Conffederasiwn y Rhein
Gwedd
| Math | cydffederasiwn |
|---|---|
| Prifddinas | Free City of Frankfurt, Frankfurt am Main |
| Sefydlwyd | |
| Iaith/Ieithoedd swyddogol | Almaeneg |
| Daearyddiaeth | |
| Cyfesurynnau | 50.12°N 8.68°E |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff deddfwriaethol | diet |
![]() | |
Undeb o'r holl daleithiau Almaenig ac eithrio Prwsia ac Awstria oedd Conffederasiwn y Rhein. Sefydlodd Napoleon y conffederasiwn hwn yn sgil diddymiad yr Ymerodraeth Lân Rufeinig ym 1806. Gwnaed y 18 o daleithiau yn wladwriaethau dibynnol i Ffrainc. Wedi i'r Rwsiaid drechu goresgyniad Napoleon, newidodd y taleithiau eu teyrngarwch yn y Rhyfeloedd Napoleonig gan achosi cwymp y conffederasiwn ym 1813. Sbardunwyd achos uniad yr Almaen gan yr undeb hwn.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Crystal, David (gol.). The Penguin Encyclopedia (Llundain, Penguin, 2004), t. 367.
