Ffeuen goffi

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Ffa coffi wedi'u rhostio

Hedyn y planhigyn coffi yw ffeuen goffi a ffynhonnell ar gyfer coffi. Dyna'r garreg o fewn i'r ffrwyth coch neu borffor sy'n aml yn cael ei gyfeirio ato fel ceiriosen. Yn union fel ceirios cyffredin, mae'r ffrwyth coffi hefyd yn ffrwyth caregog. Er mai hadau yw ffa coffi, mae nhw'n cael eu cyfeirio atynt fel 'ffa' am eu bod yn edrych yn debyg i ffa go iawn. Mae'r ffrwythau – ceirios coffi neu fwyar coffi – fel arfer yn cynnwys dwy garreg gyda'u hymylon fflat yn erbyn ei gilydd. Mae canran fechan o geirios yn cynnwys un hedyn, yn hytrach na'r ddau arferol. Gelwir rhain yn "pysrawn". Ceir pysrawn mewn 10 i 15% o ffrwythau yn unig, ac mae yna gred gyffredin (heb ei phrofi'n wyddonol) bod mwy o flas arnynt nag sydd ar ffa coffi arferol.[1] Fel  cnau Brasil (hedyn) a reis gwyn, mae ffa coffi yn cynnwys endosberm yn bennaf.[2]

Y ddau fath pwysicaf o blanhigyn coffi o safbwynt economaidd yw'r Arabica a'r Robusta; mae tua ~60% o'r coffi sy'n cael ei gynhyrchu yn Arabica a ~40% yn Robusta.[3] Mae ffa Arabica yn cynnwys 0.8–1.4% o gaffein a ffa Robusta yn cynnwys 1.7–4% o gaffein.[4] Gan fod coffi yn un o'r diodydd sy'n cael ei yfed fwyaf o yn y byd, mae ffa coffi yn gnwd gwerthfawr ac yn gynnyrch allforio pwysig. Mae coffi yn dad a thros 50% o enillion trwy gyfnewid tramor i rai gwledydd sy'n datblygu.[5]

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn ol chwedloniaeth, cafodd coffi ei ddarganfod yn Ethiopia gan fugail geifr o'r enw Kaldi.

Dyddiadau arwyddocaol
  • Cafodd y planhigyn coffi cyntaf ei ddarganfod ym mynyddoedd Yemen. Erbyn 1500, roedd yn cael ei allforio i weddill y byd o borthladd Mocha, Yemen.
  • Amaethu cyntaf yn India (Chikmagalur) – 1600
  • Amaethu cyntaf yn Ewrop (hefyd yr amaethu cyntaf y tu allan i ddwyrain Affrica/Arabia) – 1616
  • Amaethu cyntaf yn Java – 1699
  • Amaethu cyntaf yn y Caribi (Ciwba, Hispaniola (Haiti and the Gweriniaeth Dominica), Jamaica, Puerto Rico) – 1715–1730
  • Amaethu cyntaf yn Ne America – 1730
  • Amaethu cyntaf yn India'r Dwyrain Iseldiraidd – 1720
  • Y planhigion yn cael eu cyflwyno i'r Americas am y tro cyntaf o gwmpas 1723.
  • Ffa wedi'u rhostio yn cael eu gwerthu mewn marchnad arwerthu (Pittsburgh) – 1865
  • Datblygu dulliau pwysig o sychu trwy chwistrellu yn y 1950au
Dosbarthiad
Y llain ffa mewn melyn. Mae'r 20 prif gynhyrchydd (2011) mewn gwyrdd.

Mae De Amercia bellach yn gyfrifol am tua 45% o holl allforion coffi y byd. Mae'r rhan fwyaf o'r coffi yma yn cael ei dyfu yn Brasil.

Mae'r Unol Daleithiau yn mewnforio mwy o goffi gan unrhyw genedl arall.[6] Yn ol ystadegau a gasglwyd yn 2011, roedd 4.24kg (9 pwys) o goffi yn cael ei yfed gan bob person ar gyfartaledd, ac roedd gwerth y coffi oedd yn cael ei fewnforio dros $8 biliwn.[7] Yn 2015, roedd Americaniaid yn yfed tua 400 miliwn o gwpanau o goffi y dydd, mwy nag unrhyw wlad arall yn y byd.[8]

Mwyar coffi

Mae planhigion coffi yn tyfu mewn ardal benodol rhwng trofannau CancrCapricorn sy'n cael ei galw yn y llain ffa neu'r llain goffi.[9][10][11][12]

