Francesco Filelfo

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Francesco Filelfo
Francesco Filelfo - Imagines philologorum.jpg
Ganwyd 25 Gorffennaf 1398 Edit this on Wikidata
Tolentino Edit this on Wikidata
Bu farw 31 Gorffennaf 1481 Edit this on Wikidata (83 oed)
Fflorens Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth March of Ancona Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Padua Edit this on Wikidata
Galwedigaeth cyfieithydd, athro, academydd, diplomydd, ysgrifennwr, bardd Edit this on Wikidata
Cyflogwr

Ysgolhaig a bardd Eidalaidd a dyneiddiwr yng nghyfnod y Dadeni Dysg oedd Francesco Filelfo (13981481) sydd yn nodedig am gasglu llawysgrifau Groeg clasurol.

Ganed yn Tolentino yng nghanolbarth yr Eidal. Astudiodd y gyfraith a rhethreg ym Mhrifysgol Padova, a bu'n athro yno am gyfnod. Teithiodd i Gaergystennin ym 1420 i berffeithio'i grap ar yr iaith Roeg. Treuliodd saith mlynedd yng Nghaergystennin yn astudio Groeg dan yr ysgolhaig Manuel Chrysoloras, a phriododd â Theodora, merch Chrysoloras. Dychwelodd Filelfo i Fenis ym 1427 gyda'i theulu a helfa fawr o destunau Groeg.[1]

Penodwyd Filelfo yn athro rhethreg ac athroniaeth foesol ym Mhrifysgol Bologna ym 1428. Symudodd i Brifysgol Fflorens ym 1429, a denodd nifer fawr o wrandawyr i'r ddarlithoedd ar awduron Groeg, gan gynnwys dinasyddion amlwg megis Cosimo de’ Medici, Palla Strozzi, a Leonardo Bruni. Collodd ffafr Cosimo ym 1431, ac ym 1433 bu ymdrech i'w ladd. Pan ddychwelodd y Medici i rym ym 1434, ffoes Filelfo o Fflorens. Addysgodd yn Siena o 1435 i 1438 ac yno goroesodd Filelfo gais arall i'w lofruddio.[1]

Ym 1439 cafodd Filelfo ei benodi yn bardd llys i Ddug Milan ac yn athro rhethreg ym Mhrifysgol Padova. Am weddill ei oes, bu dan nawddogaeth y Visconti a'r Sforza, dugiaid Milan. Cyfieithodd sawl testun Groeg i Ladin, ac ysgrifennodd y dychangerddi Horasaidd Satyrae, ymgomion, arwrgerdd yn arddull Fyrsil o'r enw Sforziad, sawl casgliad o lythyron a cherddi, a thraethawd ar bwnc athroniaeth foesol.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 1.2 Charles G. Nauert, Historical Dictionary of the Renaissance (Lanham, Maryland: The Scarecrow Press, 2004), t. 141–2.