Tegeirian

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Tegeirian
Amrediad amseryddol: 80–0 Miliwn o fl. CP
Cretasaidd hwyr – diweddar
Tudalen o'r llyfr Kunstformen der Natur (1904) gan Ernst Haeckel
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosbermau
Ddim wedi'i restru: Monocotyledonau
Urdd: Asparagales
Teulu: Orchidaceae
Teip-enws
Orchis
Tourn. ex L.
Is-deuluoedd
Dosbarthiad poblogaethau'r teulu Orchidaceae

Teulu amryfath o blanhigion blodeuol yw teulu'r tegeirian neu'r Orchidaceae, gyda blodau sydd yn aml yn lliwgar, persawrus a chymhleth.

Yr Orchidaceae yw teulu mwyaf y planhigion blodeuol. Mae tua 28,000 rhywogaeth wedi eu cydnabod yn y teulu, wedi eu cynnwys mewn 763 genws.[1][2] Mae'r teulu'n cynnwys tua 6-11% blanhigion hadau'r byd.[3] Y genera â'r nifer mwyaf o aelodau yw Bulbophyllum (2,000 rhywogaeth), Epidendrum (1,500 rhywogaeth), Dendrobium (1,400 rhywogaeth) a Pleurothallis (1,000 rhywogaeth).

Mae'r teulu hefyd yn cynnwys Vanilla (genws y planhigyn fanila), Orchis (teipdylwyth y teulu) a llawer o blanhigion sy'n cael eu meithrin yn fasnachol, megis Phalaenopsis a Cattleya. Yn ogystal, ers i rywogaethau trofannol gael eu cyflwyno i'r diwydiant garddwriaeth yn y 19G, mae garddwriaethwyr wedi cynhyrchu mwy na 100,000 o gymysgrywiau a chyltifarau.

Disgrifiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'n hawdd gwahaniaethu tegeirianau a phlanhigion eraill, gan bod llawer o nodweddion pwysig yn gyffredin rhwng aelodau'r teulu. Mae'r rhain yn cynnwys: cymesuredd dwyochrog i'r blodau (blodau sygomorffig); blodau yn datblygu a'u pennau i lawr; un petal wedi adnewid i fod yn siap cymhleth (labellum); briger a charpelau wedi cyfuno; a hadau bychain iawn.

Coes a gwreiddiau[golygu | golygu cod y dudalen]

Llysiau lluosflwydd sydd heb unrhyw adeiledd coediog parhaol yw tegeirianau. Gallant dyfu yn dilyn un o ddau batrwm:

  • Monopodaidd: Mae'r goes yn tyfu o un blaguryn, ychwanegir dail o'r pig bob blwyddyn ac mae'r goes yn tyfu'n hirach yn dilyn hyn. Gall coesau tegeirianau â thyfiant monopodaidd gyrraedd hyd o lawer o fetrau, fel y gwelir mewn planhigion Vanda a Vanilla.
  • Sympodiaidd: Mae gan degeirianau sympodiaidd flaen (y tyfiant mwyaf newydd) a chefn (y tyfiant hynaf).[4] Mae'r planhigyn yn cynhyrchu cyfres o goesau cyfagos sy'n tyfu i gyrraedd maint penodol cyn blodeuo a stopio tyfu. Bydd coesau eraill wedyn yn tyfu yn lle'r hen rai. Mae tegeirianau sympodiaidd yn tyfu'n ochrol yn hytrach na'n unionsyth, gan ddilyn yr arwyneb sy'n eu cynnal. Mae twf yn parhau drwy ddatblygiad egin newydd gyda'u dail a'u gwreiddiau eu hunain sy'n torri allan o, neu yn ymyl, yr hen dwf. Tra bo eginyn newydd yn datblygu, gall y rhisom ddechrau tyfu eto allan o 'lygad' - blaguryn heb orffen datblygu - a changhennu. Weithiau, mae gan degeirianau fỳlb ffug gweladwy sy'n ymgripio ar hyd top, neu o dan arwyneb, y pridd.
Anacamptis lactea yn dangos y ddwy gloronen (tuber).

Mae gan rhai tegeirianau daearol, megis Orchis ac Ophrys, ddwy gloronen (tuber) danddaearol. Defnyddir un fel cronfa fwyd ar gyfer adegau oer ac er mwyn cynnal datblygiad yr ail; mae tyfiant uwch ben y pridd yn datblygu o'r ail gloronen.

Mewn hinsoddau cynnes a gwlyb, does dim angen bylbiau ffug ar lawer o degeirianau daearol.

Mae gan degeirianau epiffytig - y rheiny sy'n tyfu ar blanhigion eraill fel strwythur cynhaliol - wreiddiau yn yr awyr all dyfu hyd at nifer o fetrau o hyd. Yn rhannau hynaf y gwreiddiau, mae'r amwisg - meinwe sy'n tarddu o'r epidermis sbyngaidd - yn amsugno lleithder o'r aer

Mae celloedd epidermis gwreiddiau tegeirianau epiffytig yn tyfu ar ongl sgwâr i echelin y gwreiddn er mwyn eu galluogi i gydio yn yr arwyneb sy'n eu cynnal. Daw maeth tegeirianau epiffytig yn bennaf o lwch mwnol, detritws organaidd, tail anifeiliaid a sylweddau eraill sy'n casglu ar eu arwyneb cynhaliol.

Bỳlb ffug Prosthechea fragrans

Mae gwaelod y goes mewn tegeirianau sympodiaidd, neu'r goes gyfan mewn rhai rhywogaethau, wedi tewhau i ffurfio bỳlb ffug (pseudobulb) sy'n cynnwys maeth a dŵr ar gyfer cyfnodau sych.

