Y placiau Pioneer

Oddi ar Wicipedia
Y delwaedd ar y placiau Pioneer
Y plac wedi cysylltu â Pioneer 10

Mae'r placiau Pioneer yn bâr o blaciau alwminiwm wedi anodeiddio ag aur a osodwyd ar y llong ofod Pioneer 10 ym 1972 a'r Pioneer 11 ym 1973. Maen nhw'n cynnwys neges ddarluniadol, rhag ofn bod bywyd allfydol deallus yn rhyng-gipio'r Pioneer 10 neu 11. Mae'r placiau'n dangos ffigurau noeth dyn a menyw dynol ynghyd â sawl symbol sydd wedi'u cynllunio i ddarparu gwybodaeth am darddiad y llong ofod.[1]

Y llongau ofod Pioneer 10 ac 11 oedd y gwrthrychau dynol cyntaf i gyflawni cyflymder dianc o gysawd yr Haul. Mae'r placiau eu ynghlwm ag ategion cefnogi'r antena'r llong ofod, mewn safle a fyddai'n eu hamddiffyn rhag erydiad gan lwch rhyngserol.

Hanes[golygu | golygu cod]

Cafodd y syniad gwreiddiol, y dylai'r llong ofod Pioneer gario neges gan ddynolryw, ei nodi'n gyntaf gan Eric Burgess.[2] Aeth at Carl Sagan, a oedd wedi darlithio am gyfathrebu ag allfydolion deallus mewn cynhadledd yn y Crimea. Roedd Sagan yn frwdfrydig am y syniad o anfon neges gyda'r llong ofod Pioneer. Cytunodd NASA, a rhoddon nhw tair wythnos iddo baratoi neges. Ynghyd â Frank Drake, dylunion nhw'r plac, a pharatowyd y gwaith celf gan Linda Salzman Sagan, a oedd yn wraig i Sagan ar y pryd. Gweithgynhyrchwyd y ddau blac yn Precision Engravers, San Carlos, California.[3] Lansiwyd y plac cyntaf gyda Pioneer 10 ar 2 Mawrth 1972, a lansiwyd yr ail gyda Pioneer 11 ar 5 Ebrill 1973.

Symbolaeth[golygu | golygu cod]

Trawsnewidiad tra-main hydrogen niwtral[golygu | golygu cod]

Trawsnewidiad tra-main hydrogen niwtral

Ar dop chwith y plac mae cynrychiolaeth sgematig o drawsnewidiad tra-main hydrogen, sef yr elfen fwyaf niferus yn y bydysawd. Mae gan drawsnewidiad electron atom hydrogen amledd o tua 1420.405 MHz, sy'n cyfateb i gyfnod o 0.704 ns. Mae gan olau ar yr amledd hwn donfedd gwactod o 21.106 cm (sef hefyd y pellter y mae'r golau yn teithio yn y cyfnod hwnnw). O dan y symbol, mae'r llinell fertigol fach, sy'n cynrychioli'r digid deuaidd 1, yn dynodi un uned o hyd (21 cm) yn ogystal ag un uned amser (0.7 ns). Defnyddir y ddwy uned hynny fel mesuriadau yn y symbolau eraill.

Ffigurau dyn a dynes[golygu | golygu cod]

Ffigurau dyn a dynes

Ar ochr dde'r plac, dangosir dyn a dynes noeth o flaen y llong ofod. Rhwng y cromfachau sy'n dynodi uchder y fenyw, gellir gweld cynrychiolaeth ddeuaidd y rhif 8 (1000, gyda nam bach yn y sero cyntaf). Mewn unedau o donfedd y trawsnewidiad tra-main hydrogen, felly mae hyn yn golygu 8 × 21 cm = 168 cm.

Mae llaw dde'r dyn wedi codi fel arwydd o ewyllys da. Er efallai na fydd y mynegiad hwn yn cael ei deall, mae hefyd yn ffordd i ddangos y bawd gwrthosodadwy a sut y gellir symud y breichiau.[4] Yn wreiddiol, bwriad Sagan oedd dangos y bodau dynol yn dal dwylo, ond buan y sylweddolodd y gallai estron eu hystyried yn greadur sengl yn hytrach na dwy organeb.[4]

Roedd lluniadau gwreiddiol y ffigurau yn seiliedig ar luniau gan Leonardo da Vinci a cherfluniau Groegaidd.[4]

Nid yw organau rhyw'r fenyw wedi'u darlunio'n fanwl; dim ond y Mons veneris a ddangosir. Honnwyd bod Sagan, heb lawer o amser i gwblhau’r plac, yn amau y byddai NASA wedi gwrthod lluniad mwy cymhleth ac felly wedi gwneud cyfaddawd er mwyn bod yn ddiogel.[5] Fodd bynnag, yn ôl atgofion Robert S. Kraemer, fodd bynnag, roedd y dyluniad gwreiddiol a gyflwynwyd i bencadlys NASA yn cynnwys llinell a nododd fylfa'r fenyw,[4] a dilëwyd y llinell hon fel amod ar gyfer cymeradwyo'r dyluniad gan John Naugle, cyn-pennaeth Swyddfa Gwyddor Gofod NASA a chyn-prif wyddonydd yr asiantaeth.[6]

