Neidio i'r cynnwys

Francesca Rhydderch

Oddi ar Wicipedia
Francesca Rhydderch
Ganwyd10 Chwefror 1969 Edit this on Wikidata
Aberystwyth Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethllenor Edit this on Wikidata
Cyflogwr
PriodDamian Walford Davies Edit this on Wikidata

Llenor ac academydd o Gymru sy'n ysgrifennu yn y Saesneg a'r Gymraeg yw Francesca Rhydderch (ganed 10 Chwefror 1969 yn Aberystwyth). Cyhoeddwyd ei storïau byrion mewn cyfrolau a chylchgronau â'u darlledu ar BBC Radio 4 a BBC Radio Wales.[1]

Bywgraffiad

[golygu | golygu cod]

Ganed Francesca yn Aberystwyth, yn un o bedwar o blant. Ei chwaer yw'r llenor Samantha Wynne Rhydderch. Graddiodd mewn Ieithoedd Modern yng Ngholeg Newnham, Caergrawnt ac enillodd PhD mewn Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Aberystwyth.[2] Testun ei thraethawd oedd cymhariaeth rhwng llenyddiaeth Virginia Woolf a Kate Roberts.[3] Mae'n briod â'r academydd a'r llenor, Damian Walford Davies ac yn byw yng Nghaerdydd.

Bu'n Olygydd Cynorthwyol y cylchgrawn Planet: The Welsh Internationalist a daeth yn Olygydd Cynorthwyol yn 1999.[4] Roedd yn olygydd y cylchgrawn llenyddol, New Welsh Review rhwng 2002 a 2008.[5] Yn 2015 golygodd hi a Penny Thomas y New Welsh Short Stories.[6] Bu'n olygydd y cylchgrawn trawsffiniol, Transcript.[7]

Bu'n Athro Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Abertawe ers 2015.[8]

Llyfryddiaeth Dethol

[golygu | golygu cod]
  • The Rice Paper Diaries
  • The Taxdermist's Daughter
  • Cyfaill - drama am y llenor, Kate Roberts
  • Dark Tonight (Gwasg Seren, 2018) cyfieithiad o nofel Kate Roberts, Tywyll Heno), 2018

Gwobrau

[golygu | golygu cod]
  • Rhoddwyd The Rice Paper Diaries ar restr hir Gwobr Nofer Gyntaf Authors’ Club ac enillodd Wobr Llyfr y Flwyddyn Cymru (Saesneg) 2014.[9]
  • Rhestrferwyd The Taxidermist’s Daughter ar gyfer y BBC National Short Story Award yn 2014.[10]
  • Rhestrfewyd ei drama Gymraeg, Cyfaill ar gyfer Gwobr Beirniaid Theatr Dramodydd Gorau yn 2014.[11]
  • Gwobrwywyd hi fel Cymrawd Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Aberystwyth yng Ngorffennaf 2015.[10]

Dolenni

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "www.gwales.com - 9781781720516, Rice Paper Diaries, The". www.gwales.com. Cyrchwyd 2018-02-28.
  2. Price, Karen (2014-09-21). "Welsh writer Francesa Rhydderch bids for major award". walesonline. Cyrchwyd 2018-02-28.
  3. https://literature.britishcouncil.org/writer/francesca-rhydderch
  4. "BBC National Short Story Award - The BBC National Short Story Award Shortlist 2014 - BBC Radio 4". BBC (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-02-28.
  5. "New Welsh Review Archive". archiveswales.llgc.org.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-02-28.
  6. "Francesca Rhydderch and Tyler Keevil talk to Penny Thomas, Hay Festival Winter Weekend | Seren Books". www.serenbooks.com (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-02-28. Cyrchwyd 2018-02-28.
  7. https://www.lit-across-frontiers.org/transcript-about/
  8. "Dr Francesca Rhydderch". www.swansea.ac.uk. Cyrchwyd 2018-02-28.
  9. "Francesca Rhydderch - Literature". literature.britishcouncil.org (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-02-28.
  10. 10.0 10.1 "Dr Francesca Rhydderch honoured as Fellow - Aberystwyth University". www.aber.ac.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-02-28.
  11. "Francesca Rhydderch | Seren Books". www.serenbooks.com (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-05-10. Cyrchwyd 2018-02-28.