Wilson, o 2 ddiwrnod 11 awr a 7 munud, yn 1954. Mae'r beic a ddefnyddiodd i gyflawni hyn iw gweld yn 'Coventry Transport Museum'.

Yn 1955, ymddangosodd mewn hysbyseb ar gyfer sigarennau 'Players'.[2]

Dolenni Allanol[golygu | golygu cod]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan 'Bidlake Memorial' (Saesneg: "For creating a new high standard in women's cycle racing with an outstanding series of three championships and five record performances on the road in 1950")
  2. "Players of Merit: Eileen Sheridan". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-12-19. Cyrchwyd 2007-10-02.