Yr Haul a thirnodau galactig[golygu | golygu cod]

Safle cymharol yr Haul i ganol yr alaeth, ac 14 pylsar gyda'u cyfnodau wedi'u dynodi

Mae'r patrwm rheiddiol ar ochr chwith y plac yn dangos 15 llinell yn deillio o'r un tarddbwynt. Mae gan bedwar ar ddeg o'r llinellau rifau deuaidd hir cyfatebol, sy'n sefyll am gyfnodau'r pylsarau, gan ddefnyddio'r amledd trawsnewidiad tra-main hydrogen fel yr uned. Oherwydd y bydd y cyfnodau hyn yn newid dros amser, gellir cyfrifo dyddiad y lansiad o'r gwerthoedd hyn. Mae hyd y llinellau yn dangos pellteroedd cymharol y pylsar i'r Haul. Mae marc tic ar ddiwedd pob llinell yn rhoi'r cyfesuryn Z yn berpendicwlar i'r plân galactig.

Os canfyddir y plac, dim ond rhai o'r pylsarau a all fod yn weladwy o'r lleoliad caiff ei ddarganfod. Mae dangos y lleoliad gyda chymaint â 14 pylsar yn darparu slac fel y gellir triongli lleoliad y tarddbwynt hyd yn oed os mai dim ond rhai o'r pylsarau caiff eu hadnabod.

Mae'r bymthegfed linell ar y plac yn ymestyn i'r dde eithaf, y tu ôl i'r ffigurau dynol. Mae'r llinell hon yn nodi pellter cymharol yr Haul i ganol yr alaeth.

Rhennir y map pylsar a'r diagram atom hydrogen yn gyffredin â Record Aur Voyager.

Cysawd yr Haul[golygu | golygu cod]

Cysawd yr Haul gyda llwybr y llong ofod Pioneer

Ar waelod y plac mae diagram sgematig o gysawd yr Haul. Dangosir llun bach o'r llong ofod, ac mae'r taflwybr yn dangos ei ffordd heibio Iau ac allan o gysawd yr Haul. Mae gan Pioneer 10 ac 11 blaciau unfath; fodd bynnag, ar ôl ei lansio, ailgyfeiriwyd Pioneer 11 tuag at Sadwrn ac o fanna gwnaeth gadael cysawd yr Haul. Felly mae plac Pioneer 11 braidd yn anghywir.

Gallai cylchoedd Sadwrn roi awgrym pellach i adnabod cysawd yr Haul. Nid oedd cylchoedd o amgylch y planedau Iau, Wranws a Neifion yn hysbys pan ddyluniwyd y plac; fodd bynnag, yn wahanol i Sadwrn, nid yw'r systemau cylch ar y planedau hyn mor hawdd i'w gweld ac mor amlwg â rhai Sadwrn. Ystyriwyd bod Plwton yn blaned pan ddyluniwyd y plac; yn 2006 ail-ddosbarthodd yr IAU Plwton fel planed gorrach. Ni ddarlunnir cyrff mawr eraill a ddosbarthwyd fel planedau corrach, fel Eris, gan nad oeddent yn hysbys pan gafodd y plac ei greu.

Mae'r rhifau deuaidd uwchben ac islaw'r planedau yn dangos y pellter cymharol i'r Haul. Mae'r uned yn 1/10fed o orbit Mercher. Yn hytrach na'r "1" a "0" cyfarwydd, defnyddir "I" a "-".

Silwét y llong ofod[golygu | golygu cod]

Silwét y llong ofod Pioneer o'i chymharu â maint y bodau dynol

Y tu ôl i ffigurau bodau dynol, dangosir silwét y llong ofod Pioneer ar yr un raddfa, fel y gellir adnabod maint y bodau dynol trwy fesur y llong ofod.

Beirniadaeth[golygu | golygu cod]

Efallai taw un o'r rhannau'r diagram sydd y hawsaf i bobl ei deall yw'r anoddaf i estron allfydol eu deall: y saeth sy'n dangos taflwybr Pioneer. Beirniadodd Ernst Gombrich defnydd o saeth oherwydd bod saethau yn artiffact o gymdeithasau heliwr-gasglwr fel y rhai ar y Ddaear; efallai y bydd y symbol saeth yn ddiystyr i ddarganfyddwyr sydd â threftadaeth ddiwylliannol wahanol.[7]

Dywedodd y beirniad celf ac actifydd Craig Owens fod bias rhywiol yn y dewis o wneud i'r dyn yn y diagram berfformio'r chwifio i gyfarch yr allfydolion, tra bod gan y fenyw yn y diagram ei dwylo wrth ei hochrau.[8] Mae ffeministiaid hefyd yn anghytuno â'r dewis hwn am yr un rheswm.[9]