Mae gan y bỳlb ffug arwyneb llyfn gyda rhychau ar ei hyd, a gall gymryd gwahanol siapau mewn rhywogaethau gwahanol - conigol neu hirgul yn aml. Mae maint bylbiau ffug yn amrywiol - yn y genws Bulbophyllum, tua dau milimedr yw ei faint, tra bo gan tegeirian mwyaf y byd, Grammatophyllum speciosum, fỳlb ffug sy'n dair metr o hyd. Mae gan rhai rhywogaethau Dendrobium fylbiau ffug hir fel ffon gyda dail crwn byrion ar ei hyd; mewn tegeirianau eraill, mae'r bỳlb ffug wedi ei guddio o fewn y dail.

Dail[golygu | golygu cod y dudalen]

Fel y rhanfwyaf o fonocotyledonau, mae gan degeirianau ddail syml gyda gwythiennau sy'n rhedeg yn gyfochrog i echelin y ddeilen, er fod gan rhai yn y llwyth Vanilloideae wythiennau rhwydog. Gall dail fod yn wyffurf, yn waywffurf neu'n grwn, a gellir cael llawer o amrywiaeth o ran maint ar un planhigyn.

Mae adeiledd y dail yn cyfateb i gynefin penodol y planhigyn. Mewn rhywogaethau sy'n tyfu yng ngolau llawn yr haul, mae'r dail yn drwchus a fel lledr, tra bo gan rywogaethau sy'n tyfu mewn cysgod ddail hir, cul a thennau.

Mae dail y rhan fwyaf o degeirianau yn lluosflwydd - hynny yw, maen nhw'n byw am aml i flwyddyn ar y planhigyn. Mae tegeirianau eraill, yn enwedig y rheiny â dail plygedig megis Catasetum, yn bwrw eu dail bob blwyddyn ac yn datblygu dail newydd ynghyd â bylbiau ffug newydd.

Mae rhai tegeirianau, gan gynnwys Dendrophylax lindenii (tegeirian ysbryd), Aphyllorchis a Taeniophyllum, â dail heb ddatblygu'n llawn, gan ddibynnu ar eu gwreiddiau gwyrdd ar gyfer photosynthesis. Mae hyn yn wir ym mhob un o'r rhywogaethau heterotroffig.

Blodau[golygu | golygu cod y dudalen]

Blodyn Dactylorhiza sambucina. Cyfeirir at y rhifau yn nhestun yr erthygl.

Mae'r Orchidaceae yn enwog am eu blodau amryfath.

Mae gan rhai tegeirianau flodau unigol, on mae gan y rhan fwyaf fflurgeinciau sypynnog, weithiau gyda llawer iawn o flodau. Gall y goesen flodeuol fod yn waelodol  (wedi ei chynhyrchu o waelod y gloronen), fel yn y genws Cymbidium, yn frigol (yn tyfu o frig y prif goes) fel yn y genws Cattleya, neu'n geseiliol (yn tyfu o gesail y ddeilen) fel yn y genws Vanda.

Mae blodau tegeirianau yn sygomorffig (gyda chymesuredd dwyochrog), er y gall y cymesuredd hwn fod yn anodd i'w weld mewn rhai genera megis Mormodes, Ludisia a Macodes.

Mae gan flodau'r Orchidaceae, fel blodau'r rhan fwyaf o'r monocotyledonau, ddwy sidell (whorl) o organnau anffrwythlon. Yn y sidell allanol, mae tri sepal ac yn y sidell fewnol mae tri petal. Mae'r sepalau fel arfer yn debyg iawn i'r petalau, felly defnyddir yr enw tepalau (1) yn aml, ond gallant fod yn hollol wahanol.

Nodwedd sy'n gyffredin i bob tegeirian yw'r labelwm (6) - y petal canolig wedi ei ehangu a'i newid. Mewn gwirionedd, dyma'r petal canolig uchaf. Fodd bynnag, fel mae'r blodyn yn datblygu, mae'r ofari isaf (7) neu'r pedicl (coesyn) yn cylchdroi 180° nes bod y labelwm ar ran isaf y blodyn er mwyn dod yn blatfform glanio i beillwyr. Atblygiad yw'r enw ar y digwyddiad hwn. Gellir gweld dirdro'r ofari isaf yn y croestoriad (islaw ar y dde). Mae'r gallu yma i atblygu wedi ei golli mewn rai tegeirianau, ee Epidendrum secundum.

Croestoriad blodyn Vanilla planifolia

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Christenhusz, M. J. M. & Byng, J. W. (2016). "The number of known plants species in the world and its annual increase". Phytotaxa (Magnolia Press) 261 (3): 201–217. doi:10.11646/phytotaxa.261.3.1. http://biotaxa.org/Phytotaxa/article/download/phytotaxa.261.3.1/20598.
  2. "WCSP". World Checklist of Selected Plant Families. http://data.kew.org/cgi-bin/vpfg1992/genlist.pl?ORCHIDACEAE. Adalwyd 2 April 2010. (See External links below).
  3. Yohan Pillon & Mark W. Chase (2007). "Taxonomic exaggeration and its effects on orchid conservation". Conservation Biology 21 (1): 263–265. doi:10.1111/j.1523-1739.2006.00573.x. PMID 17298532.
  4. Nash, N., and Frownie, S. (2008). Complete guide to orchids. (Meredith Publishing Group) p. 12.