Frank Drake

Oddi ar Wicipedia
Frank Drake
Ganwyd28 Mai 1930 Edit this on Wikidata
Chicago Edit this on Wikidata
Bu farw2 Medi 2022 Edit this on Wikidata
Aptos Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
ymgynghorydd y doethor
Galwedigaethseryddwr, academydd, astroffisegydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Prifysgol Califfornia, Santa Cruz Edit this on Wikidata
PlantNadia Drake Edit this on Wikidata
Gwobr/auKarl G. Jansky Lectureship, Cymrawd Academi Celf a Gwyddoniaeth America, American Astronomical Society Education Prize Edit this on Wikidata

Seryddwr ac astroffisegydd o Americanwr oedd Frank Donald Drake (28 Mai 19302 Medi 2022). Bu'n ymwneud â'r gwaith o chwilio am ddeallusrwydd allfydol, gan gynnwys sefydlu SETI, gwneud yr ymdrechion arsylwi cyntaf i ganfod cyfathrebiadau allfydol yn 1960 gyda Project Ozma, datblygu hafaliad Drake, ac fel creawdwr Neges Arecibo, amgodiad digidol o ddisgrifiad seryddol a biolegol o'r Ddaear a'i ffurfiau bywyd i'w drosglwyddo i'r cosmos.

Ystyrir Drake yn un o arloeswyr y maes modern o chwilio am ddeallusrwydd allfydol ynghyd â Giuseppe Cocconi, Philip Morrison, Iosif Shklovsky, a Carl Sagan.

Bywyd cynnar ac addysg[golygu | golygu cod]

Ganwyd ar 28 Mai 1930 yn Chicago, Illinois,[1] yn blentyn roedd Drake yn caru electroneg a chemeg. Mae'n dweud iddo ystyried y posibilrwydd o fywyd sy'n bodoli ar blanedau eraill fel plentyn wyth oed, ond ni thrafododd y syniad gyda'i deulu na'i athrawon oherwydd yr ideoleg grefyddol gyffredin. 

Cofrestrodd ym Mhrifysgol Cornell ar ysgoloriaeth Corfflu Hyfforddi Swyddogion Wrth Gefn y Llynges.[1] Unwaith yno dechreuodd astudio seryddiaeth. Atgyfnerthwyd ei syniadau am y posibilrwydd o fywyd allfydol gan ddarlith gan yr astroffisegydd Otto Struve ym 1951. Ar ôl coleg, gwasanaethodd am gyfnod byr fel swyddog electroneg ar y llong arfog trwm USS Albany. Aeth ymlaen wedyn i raddio yn ysgol Harvard o 1952 i 1955 i astudio seryddiaeth radio, a'i gynghorydd doethurol oedd Cecilia Payne-Gaposchkin.[2][1]

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Er ei fod wedi'i gysylltu'n benodol â safbwyntiau modern ar debygolrwydd a datgeladdwyedd gwareiddiadau allfydol, dechreuodd Drake ei yrfa yn ymgymryd ag ymchwil seryddol radio yn y National Radio Astronomy Observatory (NRAO) yn Green Bank, West Virginia, ac yn ddiweddarach yn y Jet Propulsion Laboratory. Cynhaliodd fesuriadau allweddol a ddatgelodd bresenoldeb ïonosffer a magnetosffer y blaned Iau. 

Yn y 1960au, bu Drake yn arwain y gwaith o drawsnewid Arsyllfa Arecibo yn gyfleuster seryddol radio, a ddiweddarwyd yn ddiweddarach ym 1974 a 1996. Fel ymchwilydd, roedd Drake yn ymwneud â'r gwaith cynnar ar bylsarau. Yn y cyfnod hwn, roedd Drake yn athro ym Mhrifysgol Cornell ac yn gyfarwyddwr y Ganolfan Seryddiaeth ac Ionosffer Genedlaethol (NAIC) – yr enw ffurfiol ar gyfer cyfleuster Arecibo.  Ym 1974 ysgrifennodd neges Arecibo.

Ym 1972, gyda Carl Sagan a Linda Salzman Sagan, cyd-ddyluniodd Drake y plac Pioneer - y neges gorfforol gyntaf a anfonwyd i'r gofod.[3] Cynlluniwyd y plac i fod yn ddealladwy i bobl allfydol pe baent yn dod ar ei draws.[3] Yn ddiweddarach bu'n goruchwylio creu'r Voyager Golden Record gyda Sagan ac Ann Druyan.[4]

Bu'n athro seryddiaeth ym Mhrifysgol Cornell (1964-1984) a gwasanaethodd fel cyfarwyddwr Arsyllfa Arecibo. O 2010 ymlaen, roedd yn ymwneud â "The Carl Sagan Centre for the Study of Life in the Universe" yn Sefydliad SETI.[5]

Bu'n athro emeritws seryddiaeth ac astroffiseg[6] ym Mhrifysgol California yn Santa Cruz lle gwasanaethodd hefyd fel deon y Gwyddorau Naturiol (1984–1988). Gwasanaethodd ar fwrdd ymddiriedolwyr Sefydliad SETI.[7]

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Roedd hobïau Drake yn cynnwys lapidary a thyfu tegeirianau.[8]

Roedd ganddo bump o blant, gan gynnwys Nadia Drake.[9][1]

Bu farw Drake ar 2 Medi 2022, yn ei gartref yn Aptos, California, o achosion naturiol yn 92 oed.[10]

Anrhydeddau[golygu | golygu cod]

Mae Drake Planetarium yn Ysgol Uwchradd Norwood yn Norwood, Ohio wedi'i enwi ar gyfer Drake ac mae'n gysylltiedig â NASA.[11]

Enwyd Asteroid 4772 Frankdrake ar ei ôl. 

Cafodd ei ethol i Academi Celfyddydau a Gwyddorau America ym 1974. 

Roedd Drake yn aelod o'r National Academy of Sciences lle bu'n gadeirydd bwrdd ffiseg a seryddiaeth y National Research Council (1989-1992). 

Gwasanaethodd hefyd fel llywydd Cymdeithas Seryddol y Môr Tawel. 

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 "Frank Drake, pioneer in the search for alien life, dies at 92". Science. 2 Medi 2022.
  2. "Personal Portrait: CECILIA PAYNE". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-05-06. Cyrchwyd 2 Mai 2020.
  3. 3.0 3.1 Sagan, Carl; Sagan, Linda Salzman; Drake, Frank (25 Chwefror 1972). "A Message from Earth". Science 175 (4024): 881–884. Bibcode 1972Sci...175..881S. doi:10.1126/science.175.4024.881. https://archive.org/details/sim_science_1972-02-25_175_4024/page/881.
  4. "Cornellians celebrate the Voyagers' historic Golden Record". Cornell Chronicle.
  5. "SETI Institute Names New Chief Alien Life Hunter". Space.com. Cyrchwyd 23 Chwefror 2012.
  6. University of California | Lick observatory www.ucolick.org retrieved 18:29 23 October 2011
  7. "Frank Drake".
  8. Billings, Lee (3 Hydref 2013). Five Billion Years of Solitude: The Search for Life Among the Stars (arg. 1st). New York: Current, a member of Penguin Group. ISBN 9781617230066.
  9. Broad, William J. (10 Ebrill 1985). "EAVESDROPPERS LISTEN FOR COSMIC HELLO".
  10. Timmer, John (2 Medi 2022). "Frank Drake, astronomer famed for contributions to SETI, has died". Ars Technica. Cyrchwyd 2 Medi 2022.
  11. "LCAS - Frank Drake". www.lcas-astronomy.org.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]