Roedd Carl Sagan yn gofidio bod y ffigurau yn y llun gorffenedig wedi methu ag edrych yn ban-hiliol. Er mai dyma oedd y bwriad, ymddangosodd y ffigurau terfynol yn Gawcasaidd.[9] Yn y llun gwreiddiol, darluniwyd y dyn â thoriad gwallt "Affro", felly byddai nodwedd gorfforol Affricanaidd ychwanegol yn cael ei chynnwys yn y dyn i wneud i'r ffigurau edrych yn fwy pan-hiliol, ond cafodd y manylion hynny eu newid.[10] Ymhellach, dywedodd Carl Sagan fod Linda Sagan yn bwriadu portreadu'r dyn a'r fenyw fel un â gwallt brown, ond oherwydd ond amlinellu sydd gwnaeth y gwallt ymddangos yn benfelyn yn lle.[11]

Penderfynodd Linda Sagan wneud y ffigurau’n noeth er mwyn osgoi'r broblem o'r math o ddillad y dylent eu gwisgo i gynrychioli holl ddynoliaeth, a hefyd i wneud y ffigurau’n fwy anatomegol addysgiadol ar gyfer allfydolion. Ond roedd rhai yn ystyried eu noethni i fod yn bornograffig.[6] Yn ôl y seryddwr Frank Drake, roedd yna lawer o ymatebion negyddol i'r plac oherwydd bod y bodau dynol yn cael eu harddangos yn noeth.[12] Pan gyhoeddwyd delweddau o'r dyluniad terfynol ym mhapurau newydd America, cyhoeddodd un papur newydd y ddelwedd gydag organau rhyw'r dyn wedi'i dileu a chyhoeddodd papur newydd arall y ddelwedd gydag organau rhyw'r dyn a baglur bronnau'r fenyw wedi'u dileu.[4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Sagan, Carl; Sagan, Linda Salzman; Drake, Frank (1972-02-25). "A Message from Earth" (yn en). Science 175 (4024): 881–884. doi:10.1126/science.175.4024.881. ISSN 0036-8075. PMID 17781060. https://science.sciencemag.org/content/175/4024/881.
  2. Pournelle, Jerry (1982). "The Osborne 1, Zeke's New Friends, and Spelling Revisited". BYTE. https://archive.org/details/byte-magazine-1982-04.
  3. "Plaque Engraving, Sign Engraving - Precision Engravers, San Carlos". www.precision-engravers.com. Cyrchwyd 2020-06-29.
  4. 4.0 4.1 4.2 4.3 4.4 Sagan, Carl, 1934-1996. (2000). Carl Sagan's cosmic connection : an extraterrestrial perspective. Cambridge: Cambridge University Press. ISBN 0-521-78303-8. OCLC 43227332.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
  5. Fletcher, Alan,. The art of looking sideways. London. ISBN 0-7148-3449-1. OCLC 46984749.CS1 maint: extra punctuation (link) CS1 maint: multiple names: authors list (link)
  6. 6.0 6.1 Wolverton, Mark. (2004). The depths of space : the story of the Pioneer planetary probes. Washington, D.C.: Joseph Henry Press. ISBN 0-309-09050-4. OCLC 54694487.
  7. Blinder, David; Gombrich, E. H. (23/1983). "The Image and the Eye: Further Studies in the Psychology of Pictorial Representation". The Journal of Aesthetics and Art Criticism 42 (1): 85. doi:10.2307/429951. https://www.jstor.org/stable/429951?origin=crossref.
  8. Mimesis in contemporary theory : an interdisciplinary approach. Volume 2, Mimesis, semiosis and power. Spariosu, Mihai., Bogue, Ronald, 1948-. Philadelphia: J. Benjamins Pub. Co. 1991. ISBN 978-90-272-7785-5. OCLC 778434171.CS1 maint: others (link)
  9. 9.0 9.1 Achenbach, Joel. (1999). Captured by aliens : the search for life and truth in a very large universe. New York, NY: Simon & Schuster. ISBN 0-684-84856-2. OCLC 41606346.
  10. Imagining outer space : European astroculture in the twentieth century. Geppert, Alexander C. T., 1970-. New York: Palgrave Macmillan. 2012. ISBN 978-0-230-36136-2. OCLC 815767211.CS1 maint: others (link)
  11. Spangenburg, Ray, 1939- (2004). Carl Sagan : a biography. Moser, Diane, 1944-. Westport, Conn.: Greenwood Pub. Group. ISBN 0-313-32265-1. OCLC 55846272.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
  12. Murmurs of Earth : the Voyager interstellar record. Sagan, Carl, 1934-1996. (arg. 1st ed). New York: Random House. 1978. ISBN 0-394-41047-5. OCLC 4037611.CS1 maint: others (link) CS1 maint: extra text (link)