Fanny Mendelssohn

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Fanny Mendelssohn
Fannymendelssohn-improved.jpg
Ganwyd 14 Tachwedd 1805 Edit this on Wikidata
Hamburg Edit this on Wikidata
Bu farw 14 Mai 1847 Edit this on Wikidata (41 oed)
Achos: gwaedlif ar yr ymennydd Edit this on Wikidata
Berlin Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Conffederasiwn y Rhein Edit this on Wikidata
Galwedigaeth cyfansoddwr, pianydd Edit this on Wikidata
Arddull cerddoriaeth glasurol Edit this on Wikidata
Prif ddylanwad Ludwig van Beethoven, Johann Sebastian Bach, Felix Mendelssohn Edit this on Wikidata
Tad Abraham Mendelssohn Bartholdy Edit this on Wikidata
Mam Lea Mendelssohn Bartholdy Edit this on Wikidata
Priod Wilhelm Hensel Edit this on Wikidata
Plant Sebastian Hensel Edit this on Wikidata

Pianydd a chyfansoddwraig o'r Almaen oedd Fanny Mendelssohn, wedyn Fanny Mendelssohn Bartholdy, ac ar ôl ei phriodas Fanny Hensel (14 Tachwedd 180514 Mai 1847).

Roedd hi'n chwaer hynaf y cyfansoddwr Felix Mendelssohn. Fel plentyn, dangosodd hi ddawn cerddorol aruthrol a dechreuodd ysgrifennu cerddoriaeth. Fodd bynnag, roedd hi wedi'i gyfyngu gan yr agwedd gyffredinol tuag at fenywod yn ystod y cyfnod. Er gwaetha'r canmoliaeth a gafodd gan gerddorion nodedig, roedd ei thad, y bancwr Abraham Mendelssohn, yn oddefgar, yn hytrach na chefnogol, o'i gweithgareddau fel cyfansoddwr. Yn 1820 ysgrifennodd ei thad ati: "Gall y gerddoriaeth ddod yn broffesiwn iddo [sef ei brawd Felix], tra mai addurn yn unig ydyw i ti …"[1]

Cyfansoddodd hi dros 460 darn o gerddoriaeth, y mwyafrif ohonynt yn ganeuon a darnau ar gyfer piano. Ar hyd ei hoes, arhosodd mewn cysylltiad â'i brawd mwyaf amlwg, ac fe wnaethant ymgynghori â'i gilydd ar faterion cerddorol. Cyhoeddwyd rhai o'i chaneuon yn wreiddiol o dan enw ei brawd, ac ymddangosodd nifer fach o dan ei henw ei hun yn ystod ei hoes hefyd.

Yn 1829 priododd Fanny yr arlunydd Wilhelm Hensel a'r flwyddyn ganlynol cafodd ei hunig blentyn, Sebastian Hensel.

Bu farw o strôc ym Merlin ym Mai 1847, chwe mis cyn i'w brawd Felix farw o'r un achos.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "Die Musik wird für ihn vielleicht Beruf, während sie für Dich stets nur Zierde …": llythyr o Abraham Mendelssohn i Fanny Mendelssohn, 16 Gorffennaf 1820; Sebastian Hensel, Die Familie Mendelssohn, 1829–1847: Nach Briefen und Tagebüchern (Berlin, 1880), cyf. 1, t. 97.
Baner Yr AlmaenEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Almaenwr neu Almaenes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.