Neidio i'r cynnwys

Francesco Bartolomeo Rastrelli

Oddi ar Wicipedia
Francesco Bartolomeo Rastrelli
Ganwyd1700 Edit this on Wikidata
Paris Edit this on Wikidata
Bu farw29 Ebrill 1771 (yn y Calendr IwliaiddEdit this on Wikidata
St Petersburg Edit this on Wikidata
DinasyddiaethYmerodraeth Rwsia Edit this on Wikidata
Galwedigaethpensaer Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Academi Ymerodrol y Celfyddydau Edit this on Wikidata
Adnabyddus amRundāle Palace, Saint Andrew's Church, Anichkov Palace, Vorontsov Palace, Palas Gaeaf, Smolny Cathedral, Grande palais de Catherine, Stroganov Palace, St Petersburg, Moscfa, Tsarskoye Selo Edit this on Wikidata
MudiadBaróc Edit this on Wikidata
TadCarlo Bartolomeo Rastrelli Edit this on Wikidata

Roedd Francesco Bartolomeo Rastrelli (Rwseg: Франческо Бартоломео (Варфоломей Варфоломеевич) Растрелли) (1700 ym Mharis Deyrnas Ffrainc - 29 Ebrill 1771 yn St Petersburg, Ymerodraeth Rwsia) yn bensaer Eidalaidd a weithiodd yn bennaf yn Rwsia. Datblygodd arddull hawdd ei adnabod o Faróc Hwyr a oedd yn ysblennydd a mawreddog. Mae ei waith mawr, gan gynnwys Palas y Gaeaf yn St Petersburg a Phalas Catherine yn Tsarskoye Selo yn enwog am eu moethusrwydd ac addurn anhygoel.[1]

Bywgraffiad

[golygu | golygu cod]

Ym 1716, symudodd Bartolomeo i St Petersburg, Rwsia, ynghyd â'i dad, y cerflunydd Eidalaidd Carlo Bartolomeo Rastrelli (1675-1744). Ei uchelgais oedd cyfuno ffasiwn pensaernïol diweddaraf yr Eidal gyda thraddodiadau arddull Baróc Moscow. Daeth y comisiwn pwysig cyntaf ym 1721 pan ofynnwyd iddo adeiladu palas i'r Tywysog Demetre Cantemir cyn-reolwr Moldavia.

Fe'i penodwyd i swydd uchel bensaer y llys ym 1730. Cafodd ei waith ei ffafrio gan bendefigion benywaidd ei gyfnod, felly cadwodd ei swydd trwy gydol teyrnasiad yr ymerodresau Anna (1730-1740) ac Elizabeth (1741-1762).

Prosiect olaf a mwyaf uchelgeisiol Rastrelli oedd y Convento Smolny yn St Petersburg lle bu'r Ymerodres Elizabeth yn treulio gweddill ei bywyd. Bwriadwyd i dŵr clochdy'r conventio bod yr adeilad talaf yn St Petersburg a Rwsia i gyd. Ond daeth marwolaeth Elizabeth ym 1762 a gobeithion Rastrelli i gyflawni'r dyluniad mawreddog hwn i ben heb ei gwblhau.

Bu'r i'r ymerodres newydd, Catherine II ymwrthod a phensaernïaeth Faróc gan ei ddisgrifio fel hufen chwisg hen ffasiwn", a bu rhaid i'r pensaer oedrannus ymddeol i Courland lle bu'n goruchwylio cwblhau ac addurno'r palasau dugol.

Treuliwyd ei flynyddoedd diwethaf mewn masnach di nod gyda chrefftwyr Eidaleg. Fe'i hetholwyd i Academi'r Celfyddydau Ymerodraethol ychydig fisoedd cyn ei farwolaeth. Mae'r sgwâr o flaen y Convento Smolny wedi dwyn enw Rastrelli ers 1923. Mae'n destun y cyfansoddiad cerddorol, Rastrelli yn St Petersburg, a ysgrifennwyd yn 2000 gan y cyfansoddwr Eidalaidd Lorenzo Ferrero.

Deg adeilad gan Rastrelli sydd dal i fodoli

[golygu | golygu cod]
# Delwedd Enw Lleoliad Dyddiad
1 Palas Rundāle Pilsrundāle ger Bauska, Latfia 1736—1740
1764—1767
2 Palas Jelgava Jelgava, Latfia 1738—1740
1763—1772
3 Palas Peterhof Petergof ger St Petersburg, Rwsia 1747—1755
Capeli Palas Peterhof Petergof ger St Petersburg, Rwsia 1747—1751
4 Eglwys San Andreas Kiev Kyiv, Wcráin 1748—1767
5 Cwfaint Smolny St Petersburg, Rwsia 1748—1764
6 Palas Vorontsov St Petersburg, Rwsia 1749—1757
7 Palas Catherine Tsarskoe Selo (Pushkin), Rwsia 1752—1756
Pafiliwn y Feudwyfa Tsarskoe Selo (Pushkin), Rwsia 1749
8 Palas Mariyinsky Kyiv, Wcráin 1752
1870
9 Palas Stroganov St Petersburg, Rwsia 1753—1754
10 Palas y Gaeaf St Petersburg, Rwsia 1754—1762[2]

Adeiladau a dymchwelwyd

[golygu | golygu cod]
# Delwedd Enw Nodiadau Lleoliad Dyddiad
1 Annenhof Adeiladwyd o goed, wedi'i ddisodli gan Balas Catherine (Moscow) Moscfa, Rwsia 1731
2 Palas gaeaf Anna Wedi'i ddisodli gan Balas y Gaeaf St Petersburg, Rwsia 1732—1735
dymchwelwyd 1754
3 Palas yr haf Adeiladwyd o goed, dymchwelwyd i wneud lle i Gastell Sant Mihangel St Petersburg, Rwsia 1741—1744
dymchwelwyd 1797
4 Palas gaeaf y Kremlin dymchwelwyd i wneud lle i Balas Mawr y Kremlin Kremlin Moscfa, Rwsia 1747—1756
ailadeiladwyd 1798
dymchwelwyd 1837

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]