Astrofioleg

Oddi ar Wicipedia
Astrofioleg
Enghraifft o'r canlynoldisgyblaeth academaidd, pwnc gradd, cangen o fywydeg, arbenigedd, maes astudiaeth Edit this on Wikidata
Mathbywydeg, seryddiaeth Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Astrofioleg yw'r astudiaeth o fywyd yn y gofod sy'n cyfuno elfennau o seryddiaeth, bioleg a daeareg yn ei disgyblaeth. Ei phrif ganolbwynt yw astudio tarddiad, dosraniad ac esblygiad bywyd. Daw'r enw o'r geiriau Groeg αστρον (astron 'seren'), βιος (bios 'bywyd') a λογος (logos 'gair/gwyddoniaeth); enwau arall arni yw allfioleg (exobiology) neu estronfioleg (xenobiology).

Mae meysydd pwysicaf astrofioleg yn cynnwys:

  1. Beth ydy bywyd?
  2. Sut dechreuodd bywyd ar y Ddaear?
  3. Pa fath o amgylcheddau sy'n addas i fywyd?
  4. Sut medrwn ni ddarganfod os oes bywyd ar blanedau eraill? Pa mor aml ydyw'r bywyd hwnnw'n 'gymhleth' (h.y. esblygiedig)?
  5. Pa ffurfiau fydd i fywyd ar blanedau eraill?

Ymchwil am fywyd yn y gofod[golygu | golygu cod]

Ym Medi 2015 cyhoeddodd NASA fod un o'u cerbydau gofod, Curiosity, wedi darganfod olion dŵr ar ochrau un o geudyllau Mawrth, sef Gale. Ceir cafnau ar ochr y ceudwll (sy'n 154 km (96 mill) mewn diameter sy'n debyg i greithiau a adewir pan fo dŵr wedi llifo.[1][2] eisoes yn Rhagfyr 2012, roedd gwyddonwyr wedi cyhoeddi fod dadansoddiad o bridd y blaned a analeiddiwyd gan Curiosity wedi awgrymu'r posibilrwydd y bu yno ddŵr ar un cyfnod, gan y canfuwyd yno foleciwlau dŵr, swlffwr, clorin a chyfansoddion organig. Mae dŵr yn hanfodol i fywyd, ac yn un o'r pethau pwysicaf mae gwyddonwyr y gofod yn chwilio amdano.

Y pedwar lle mwyaf tebygol o fod a dŵr arnynyt yw Y Blaned Mawrth, Titan (un o leuadau Sadwrn), Ewropa (un o leuadau Iau) ac Enceladus (lleuad arall Sadwrn). Yn y tabl canlynol, edrychir ar y tebygolrwydd; nodir hefyd, er mwy eu cymharu - y Ddaear a'n lleuad:

Testun y pennawd Planed Daear Y Lleuad Y Blaned Mawrth Titan

(un o leuadau Sadwrn)

! Europa

(un o leuadau Iau)

! Enceladus

(un o leuadau Sadwrn)

Pellter o'r Ddaear
(Mewn cilometrau)
356,400 54 miliwn 1.2 biliwn 628 miliwn 1.2 biliwn
Diametr
(Mewn milltiroedd)
7,918 2,159 4,212 1,950 3,200 313
Posibilrwydd Dim Posibilrwydd cryf iawn fod dŵr

o dan wyneb y blaned

Posibilrwydd cryf fod dŵr o dan wyneb y blaned Posibilrwydd cryf iawn Posibilrwydd cryf
Ymweliadau Na Yn 2015 roedd 5 lloeren yn ei amgylchynu a dau robot yn

crwydro'i wyneb
*2018 ExoMars (Ewrop)

TiME (NASA) *US Europa (NASA)
*European Juice (Ewrop)
*2030 Life Finder

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Brown, Dwayne; Cole, Steve; Webster, Guy; Agle, D.C. (27 Medi 2012). "NASA Rover Finds Old Streambed On Martian Surface". NASA. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-05-13. Cyrchwyd 28 Medi 2012.
  2. NASA (27 Medi 2012). "NASA's Curiosity Rover Finds Old Streambed on Mars - video (51:40)". NASAtelevision. Cyrchwyd 28 Medi 2012.
Eginyn erthygl sydd uchod am seryddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.