Fferm Ffactor

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Fferm Ffactor
Fformat Cyfres adloniant
Cyflwynwyd gan Daloni Metcalfe (2009-13)
Ifan Jones Evans (2014-)
Gwlad/gwladwriaeth Cymru
Nifer cyfresi 9
Cynhyrchiad
Amser rhedeg 60 munud
Cwmnïau
cynhyrchu
Cwmni Da
Darllediad
Sianel wreiddiol S4C
Darllediad gwreiddiol 20 Hydref 2009

Rhaglen adloniant cystadleuol yw Fferm Ffactor a ddarlledir ar S4C. Mae'r gyfres yn dangos 10 ffermwr yn cymryd rhan mewn nifer o dasgau yn y maes amaethyddol, wrth gystadlu am wobr o gerbyd 4x4 newydd. Ar ddiwedd bob rhaglen mae'r beirniaid yn dewis cael gwared un cystadleuydd. Yn ystod y rhaglen byddai'r ffermwyr yn gallu bwrw ei bol yn y 'cab cyffesu', caban tractor lle roedden nhw'n siarad yn uniongyrchol a chamera.[1]

Cynhyrchir y gyfres gan Cwmni Da. Seiliwyd y fformat ar y sioe Wyddelig Ffeirm Ffactor a ddarlledwyd ar sianel TG4 yn Iwerddon. Erbyn hyn mae'r fformat wedi ei werthu yn fyd-eang.[2] Cyflwynydd y pum cyfres gyntaf oedd Daloni Metcalfe gydag Ifan Jones Evans yn cymryd drosodd yn 2014.

Yn 2015 daeth fformat newydd "Brwydr y Ffermwyr" lle byddai timau o dri ffermwr yn cystadlu yn erbyn ei gilydd. Yn 2016 symudodd y darllediad i nos Sadwrn ac roedd pwyslais ar ffermwyr ifanc. Y wobr tro hon oedd taith i Batagonia.[3]

Cyfres 9 - Selebs[golygu | golygu cod y dudalen]

Nid oedd cyfres yn 2017 ond dychwelodd y sioe yn Chwefror 2018 gyda phedwar tîm o 'selebs' lle mae gan y capteiniaid brofiad y ffermio. Y beirniaid y gyfres hon oedd Caryl Gruffydd Roberts, Richard Tudor ac Wyn Morgan. Bydd y tîm buddugol yn ennill y teitl a chyfraniad o £3,000 i elusen o'u dewis.[4]

Tîmau[golygu | golygu cod y dudalen]

Beirniaid[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Athro Wynne Jones (2009-14)
  • Dai Jones (2009-10)
  • Aled Rees (2011-14)
  • Richard Tudor (2015-)
  • Wyn Morgan (2015-)
  • Caryl Gruffydd Roberts (2015-)

Enillwyr[golygu | golygu cod y dudalen]

  • 2009 – Aled Rees
  • 2010 – Teifi Jenkins
  • 2011 – Malcolm Davies
  • 2012 – Dilwyn Owen
  • 2013 – Gwenno Pugh
  • 2014 – Roy Edwards

Brwydr y Ffermwyr[golygu | golygu cod y dudalen]

  • 2015 – Tîm Cyn-gystadleuwyr: Rhodri Jones, Rhys Williams, Heilin Thomas (a team of former contestants)
  • 2016 – Tîm Gelli Aur: Jack Davies, Carys Jones, Aled Davies

Selebs[golygu | golygu cod y dudalen]

  • 2017 - Tîm Gareth Wyn Jones

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1.  Dai yn chwilio am ffermwr gorau Cymru. S4C. Adalwyd ar 30 Ionawr 2018.
  2. (Saesneg) Irish TV Format ‘Feirm Factor’ Goes Global. iftn.ie (20 Medi 2012). Adalwyd ar 30 Ionawr 2018.
  3. (Saesneg) Fferm Ffactor. ukgameshows.com. Adalwyd ar 30 Ionawr 2018.
  4.  O’r carped coch i garped gwair - selebs sy’n gobeithio profi eu hunain ar y buarth.. S4C (30 Ionawr 2018).

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]