Etymoleg[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r Oxford English Dictionary yn awgrymu bod ieithoedd Ewropeaidd wedi cael yr enw o'r gair Tyrceg kahveh, o gwmpas y flwyddyn 1600, efallai trwy'r Eidaleg caffè. Arabeg qahwah, sy'n cael ei ynganu fel kahveh mewn Tyrceg, sef yr enw ar y trwyth neu ddiod; a oedd yn ol geiriadurwyr Arabaidd yn wreiddiol yn golygu "gwin" neu fath o win, ac yn deillio o wraidd y ferf qahiya "i beidio a chael archwaeth." Theori arall gyffredin yw bod yr enw yn deillio o Dalaith Kaffa, Ethiopia, ble gallai'r rhywogaeth fod wedi tarddu.[13]

Trawstoriad ceiriosen goffi

Planhigyn coffi[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae coeden goffi tua 5-10 medr (16-33 troedfedd) o uchedr ar gyfartaledd. Gydag amser, mae'n canghennu llai a llai ac yn deilio ac yn dwyn mwy o ffrwyth.

Mae planhigion coffi yn cael eu tyfu mewn rhesi sawl troedfedd ar wahan. Mae rhai ffermwyr yn plannu cored ffrwythau o'u cwmpas neu'n plannu'r coffi ar lethrau bryniau, gan eu bod yn tyfu dan amodau penodol. Yn ddelfrydol, mae ffa Arabica yn cael eu tyfu mewn tymheredd rhwng 15 a 24 °C (59 a 75 °F) a'r Robusta rhwng 24-30 °C (75-86 °F) ac yn derbyn rhwng 15 a 30 centimedr (5.9 a 11.8 modfedd) o law y flwyddyn.[14] Mae angen glaw trwm ar ddechrau'r tymor pan mae'r ffrwyth yn datblygu a llai yn ddiweddarach yn y tymor wrth iddo aeddfedu. 


Cyfeirnodau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "Peaberry Coffee Beans: Speciality Coffee Drinkers Guide". ilovebuttercoffee.com. http://ilovebuttercoffee.com/peaberry-coffee-beans/. Adalwyd 1 Dec 2016.
  2. "Arabica and Robusta Coffee Plant". Coffee Research Institute. http://www.coffeeresearch.org/agriculture/coffeeplant.htm. Adalwyd 25 August 2011.
  3. "Coffee: World Markets and Trade". United States Department of Agriculture - Foreign Agricultural Service. June 16, 2017. http://usda.mannlib.cornell.edu/usda/fas/tropprod//2010s/2017/tropprod-06-16-2017.pdf.
  4. "Botanical Aspects". International Coffee Organization. Archifwyd o y gwreiddiol ar 3 October 2011. https://web.archive.org/web/20111003123956/http://dev.ico.org/botanical.asp.
  5. "The Story of Coffee". International Coffee Organization. Archifwyd o y gwreiddiol ar 3 October 2011. https://web.archive.org/web/20111003124016/http://dev.ico.org/coffee_story.asp.
  6. "Monthly Coffee Market Report" (PDF). International Coffee Organization. July 2011. p. 7. http://dev.ico.org/documents/cmr-0711-e.pdf.
  7. "United States of America Country Datasheet" (PDF). International Coffee Organization. 2011. Archifwyd o y gwreiddiol ar 16 January 2013. https://web.archive.org/web/20130116021130/http://dev.ico.org/countries/usa.pdf.
  8. "Coffee Statistics 2015". http://www.e-importz.com/coffee-statistics.php.
  9. Klos, Beth. "The Coffee Bean – Not a Fiend". http://www.brighamandwomens.org/Patients_Visitors/pcs/nutrition/services/healtheweightforwomen/special_topics/intelihealth1106.aspx.
  10. Soin, Eija (September 2005). "Land use change patterns and livelihood dynamics on the slopes of Mt. Kilimanjaro, Tanzania". Agricultural Systems 85 (3): 306–323. doi:10.1016/j.agsy.2005.06.013.
  11. Lamb HH (1977). Climate: present, past and future 2. p. 681. ISBN 0-06-473881-7. 
  12. Sevey, Glenn C. (1907). Bean Culture: A Practical Treatise on the Production and Marketing of Beans. Orange Judd Company. ASIN B000863SS2. 
  13. Richard M. Souza, 2008, Plant-Parasitic Nematodes of Coffee, p. 3.
  14. "Major coffee producers". National Geographic. 2015. http://www.nationalgeographic.com/coffee/map.html.